Dwi'n tybio na fydd gosod ffydd a phrawf yn erbyn eu gilydd fel dwy haniaeth gyferbyniol, dau bwynt gwrthwyneb y cwmpawd, yn cynnig unrhyw oleuni ar y mater. dwi'n meddwl fod tuedd ein cymdeithas ni i osod 'prawf gwyddonol' ar bob dim, er mor apelgar, yn duedd sy'n rhwystro unrhyw ddadlau athronyddol ynghlyn ac ystyr bywyd yn gyffredinol. hynny yw, mae yna ryw elfen o ffydd a phrawf ym mhob peth y gwnawn ni. pe bawn i i droedio'r ddaear hon gan ymbalfalu'n anhyderus yn fy mlaen, heb gymryd yr un cam yn ganiataol, gan ddefnyddio'n nhroed i brofi'r ddaear cyn i mi sefyll arni. mi faswn i'n fuan iawn yn denu sawl edrychiad digon rhyfedd mae'n siwr. dwi'n ymwybodol fod hwn yn ddarlun llafurus iawn, ond dwi'n hyderu fod y pwynt wedi ei wneud- mae rhyw elfen o ffydd mewn pethau annelwig ac anweledig ym mhob peth a wnawn ni, boed hynny'n berthynas gyda chymar neu'n berthynas ac unrhyw honiad o wirionedd uwch ( boed hynny gan wyddonydd neu archesgob).
yn bersonol, faswn i'n symud y ddadl mlaen o'r 'ffydd vs prawf'- dwi'n credu na fedra i, er mor galed dwi'n trio, brofi bodolaeth Duw trwy ddadl gref neu gyfres o brofion. yn fwy diddorol fyth, welai ddim unrhyw ymdrech yn y beibl i brofi bodolaeth Duw trwy ddulliau gwyddonol neu gynnig cyfres o brofion llafurus dros ei fodolaeth e.
dwi'n ei chael hi'n annodd credu fod dadlau dros y creu neu bresenoldeb drygioni yn y byd yn mynd i oleuo dim ar y mater- wedi'r cyfan, mae'r rhain yn gwestiynnau athronyddol sy' wedi poeni pobl byth ers cychwyn y byd, os ydyn nhw'n dilyn crefydd ai peidio.
Ma' na gyment o gyfoeth yn y cwestiwn yma dwn i'm lle i ddechre! ond nai jest nodi dau beth yn gyflym iawn.
Onid dyna'r pwynt? Mae'r ffydd yn golygu dy fod yn cael dy wobrwyo? Onid mater o trust yw'r peth? Oes wyt ti'n ei dderbyn ar ffydd fe gei di dy wobrwyo yn y pen draw.
Mae'n rhywbeth sydd gen i ddiddordeb mawr yno gan nad wyf (yn wahanol i farn rai megis rooney a HRF) yn anghrediniwr, ond does dim ffydd cryf gen i.
]
Mae gennym ni duedd gref fel cymdeithas i ddiffinio 'ffydd' grefyddol fel rhyw ddallineb i wirionedd yn erbyn pob amgylchiad arall- bron fel rhyw fath o salwch meddwl sydd yn y genes rhywle. ac i lawer o bobl, dwi'n siwr fod ffydd yn cael ei ddehongli yng nghyd-destun slogan y diwygiad protestanaidd, sef 'cyfiawnhad drwy ffydd', sy'n medru swndo fel rhyw fath o wobr am ffydd mewn rhywbeth annelwig, a'r mwyaf o ffydd sydd gen ti, wel, gret.
yn ffodus ddigon i minne, a phob un ohonnom ni, nid yn swm ein ffydd ni mae'n gobaith ni, ac nid yn ol maint ein ffydd ni y dawn ni i berthynas gyda Duw. yn hytrach ma' hynny'n dod trwy ein ffydd ni mewn person, unigolyn, a'r digwyddiadau o gwmpas ei fywyd e. honiad canolog yr efengylau yw fod yr hyn a ddywedir am Iesu Grist ynddyn nhw yn 'newyddion da'- dyna yw ystyr y gair 'efengyl'. a'r newyddion da hynny yw fod Duw wedi caru'r byd gyment, fel iddo roi ei unig anedig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo Fe beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.
felly y newyddion da yw fod Duw yn ei holl weithredoedd e gyda bwriadau da tuag at ei greadigaeth: a chariad yn motive canolog yn ei holl ymdrin E a ni. mae'n rhoi ei Fab, y peth pwysica' oll iddo fe, i gymryd ein cosb oeddem ni'n ei haeddu fel gwrthwynebwyr i Dduw. fel nad oes rhaid i ni 'fynd i ddistryw'- ystyr hynny yw cael ein gwahannu oddi wrth fwriadau da Duw tuag atom ni trwy ein dewis ymwybodol ni yn unig. a'r bywyd tragwyddol ry'm ni'n cael yn rhodd- ac nid rhyw dragwyddoldeb 'boring' o lawenydd niwlog a phell yw hwn ond cynnig bywyd yn ei gyflawnder heddiw yma.
Felly yn y bon nid 'prawf' neu 'ffydd' yw conglfeini y ddadl dros neu yn erbyn Duw- fel mae'r rhan fach 'ma o'r beibl yn ddweud, cynnig gwirionedd i'w gredu mae e- 'does dim amheuaeth i awduron y beibl nad yw'r digwyddiadau sy'n cael ei cofnodi ganddyn' nhw'n wir. dyw e ddim yn gofyn i chi wneud unrhyw beth er mwyn bodloni Duw yn fwy nac yw e'n fodlon ynoch chi eisioes: mae e'n honni fod ganddo fe adnabyddiaeth well ohonoch chi na chi'ch hunan. Felly, i gloi, 'dyw dilyn crist ddim yn dibynnu ar unrhyw 'ffydd' neu 'brawf'- mae pob peth yn cwmpo neu ddisgyn ar honiadau'r unigolyn hwnnw amdano fe ei hunan.