7ennyn a ddywedodd:Mae bodolaeth duw yn bosib, ond yn anhebygol iawn iawn.
eglura sut ti'n cyfrifo'r fath debygolrwydd
Un o nifer ddi-derfyn o esboniadau posib ydyw a does dim tystiolaeth gadarnhaol i gefnogi yr un ohonynt. Mae bodolaeth duw mor anhebygol fel ei bod hi'n berffaith resymol i'w amau, ac i'w ddiystyru hyd yn oed. Fel rhywyn sydd yn seilio ei ddealltwriaeth o'r bydysawd ar brawf, byddaf yn parhau i amau bodolaeth duw hyd nes gall rhywyn ei brofi y tu hwnt i amheuaeth rhesymol hefo tystiolaeth gadarnhaol.
Mae gan wyddonwyr heddiw y fframwaith ddeallusol i esbonio sut ydym ni yma, ond hyd yn hyn mae esbonio pam y tu hwnt i allu dyn. Ella y bydd dynoliaeth yn datblygu fframwaith ddeallusol newydd yn y dyfodol fedr daclo'r fath her, pwy a wyr? Ond y gorau fedrwn ni ei wneud am y tro ydi llunio esboniadau random a di-sail.
os oes cymaint o eglurhad posib yna eglura i ni sut fod unrhywbeth yn bodoli heb fod yna greawdwr hollbwerus goruwchnaturiol. Y broblem yw, ti ddim ond yn derbyn gair gwyddonwyr pan mae'n dod i dystiolaeth. Ond mae gen gwyddoniaeth ffiniau. Mae gwyddoniaeth yn egluro'r bydysawd sydd ohoni. Darganfod deddfau a phrosesau mae gwyddonwyr, nid dyfeisio nhw. Mae'r bydysawd yn llawn deddfau e.e. conservation of mass and energy, fedri di ddim creu na difa. Ond mae Duw wedi CREU POPETH. Mae hyn tu hwnt i'n bydysawd sydd yn dilyn deddfau naturiol. Pwy wnaeth y ddeddfau?
Wyt ti wirioneddol yn meddwl fod popeth wedi dod o ddim byd an ddim rheswm na phwrpas, ac wedyn fod hyn wedi dod a bydysawd prydferth rhesymegol llawn deddfau a threfn a chariad a cherddoriaeth ac eclips a penguins a pandas a phobl a siarc a chi a chath a choed a blodau a ffrwythau ayyb?