Cofio Siôn Ifan Evans

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cofio Siôn Ifan Evans

Postiogan dafyddpritch » Sul 10 Chw 2008 11:40 pm

Newyddion tu hwnt o drist y penwythnos hwn oedd marwolaeth frawychus Siôn Ifan Evans yn oriau man bore dydd Sadwrn. Siôn oedd Swyddog Ieuenctid Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac is-warden adeilad Coleg y Bala.

Roedd Siôn yn Gristion o argyhoeddiad ac roedd y ffordd yr oedd yn byw ei fywyd bob dydd, yn ffordd yr oedd ei ffrindiau yn ei gweld fel esiampl. Cefaint y fraint o gyd fyw ag ef yn y Bala am flwyddyn; braint oedd ei adnabod a braint oedd ei gael yn ffrind.

Mae’n gadael ei rieni a’i chwaer ac estynnaf fy nghydymdeimlad mwyaf tuag atynt hwy, ei deulu a’i ffrindiau.

“Gwerthfawr yng ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint Ef.” Salm 116 ad.15.

Delwedd
Fel yr oeddech
Rhithffurf defnyddiwr
dafyddpritch
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 128
Ymunwyd: Gwe 14 Gor 2006 6:12 am
Lleoliad: Llanberis

Re: Cofio Siôn Ifan Evans

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Llun 11 Chw 2008 10:23 am

Colled uffernol, i'r genhedlaeth bresennol ond i'r dyfodol hefyd - roedd Sion yn siwr o fod yn flaenllaw yng ngwaith yr Eglwys yn y blynyddoedd i ddod.

Sion yn foi iawn.

Bydded i oleuni diderfyn ddisgleirio arno.
Bydded iddo orffwys mewn hedd a chodi i ogoniant
.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Re: Cofio Siôn Ifan Evans

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 11 Chw 2008 10:44 am

Roeddwn i'n lwcus iawn o fod yn yr un blwyddyn â Siôn yn Ysgol Dyffryn Teifi ac yn ffrindiau da yn ystod ein cyfnod yno. Siôn Coets oeddwn ni'n ei alw, ar ôl rhyw drip ysgol pan ddaeth yn amlwg fod Siôn yn chwaraewr Coets o fri! Er mod i wedi colli cysylltiad dros y blynyddoedd, roeddwn dal yn gweld ein gilydd yn achlysurol, y tro diwethaf yn Eisteddfod yr Wyddgrug nôl yn yr Haf. Mae'n golled enfawr. Pob cydymdeimlad i'w deulu ac i bawb a gafodd y fraint o'i adnabod.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cofio Siôn Ifan Evans

Postiogan Gowpi » Llun 11 Chw 2008 11:35 am

Fy nghydymdeimladau dwysaf gyda'r teulu. Bydd colled enfawr ar ei ol yn ei gynefin, yn ei waith, yng Nghymru.
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Re: Cofio Siôn Ifan Evans

Postiogan YrHeliwr » Llun 11 Chw 2008 1:45 pm

Fel Hedd, roeddwn yn gyd-ddisgybl yn yr ysgol gyda Siôn, a dwi'n cofio y trip ysgol yna'n dda. Ie Coets yn wir, enw wnaeth ei ddilyn e i'r coleg.

Bu imi fyw mewn ty 'da Siôn ym Mangor a daeth yn un o fy ffrindiau anwylaf, yn gefn ffyddlon i mi, yn enwedig trwy gyfnod salwch a marwolaeth fy nhad. Buodd yn galw i'm gweld yn aml pan oedd yn yr ardal, a roedd yn hala amser a chynnig geiriau caredig i Mam am oriau dros disgled, os oeddwn i adref neu beidio. Mae wir yn destun tristwch ofnadwy ac ar hyn o bryd rwy'n cael trafferth credu bod hyn wir wedi digwydd, ond wrth gwrs mae e wedi.

Fel y dwedwyd cynt, bydd colli Siôn yn golled mawr i ni gyd, am y gwaith a'r caredigrwydd a wnaeth, a'r hyn fyddai wedi dod os byddai dal yn fyw...

Roedd Siôn yn grwt ffein a lot o sbort ac oedd amlwg wrth ei fodd yn gweithio yn y ganolfan yn Y Bala. Byddaf yn gweld ei eisiau yn fawr iawn, y storiau am i esgapades diweddara a'i gwmni hoffus, cyffroes.

Mae fy meddwl i nawr gyda'i deulu yn yr amser anodd tu hwnt hyn.

Elis
YrHeliwr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Llun 11 Chw 2008 1:13 pm

Re: Cofio Siôn Ifan Evans

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 11 Chw 2008 4:18 pm

Roedd Sion yn arwr. Roedd e mor wych yn ei waith yn son wrth blant a phobl ifanc am Iesu ac hefyd yn ffrind a chefn da i ni oedd yr un oed ag ef. Prin yw'r Cristnogion o argyhoeddiad dyddiau yma ac mae'r rhai a gysegrodd eu bwyd i weithio dros Grist, fel Sion, yn llai fyth. Colled bersonol ddwfn ar ei ol a cholled sylweddol hefyd i waith y deyrnas yng Nghymru heddiw. Y cysur, wrth gwrs, oedd fod Sion yn caru ei waredwr ac ei fod yn awr ym mharadwys.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cofio Siôn Ifan Evans

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 11 Chw 2008 7:04 pm

Dyma deyrnged Ifan Roberts ar ran Eglwys Bresbyteraidd Cymru:

Roedd yn ffeind, yn hwyliog ac mae ei gyfraniad ers chwe blynedd i Goleg y Bala wedi bod yn amhrisiadwy. Mae ei ddylanwad ar yr ardal hon, ar blant ac ieuenctid yr ardal a phlant ac ieuenctid Cymru gyfan yn fawr iawn... Roedd yn Gristion o argyhoeddiad ac wedi dod i adnabod a derbyn Iesu Grist.


O wefannau BBC Cymru'r Byd a BBC NEWS
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cofio Siôn Ifan Evans

Postiogan Cardi Bach » Llun 11 Chw 2008 7:24 pm

Colled mawr iawn.
Ma eraill wedi gweud pob dim sydd i weud am y gwr bonheddig, galluog a hoffus yma.
Cydymdeimladau dwysaf i'r teulu oll.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Cofio Siôn Ifan Evans

Postiogan Del » Maw 12 Chw 2008 7:12 pm

Braint fawr oedd cael adnabod Siôn.
Yn sicr, colled fawr i bawb ddaeth i gysylltiad ag ef a cholled i'r sîn Gristnogol yng Nghymru.
Mae'n meddyliau ni i gyd gyda'i deulu.
Rhithffurf defnyddiwr
Del
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 89
Ymunwyd: Llun 07 Maw 2005 2:20 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cofio Siôn Ifan Evans

Postiogan Cacamwri » Maw 12 Chw 2008 7:55 pm

Ategaf yr holl eirie caredig. Ro'dd Sion yn y chweched pan ddechreues i yn Ysgol Dyffryn Teifi, a dw i'n lled adnabod y teulu. Colled enfawr, oedd e'n grwt annwyl iawn. Bywyd yn greulon iawn i adael i'r goreuon farw.
Gorffwysa mewn hedd.
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron