Tudalen 5 o 5

Re: Ffydd v Prawf

PostioPostiwyd: Llun 25 Chw 2008 7:58 pm
gan Macsen
rooney a ddywedodd:felly yr unig ffordd i mi enill yw trwy ddarparu prawf? a pwy sy'n penderfynu os yw'r prawf yn dderbyniol ac yn ddigonol- ti?

Wel os taw fi wyt ti eisiau argyhoeddi, ie.

rooney a ddywedodd:fydde ti ddim yn derbyn y fath beth gen i, macsen

Os fyddai gen ti brawf pendant o fodolaeth Duw, pam fyddwn i ddim yn ei dderbyn? Does gen i ddim attachmet 'crefyddol' i fy marn. Dyna'r gwahaniaeth rhwng agnostig a theistiad, dyn ni'n cael newid ein barn i ffitio'r dystiolaeth, rhaid i chi drio newid y dystiolaeth i ffitio eich barn.