Tudalen 1 o 2

Cofio Siôn Ifan Evans

PostioPostiwyd: Sul 10 Chw 2008 11:40 pm
gan dafyddpritch
Newyddion tu hwnt o drist y penwythnos hwn oedd marwolaeth frawychus Siôn Ifan Evans yn oriau man bore dydd Sadwrn. Siôn oedd Swyddog Ieuenctid Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac is-warden adeilad Coleg y Bala.

Roedd Siôn yn Gristion o argyhoeddiad ac roedd y ffordd yr oedd yn byw ei fywyd bob dydd, yn ffordd yr oedd ei ffrindiau yn ei gweld fel esiampl. Cefaint y fraint o gyd fyw ag ef yn y Bala am flwyddyn; braint oedd ei adnabod a braint oedd ei gael yn ffrind.

Mae’n gadael ei rieni a’i chwaer ac estynnaf fy nghydymdeimlad mwyaf tuag atynt hwy, ei deulu a’i ffrindiau.

“Gwerthfawr yng ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint Ef.” Salm 116 ad.15.

Delwedd

Re: Cofio Siôn Ifan Evans

PostioPostiwyd: Llun 11 Chw 2008 10:23 am
gan Dafydd Iwanynyglaw
Colled uffernol, i'r genhedlaeth bresennol ond i'r dyfodol hefyd - roedd Sion yn siwr o fod yn flaenllaw yng ngwaith yr Eglwys yn y blynyddoedd i ddod.

Sion yn foi iawn.

Bydded i oleuni diderfyn ddisgleirio arno.
Bydded iddo orffwys mewn hedd a chodi i ogoniant
.

Re: Cofio Siôn Ifan Evans

PostioPostiwyd: Llun 11 Chw 2008 10:44 am
gan Hedd Gwynfor
Roeddwn i'n lwcus iawn o fod yn yr un blwyddyn â Siôn yn Ysgol Dyffryn Teifi ac yn ffrindiau da yn ystod ein cyfnod yno. Siôn Coets oeddwn ni'n ei alw, ar ôl rhyw drip ysgol pan ddaeth yn amlwg fod Siôn yn chwaraewr Coets o fri! Er mod i wedi colli cysylltiad dros y blynyddoedd, roeddwn dal yn gweld ein gilydd yn achlysurol, y tro diwethaf yn Eisteddfod yr Wyddgrug nôl yn yr Haf. Mae'n golled enfawr. Pob cydymdeimlad i'w deulu ac i bawb a gafodd y fraint o'i adnabod.

Re: Cofio Siôn Ifan Evans

PostioPostiwyd: Llun 11 Chw 2008 11:35 am
gan Gowpi
Fy nghydymdeimladau dwysaf gyda'r teulu. Bydd colled enfawr ar ei ol yn ei gynefin, yn ei waith, yng Nghymru.

Re: Cofio Siôn Ifan Evans

PostioPostiwyd: Llun 11 Chw 2008 1:45 pm
gan YrHeliwr
Fel Hedd, roeddwn yn gyd-ddisgybl yn yr ysgol gyda Siôn, a dwi'n cofio y trip ysgol yna'n dda. Ie Coets yn wir, enw wnaeth ei ddilyn e i'r coleg.

Bu imi fyw mewn ty 'da Siôn ym Mangor a daeth yn un o fy ffrindiau anwylaf, yn gefn ffyddlon i mi, yn enwedig trwy gyfnod salwch a marwolaeth fy nhad. Buodd yn galw i'm gweld yn aml pan oedd yn yr ardal, a roedd yn hala amser a chynnig geiriau caredig i Mam am oriau dros disgled, os oeddwn i adref neu beidio. Mae wir yn destun tristwch ofnadwy ac ar hyn o bryd rwy'n cael trafferth credu bod hyn wir wedi digwydd, ond wrth gwrs mae e wedi.

Fel y dwedwyd cynt, bydd colli Siôn yn golled mawr i ni gyd, am y gwaith a'r caredigrwydd a wnaeth, a'r hyn fyddai wedi dod os byddai dal yn fyw...

Roedd Siôn yn grwt ffein a lot o sbort ac oedd amlwg wrth ei fodd yn gweithio yn y ganolfan yn Y Bala. Byddaf yn gweld ei eisiau yn fawr iawn, y storiau am i esgapades diweddara a'i gwmni hoffus, cyffroes.

Mae fy meddwl i nawr gyda'i deulu yn yr amser anodd tu hwnt hyn.

Elis

Re: Cofio Siôn Ifan Evans

PostioPostiwyd: Llun 11 Chw 2008 4:18 pm
gan Rhys Llwyd
Roedd Sion yn arwr. Roedd e mor wych yn ei waith yn son wrth blant a phobl ifanc am Iesu ac hefyd yn ffrind a chefn da i ni oedd yr un oed ag ef. Prin yw'r Cristnogion o argyhoeddiad dyddiau yma ac mae'r rhai a gysegrodd eu bwyd i weithio dros Grist, fel Sion, yn llai fyth. Colled bersonol ddwfn ar ei ol a cholled sylweddol hefyd i waith y deyrnas yng Nghymru heddiw. Y cysur, wrth gwrs, oedd fod Sion yn caru ei waredwr ac ei fod yn awr ym mharadwys.

Re: Cofio Siôn Ifan Evans

PostioPostiwyd: Llun 11 Chw 2008 7:04 pm
gan Hedd Gwynfor
Dyma deyrnged Ifan Roberts ar ran Eglwys Bresbyteraidd Cymru:

Roedd yn ffeind, yn hwyliog ac mae ei gyfraniad ers chwe blynedd i Goleg y Bala wedi bod yn amhrisiadwy. Mae ei ddylanwad ar yr ardal hon, ar blant ac ieuenctid yr ardal a phlant ac ieuenctid Cymru gyfan yn fawr iawn... Roedd yn Gristion o argyhoeddiad ac wedi dod i adnabod a derbyn Iesu Grist.


O wefannau BBC Cymru'r Byd a BBC NEWS

Re: Cofio Siôn Ifan Evans

PostioPostiwyd: Llun 11 Chw 2008 7:24 pm
gan Cardi Bach
Colled mawr iawn.
Ma eraill wedi gweud pob dim sydd i weud am y gwr bonheddig, galluog a hoffus yma.
Cydymdeimladau dwysaf i'r teulu oll.

Re: Cofio Siôn Ifan Evans

PostioPostiwyd: Maw 12 Chw 2008 7:12 pm
gan Del
Braint fawr oedd cael adnabod Siôn.
Yn sicr, colled fawr i bawb ddaeth i gysylltiad ag ef a cholled i'r sîn Gristnogol yng Nghymru.
Mae'n meddyliau ni i gyd gyda'i deulu.

Re: Cofio Siôn Ifan Evans

PostioPostiwyd: Maw 12 Chw 2008 7:55 pm
gan Cacamwri
Ategaf yr holl eirie caredig. Ro'dd Sion yn y chweched pan ddechreues i yn Ysgol Dyffryn Teifi, a dw i'n lled adnabod y teulu. Colled enfawr, oedd e'n grwt annwyl iawn. Bywyd yn greulon iawn i adael i'r goreuon farw.
Gorffwysa mewn hedd.