Y Beibl fel llenyddiaeth (yn hytrach na Gair Duw)

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y Beibl fel llenyddiaeth (yn hytrach na Gair Duw)

Postiogan Cawslyd » Sul 17 Chw 2008 12:44 pm

Ma gen i gopi o'r Beibl ar fy silff lyfra yn isda'n daclus rhwng copi o 1984 a The Unbearable Lightness of Being - a mi ydw i'n ystyried y Beibl i fod yn yr un categori â'r llyfrau erill sydd ar fy silff - fel darn o lenyddiaeth. Does dim gwadu bod y Beibl, mewn nifer o ffyrdd, yn gampwaith llenyddol - yn yr un ffordd â mae gwaith Tolstoy neu Kerouac yn gampweithiau llenyddol. Mae llenyddiaeth yn rhan o be sydd o 'ngwmpas, ac yn ddiamau yn effeithio 'mywyd (yn yr un ffordd â mae cerddoriaeth, celf ag ati hefyd) - ond dydw i ddim yn dilyn gair unrhyw awdur arbennig fel petai ei eiriau'n sanctaidd - er eu bod yn dylanwadu'r hyn dwi'n feddwl, gwneud a dweud. A dwi'n trin y Beibl yn yr union 'run ffordd. Mae gwaith Luc, Marc a Paul (a'r lleill) yn bwysig - yn yr un ffordd â mae gwaith awduron eraill. Onid ydi hyn yn iachach ffordd o ystyried y Beibl?
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Re: Y Beibl fel llenyddiaeth (yn hytrach na Gair Duw)

Postiogan rooney » Llun 18 Chw 2008 6:55 pm

Nid yw'n honni i fod yn llenyddiaeth, mae'n honni i fod yn lot mwy na hynny.

2 Tim 3:16
16 Duw sydd wedi ysbrydoli'r ysgrifau sanctaidd hynny i gyd, ac maen nhwín dysgu beth syín wir i ni, yn cywiro syniadau anghywir, yn dangos beth dyn niín ei wneud oíi le, aín dysgu ni i fyw yn iawn.

http://christiananswers.net/q-eden/edn-t003.html

"...the Bible writers claimed repeatedly that they were transmitting the very Word of God, infallible and authoritative in the highest degree. This is an amazing thing for any writer to say, and if the forty or so men who wrote the Scriptures were wrong in these claims, then they must have been lying, or insane, or both."
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Y Beibl fel llenyddiaeth (yn hytrach na Gair Duw)

Postiogan Cawslyd » Llun 18 Chw 2008 8:43 pm

Ond os ydi 'Gair Duw' wedi dod trwyddyn nhw, onid eu têc nhw ar be ma Duw di deud 'thy nhw ydi o? - ac os felly, onid llenyddiaeth ydi o? Ag eniwe, pam bod rhaid i ni ystyried gwaith Duw, fel 'awdur' y Beibl, i fod yn fwy pwysig na gwaith awduron eraill ?!
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Re: Y Beibl fel llenyddiaeth (yn hytrach na Gair Duw)

Postiogan Mihangel Macintosh » Llun 18 Chw 2008 10:08 pm

Elli di ddim gwadu fod y Beibl yn bestseller.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron