Cardi Bach a ddywedodd:Mr Gasyth a ddywedodd: ceribethlem a ddywedodd:Mr Gasyth a ddywedodd:Fel anghrediniwr, yr angen yma am ffydd ydi un o'r pethau mwyaf anealladwy am grefydd (Cristnogaeth yn Byddai Duw o'r fath yn gallu gwneud ei fodolaeth yn amlwg tu hwnt i bob amheuaeth. Rhywbeth wedi ei greu gan y credinwyr i egluro'r ffaith nad yw Duw'n amlwg i bawb ydi'r angen am ffydd. Petai Duw'n bodoli fyddai dim angen ffydd ynddo, mwy nag ydw i angen ffydd ym modolaeth fy nghariad (mae ffydd yn y ffaith ei bod yn fy ngharu yn beth gwahanol, ond mae gwybod ei bod yn bodoli yn y lle cynta yn gychwyn da!).
Ond mae Duw wedi ein creu no yn fodau a'n meddyliau ein hunain. Petai Duw wedi dewis ein creu mewn byd perffaith yna bydden ni'n ddim mwy na robotiaid.
Tydw i ddim yn deall y pwynt yma o gwbl. Wyt ti'n deud fod Duw wedi ein creu i bedio credu er mwyn iddo ein cosbi yn oes oesoedd am y peth? Duw cyfiawnder? Duw caraiad?
cardi bach a ddywedodd:Ar y mater o Dduw diriaethol, mae wedi bod, yng nghorff Iesu Grist tua dwy fil o flynyddoedd yn ol, ac mae peth wmbreth o dystiolaeth fod Iesu wedi cerdded y ddaear ac wedi atgyfodi.
Tydw i didm yn amau fod Iesu wedi bod, mwy nag ydw i'n amau fod rhyw fath o Frenin Arthur wedi bod. Y chwedlau o'u cwmpas sy'n fater o ffydd ynte.
cardi bach a ddywedodd: Ymhen dwy fil o flynyddoedd pa dystiolaeth fydd yno fod yna gariad wedi bodoli rhyngddot ti a'th hanner arall? Nid peth diriaethol yw cariad, mae'n amhosib cyffwrdd cariad. Siwd allu di brofi i ni dy fod ti'n caru dy bartner? Beth y bynnag y gwneu di, alla i wadu hyd ddydd y farn nad yw hwnna'n brawf i fi o'th gariad.
Dim o gwbl. Does dim 'prawf' o'r cariad hwnnw'n bodoli rwan, heb son am mewn dwy fil o flynyddoedd. Ond mae gen i brawf ei bod hi'n bodoli - dwi'n gallu ei gweld a'i chyffwrdd a'i chlywed - a mae'r hyn mae'n ddweud a'i wneud yn awgrymu ei bod yn fy ngharau ddigon i mi fod a fydd fod hynny'n wir.
Toes gen i ddim o' tamaid lleiaf o dystiolaeth i awgrymu fod Duw yn bodoli hyd yn oed, felly ba sens bod a ffydd hyn hynny? Fel mae rhai wedi awgrymu o'r blaen, mae fel bod a ffydd fod yn debot piws yn cylchu'r haul rhwng y planedau Mawrth a Iau.