Re: Ffydd v Prawf
Postiwyd: Iau 21 Chw 2008 4:28 pm
Mae bodolaeth duw yn bosib, ond yn anhebygol iawn iawn. Un o nifer ddi-derfyn o esboniadau posib ydyw a does dim tystiolaeth gadarnhaol i gefnogi yr un ohonynt. Mae bodolaeth duw mor anhebygol fel ei bod hi'n berffaith resymol i'w amau, ac i'w ddiystyru hyd yn oed. Fel rhywyn sydd yn seilio ei ddealltwriaeth o'r bydysawd ar brawf, byddaf yn parhau i amau bodolaeth duw hyd nes gall rhywyn ei brofi y tu hwnt i amheuaeth rhesymol hefo tystiolaeth gadarnhaol.
Mae gan wyddonwyr heddiw y fframwaith ddeallusol i esbonio sut ydym ni yma, ond hyd yn hyn mae esbonio pam y tu hwnt i allu dyn. Ella y bydd dynoliaeth yn datblygu fframwaith ddeallusol newydd yn y dyfodol fedr daclo'r fath her, pwy a wyr? Ond y gorau fedrwn ni ei wneud am y tro ydi llunio esboniadau random a di-sail.