Ffydd v Prawf

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan 7ennyn » Iau 21 Chw 2008 4:28 pm

Mae bodolaeth duw yn bosib, ond yn anhebygol iawn iawn. Un o nifer ddi-derfyn o esboniadau posib ydyw a does dim tystiolaeth gadarnhaol i gefnogi yr un ohonynt. Mae bodolaeth duw mor anhebygol fel ei bod hi'n berffaith resymol i'w amau, ac i'w ddiystyru hyd yn oed. Fel rhywyn sydd yn seilio ei ddealltwriaeth o'r bydysawd ar brawf, byddaf yn parhau i amau bodolaeth duw hyd nes gall rhywyn ei brofi y tu hwnt i amheuaeth rhesymol hefo tystiolaeth gadarnhaol.

Mae gan wyddonwyr heddiw y fframwaith ddeallusol i esbonio sut ydym ni yma, ond hyd yn hyn mae esbonio pam y tu hwnt i allu dyn. Ella y bydd dynoliaeth yn datblygu fframwaith ddeallusol newydd yn y dyfodol fedr daclo'r fath her, pwy a wyr? Ond y gorau fedrwn ni ei wneud am y tro ydi llunio esboniadau random a di-sail.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan Gwendraeth » Gwe 22 Chw 2008 12:09 am

7ennyn a ddywedodd:Mae bodolaeth duw yn bosib, ond yn anhebygol iawn iawn. Un o nifer ddi-derfyn o esboniadau posib ydyw a does dim tystiolaeth gadarnhaol i gefnogi yr un ohonynt. Mae bodolaeth duw mor anhebygol fel ei bod hi'n berffaith resymol i'w amau, ac i'w ddiystyru hyd yn oed. Fel rhywyn sydd yn seilio ei ddealltwriaeth o'r bydysawd ar brawf, byddaf yn parhau i amau bodolaeth duw hyd nes gall rhywyn ei brofi y tu hwnt i amheuaeth rhesymol hefo tystiolaeth gadarnhaol.

Mae gan wyddonwyr heddiw y fframwaith ddeallusol i esbonio sut ydym ni yma, ond hyd yn hyn mae esbonio pam y tu hwnt i allu dyn. Ella y bydd dynoliaeth yn datblygu fframwaith ddeallusol newydd yn y dyfodol fedr daclo'r fath her, pwy a wyr? Ond y gorau fedrwn ni ei wneud am y tro ydi llunio esboniadau random a di-sail.


Mae eisiau llawer mwy o ffydd i gredu geiriau y gwyddonwyr am y cread nag sydd eisiau i gredu geiriau Duw.
Gwendraeth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 6
Ymunwyd: Maw 19 Chw 2008 5:26 pm

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan 7ennyn » Gwe 22 Chw 2008 1:07 am

Gwendraeth a ddywedodd:Mae eisiau llawer mwy o ffydd i gredu geiriau y gwyddonwyr am y cread nag sydd eisiau i gredu geiriau Duw.

I mi, mae'r frawddeg yna yn nonsens llwyr. Ond fy mhroblem i ydi hynny.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan rooney » Gwe 22 Chw 2008 6:48 pm

7ennyn a ddywedodd:Mae bodolaeth duw yn bosib, ond yn anhebygol iawn iawn.


eglura sut ti'n cyfrifo'r fath debygolrwydd

Un o nifer ddi-derfyn o esboniadau posib ydyw a does dim tystiolaeth gadarnhaol i gefnogi yr un ohonynt. Mae bodolaeth duw mor anhebygol fel ei bod hi'n berffaith resymol i'w amau, ac i'w ddiystyru hyd yn oed. Fel rhywyn sydd yn seilio ei ddealltwriaeth o'r bydysawd ar brawf, byddaf yn parhau i amau bodolaeth duw hyd nes gall rhywyn ei brofi y tu hwnt i amheuaeth rhesymol hefo tystiolaeth gadarnhaol.

Mae gan wyddonwyr heddiw y fframwaith ddeallusol i esbonio sut ydym ni yma, ond hyd yn hyn mae esbonio pam y tu hwnt i allu dyn. Ella y bydd dynoliaeth yn datblygu fframwaith ddeallusol newydd yn y dyfodol fedr daclo'r fath her, pwy a wyr? Ond y gorau fedrwn ni ei wneud am y tro ydi llunio esboniadau random a di-sail.


os oes cymaint o eglurhad posib yna eglura i ni sut fod unrhywbeth yn bodoli heb fod yna greawdwr hollbwerus goruwchnaturiol. Y broblem yw, ti ddim ond yn derbyn gair gwyddonwyr pan mae'n dod i dystiolaeth. Ond mae gen gwyddoniaeth ffiniau. Mae gwyddoniaeth yn egluro'r bydysawd sydd ohoni. Darganfod deddfau a phrosesau mae gwyddonwyr, nid dyfeisio nhw. Mae'r bydysawd yn llawn deddfau e.e. conservation of mass and energy, fedri di ddim creu na difa. Ond mae Duw wedi CREU POPETH. Mae hyn tu hwnt i'n bydysawd sydd yn dilyn deddfau naturiol. Pwy wnaeth y ddeddfau?

Wyt ti wirioneddol yn meddwl fod popeth wedi dod o ddim byd an ddim rheswm na phwrpas, ac wedyn fod hyn wedi dod a bydysawd prydferth rhesymegol llawn deddfau a threfn a chariad a cherddoriaeth ac eclips a penguins a pandas a phobl a siarc a chi a chath a choed a blodau a ffrwythau ayyb?
Golygwyd diwethaf gan rooney ar Gwe 22 Chw 2008 6:52 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan joni » Gwe 22 Chw 2008 6:51 pm

Felly, o ble daeth Duw?
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan rooney » Gwe 22 Chw 2008 6:54 pm

joni a ddywedodd:Felly, o ble daeth Duw?


nid yw Duw gyda dechrau na diwedd, nid yw wedi ei greu, felly nid yw wedi dod o unman.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan joni » Gwe 22 Chw 2008 6:56 pm

rooney a ddywedodd:nid yw Duw gyda dechrau na diwedd, nid yw wedi ei greu, felly nid yw wedi dod o unman.

diolch am ateb mor glou.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan Kez » Gwe 22 Chw 2008 7:00 pm

rooney a ddywedodd:
joni a ddywedodd:Felly, o ble daeth Duw?


nid yw Duw gyda dechrau na diwedd, nid yw wedi ei greu, felly nid yw wedi dod o unman.


Un tebyg ichi te - un heb ddechrau na diwedd ond un sy'n gallu mynd mlan a mlan a mlan......................................
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan rooney » Gwe 22 Chw 2008 7:25 pm

Macsen a ddywedodd:
rooney a ddywedodd:setio fyny dadleuon "head I win, tales you lose"

Dim o gwbwl. Petai ti'n medru darparu tystiolaeth pendant bod Duw yn bodoli fe fyddet ti'n 'ennill', beth bynnag yw'r fath gysyniadau ag ennill a colli mewn dadl fel hyn (oni fydden ni i gyd ar ein ennill pe bai yna brawf fod yna Dduw?). Gwaetha'r modd does dim prawf, ac er dy fod ti'n honi bod y fath brawf yn bodoli dwyt ti heb ei gyflwyno gerbron er gwaethaf fy chwilfrydedd.


felly yr unig ffordd i mi enill yw trwy ddarparu prawf? a pwy sy'n penderfynu os yw'r prawf yn dderbyniol ac yn ddigonol- ti?

fydde ti ddim yn derbyn y fath beth gen i, macsen
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan looney » Gwe 22 Chw 2008 9:06 pm

Mae Sion Corn yn bodoli hefyd!!!!!1111 :ofn: :seiclops:
looney
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 8:46 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron