Ffydd v Prawf

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan Macsen » Llun 18 Chw 2008 10:38 pm

rooney a ddywedodd:chi'n gwneud esgusodion am fod ganddoch chi ddim tystiolaeth o gwbl i gefnogi'r anffyddiaeth, dim tystiolaeth wyddonol nac fel arall.

Does dim angen tystiolaeth i gefnogi anffyddiaeth mewn Duw, dim mwy nag sydd angen tystiolaeth i gefnogi anffyddiaeth mewn Sion Corn neu ysbrydion. Ar y person sy'n honi bod rywbeth goruwchnaturiol ar waith y mae'r cyfrifoldeb i gyflwyno tystiolaeth o hynny.

rooney a ddywedodd:pam fod chi'n ail-adrodd y celwydd yma? yw e'n helpu i gadw'ch ffydd? pryd chi'n mynd i ddeall- mae pobl yn credu yn Nuw oherwydd y dystiolaeth

Does dim tystiolaeth bod Duw yn bodoli. Zip. Nil. Nada. Mater o ffydd yw crefydd yn gyfan gwbwl.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan rooney » Llun 18 Chw 2008 10:50 pm

Macsen a ddywedodd:Does dim angen tystiolaeth i gefnogi anffyddiaeth mewn Duw, dim mwy nag sydd angen tystiolaeth i gefnogi anffyddiaeth mewn Sion Corn neu ysbrydion. Ar y person sy'n honi bod rywbeth goruwchnaturiol ar waith y mae'r cyfrifoldeb i gyflwyno tystiolaeth o hynny.


rwyt yn setio fyny'r diffiniadau i siwtio dy hun, hypocrit


rooney a ddywedodd:Does dim tystiolaeth bod Duw yn bodoli. Zip. Nil. Nada. Mater o ffydd yw crefydd yn gyfan gwbwl.


ddim o gwbl, pam dy fod yn ail adrodd y celwydd yma?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan Macsen » Llun 18 Chw 2008 11:01 pm

rooney a ddywedodd:rwyt yn setio fyny'r diffiniadau i siwtio dy hun, hypocrit

Allet ti esbonio sut yn union dw i'n setio fyny'r 'diffiniadau' i siwtio fy hun? Hyd y gwela i mae gan realiti ei 'ddiffiniada' ei hun, a does dim tystiolaeth bod digwyddiadau goruwchnaturiol yn rhan ohonynt. Wrth gwrs, os wyt ti'n cynnig y tystiolaeth yma ti'n ei addo o fodolaeth Duw fyddai'n hapus i ddiwygio fy safbwynt.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan rooney » Llun 18 Chw 2008 11:26 pm

anffyddwyr:
"safbwynt fi yw'r default. Chi angen tystiolaeth i gefnogi'ch safbwynt chi. Ond ni ddim am dderbyn eich tystiolaeth, beth bynnag yw. Ni ddim angen tystiolaeth i gefnogi safbwynt ni, gan ni yw'r default."

anffyddwyr = hypocrits
setio fyny dadleuon "head I win, tales you lose"
pathetic
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan murray hewitt » Llun 18 Chw 2008 11:53 pm

rooney a ddywedodd:anffyddwyr:
"safbwynt fi yw'r default. Chi angen tystiolaeth i gefnogi'ch safbwynt chi. Ond ni ddim am dderbyn eich tystiolaeth, beth bynnag yw. Ni ddim angen tystiolaeth i gefnogi safbwynt ni, gan ni yw'r default."

anffyddwyr = hypocrits
setio fyny dadleuon "head I win, tales you lose"
pathetic


Dwim yn meddwl byddai unrhyw anffyddwyr yn dweud mai nhw yw'r default position a does neb wedi ar y maes dwi ddim yn meddwl, fel ddudis i gynt, agnostic yw'r default position, fydde ti ddim yn cytuno gyda hynny? Chdi yw'r un sy'n gneud pethau i fyny rwan. Rydw i wedi penderfyny bod yn anffydiwr drwy edrych ar y dystiolaeth (neu absenoldeb o dystiolaeth) ar y ddwy ochr ac i fi nid yw'n gwneud synnwyr credu mewn Duw. Mae angen llawer mwy o ffydd i gredu mewn Duw nag i beidio credu mewn Duw. Petai na dystiolaeth gadarnhoal o fodolaeth Duw yn cael ei darganfod fory, byddwn i yn ei dderbyn, cwestiwn arall yw os fyddwn in neud fy ffordd o fyw o ganlyniad hynny. Fyddet tin gallu deud yr un peth petai na dystiolaeth gadarnhaol o anfodolaeth Duw?

Beth yw'r dadleuon "head I win, tales you lose" yma?
murray hewitt
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sad 09 Chw 2008 11:12 pm

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan Macsen » Llun 18 Chw 2008 11:53 pm

rooney a ddywedodd:setio fyny dadleuon "head I win, tales you lose"

Dim o gwbwl. Petai ti'n medru darparu tystiolaeth pendant bod Duw yn bodoli fe fyddet ti'n 'ennill', beth bynnag yw'r fath gysyniadau ag ennill a colli mewn dadl fel hyn (oni fydden ni i gyd ar ein ennill pe bai yna brawf fod yna Dduw?). Gwaetha'r modd does dim prawf, ac er dy fod ti'n honi bod y fath brawf yn bodoli dwyt ti heb ei gyflwyno gerbron er gwaethaf fy chwilfrydedd.

Nid fy safbwynt i yw hi nad yw y Duw cristnogol yn bodoli ond safbwynt system o brawf sy'n ddibynol ar beth sydd i'w synhwyro o'n cwmpas. Nid oes prawf o Dduw i'w weld o'n hamgylch yn nunlle. Dyw hynny yn ei hun ddim yn broblem oherwydd ein bod ni ddim yn gwybod lot eto, a mae'n bosib bod duw yn bodoli wedi'r cwbwl. Ond mae cymeriad y Duw cristnogol (ac unrhyw dduw penodol arall) yn seiliedig ar dystiolaeth storiol, na fyddai neb yn credu ynddo pe bai'n ceisio profi rywbeth arall heblaw am y crefydd sydd mor annwyl iddynt. Dyn ni'n disystyrru digwyddiadau goruwchnaturiol mewn dogfennau hanesyddol eraill (a mae nhw'n ddigon cyffredin), felly pam credu yn y rhai yn y Beibl?

Tan bo ryw brawf i'r gwrthwyneb fe wna i seilio fy nealldwriaeth o realiti ar beth ydw i'n synhwyro o fy amgylch, nid beth mae rywun mewn llyfr 2,000 oed a mwy yn honni ei fod o wedi ei synhwyro. Os yw duw yn dod i'r fei, gwych, ond does dim rheswm i feddwl mai'r Duw cristnogol, nag yr un arall dyn ni'n ei nabod, fydd o. Os wyt ti'n dadlau bod ein dehnogliad ni o'r realiti digon diflas o'n cwmpas yn wallus, yna ti hefyd yn bwrw amheuaeth ar allu synhwyrau y pobol (anwybodus wrth safonau heddiw) a ysgrifennodd y Beibl i fedru dehongli digwyddiad goruwchnaturiol yn gywir. Dyn ni'n gwybod bod pobol yn ofergoelus a nad oes modd dibynnu arnynt i beidio dehongli pethau yn gwbwl anghywir, neu fyddai rhaid i ti hefyd dderbyn, er engraifft, bod Mohammed wedi rhwygo'r lleuad yn ddwy. Does dim hyd yn oed rhaid i ti fynd i'r gorffennol i weld esiamplau o hyn - mae gwledydd fel India heddiw'n llawn ofergoeledd gyda dilynwyr Meseiaid modern o bod lliw a llun yn honni eu bod nhw'n gwneud gwyrthiau dyddiol. Naillai ti'n credu bod pob un o'r gwyrthiau yma yn digwydd, neu ti'n derbyn y ffaith bod y bod dynol yn greadur hygoelus a hawdd ei dwyllo.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan Muralitharan » Maw 19 Chw 2008 10:24 am

Rooney,

Rhag dy gywilydd a dy ddefnydd o'r gair 'hypocrit' (sic); yn enwedig pan wyt ti wedi cyfaddef dy fod yn fodlon lladd/llofruddio pobl, ond ddim yn fodlon dweud sut.
Fel y dywedais o'r blaen, nid dadlau wyt ti ond rhefru'n ddi-resymeg, ac yn gwneud dim lles i dy achos.
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan Foel Gornach » Iau 21 Chw 2008 11:35 am

Rhaglen ddiddorol o In Our Time ar y radio y bore ‘ma. Tri physicist amlwg gyda Melvyn Bragg yn trafod y posibilrwydd o fydysawdau eraill tu hwnt i’r un a adnabyddwn ni, rhai mewn dimensiwn gwahanol i’n heiddo ni ond yn gyfochrog â ni (o fewn un milimedr i ni oedd un ymadrodd). Dywedodd un cyfrannwr, ac ni wnaeth y gweddill fynegi anghytundeb, bod gwyddonwyr yn gwrthod y syniad o fodolaeth Duw ar egwyddor, a hynny ar waetha’r dystiolaeth. Maent yn chwilio am unrhyw ddehongliad arall o’r dystiolaeth, ac yn y broses yn anghytuno’n frwd, ac weithiau’n chwyrn, â’i gilydd. Ymadrodd arall a ddefnyddiwyd, na heriwyd, oedd rhywbeth tebyg i: This universe was designed for intelligence. Diddorol iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan Macsen » Iau 21 Chw 2008 12:09 pm

Dwi'm yn cytuno bod y bydysawd hwn wedi ei gynllunio ar gyfer deallusrwydd (mae cyfraniadau Rooney i'r edefyn yma'n gwrthbrofi hynny). A holl bwynt gwyddoniaeth yw dadlau - fyddai fo'm yn mynd nunlle pe na bai pobol yn cynnig damcaniaethau gwahanol a'r tystiolaeth drostynt. Dyle gwyddonwyr ddim bod yn erbyn y syniad o dduw, er nad oes unrhyw tystiolaeth penodol drosto. Mae'n bosib bod duw(iau) yn bodoli, beth dw i'n ei ddweud yw nad oes tystiolaeth i awgrymu mai Duw y Beibl, neu unrhyw grefydd arall, ydyw.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan Mr Gasyth » Iau 21 Chw 2008 12:17 pm

Dywedodd un cyfrannwr, ac ni wnaeth y gweddill fynegi anghytundeb, bod gwyddonwyr yn gwrthod y syniad o fodolaeth Duw ar egwyddor, a hynny ar waetha’r dystiolaeth.


Efallai mai be oedd o'n ei olygu oedd na fyddai bodolaeth Duw yn ateb digonol i egluro bodolaeth y bydysawd, oherwydd petai gwyddonwyr yn canfod Duw yna byddai'n rhaid mynd ati i esbonio ei fodolaeth, sut ddaeth i fodolaeth, sut mae'n gweithio ac ati yn union fel maent yn ei wneud ar hyn o bryd gyda'r bydysawd hon? Fase bodolaeth Duw yn esbonio dim byd mewn gwiroionedd, jest codi mwy o gwestiynau, dyna pam ei fod yn ddiwerth fel esboniad gwyddonol dros ddim byd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron