Moesau, deddfau, cyfiawnder

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan rooney » Gwe 22 Chw 2008 9:13 pm

murray hewitt a ddywedodd:Da ni'n mynd rownd mewn cylchoedd rwan, os fydde tin dallt unrhywbeth am esblygiad fedde ti o leia yn gallu gwerthfawrogi'r ddadl sydd gen i, on dwyt ti ddim. Pam gan ddefnyddio dy wybodaeth ddwys o esblygiad, nad ydi esblygiad yn gallu esbonio datblygiad moesau? Ateb call plis, os dion bosib.


esblygu o beth, murray? oedd amser pan oedd rape yn ok?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan murray hewitt » Gwe 22 Chw 2008 9:21 pm

Meddwl na fydda fon bosib cal atab call gen ti, ond pawb yn byw mewn gobaith tydi.

Esblygu o'r math symlaf o organeb sef organeb un-gellog,neu hyd yn oed symlach maen debyg, i'r rhai mwy cymleth fel ni dynol-ryw. Dwn im os oedd amser lle oedd rape yn ok, sgin ti unrhyw dystiolaeth dros y peth, pa wahaniaeth maen gneud i dy ddadl beth bynnag?
murray hewitt
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sad 09 Chw 2008 11:12 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan rooney » Gwe 22 Chw 2008 9:22 pm

rwyt yn honni fod moesau wedi esgblygu. Ac felly, mae'n dilyn fod rhai pethau sy'n iawn heddiw ddim yn iawn o'r blaen, a vice versa. Felly, oedd amser pan oedd rape yn ok?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan murray hewitt » Gwe 22 Chw 2008 9:31 pm

Nid mater o rhywbeth yn newid yn ein DNA dros nos ydio syn gneud rape yn anghywir, maen broses araf iawn. Dwyt ti ddim yn gallu neidio yn syth i dop mynydd nagwyt? tin goro cerddad fyny yn ara. Unwaith tin dallt rwbath am esblygiad tyd nol a gawn ni drafodaeth iawn.
murray hewitt
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sad 09 Chw 2008 11:12 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan rooney » Gwe 22 Chw 2008 9:33 pm

DNA yn sefydlu moesau? Beth?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan murray hewitt » Gwe 22 Chw 2008 9:40 pm

rooney a ddywedodd:DNA yn sefydlu moesau? Beth?


Sgin tim idea nagoes? Tin fwy naive ag ignorant nag o nin feddwl. DNA yw'r "iaith" mae ein genes wedi ei wneud allan ohona, genes sy'n deud wrth ein celloedd sut i weithio ag i dyfu ayyb, hefyd yn gyfrifol am ein charecteristics fel edrychiad a syt mae'r ymenydd yn gweithio. Drwy DNA mae esblygiad yn digwydd.
murray hewitt
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sad 09 Chw 2008 11:12 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan rooney » Gwe 22 Chw 2008 9:45 pm

beth sydd gan hynny i'w wneud gyda moesau?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan murray hewitt » Gwe 22 Chw 2008 9:50 pm

Di cal digon o hyn wan dio yn amlwg ddim yn bosib cal trafodaeth call fo chdi achos ma rhaid stopio bob dau funud i egluro syniadau sydd yn sylfaenol i'r theori o esblygiad. Swn i ddim yn gorfod dy stopio di i ofyn i chdi eglurho y syniad o uffern a nefoedd neu sut wnaeth Iesu farw, neu pwy oedd Moses, beth oedd y 10 gorchymyn ayyb, swn in gallu mynd ymlaen am byth.
murray hewitt
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sad 09 Chw 2008 11:12 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan rooney » Gwe 22 Chw 2008 10:01 pm

wyt ti'n meddwl mae DNA sydd yn sefydlu moesau? felly sut fedri di farnu moesau unrhywun os yw nhw methu help e.e. treisio, llofruddio, oherwydd eu DNA?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan huwwaters » Sad 23 Chw 2008 2:01 am

Mae moesau a moesegau yn ffrwyth nifer o bethau. Tydio ddim just yn 'bodoli'. Un dyn sydd wedi rhoi sylw ar y cysylltiad yma yw Robert Masters. Dyn sydd wedi diffinio’r gwahaniaeth rhwng effaith, teimlad ac emosiwn. Gellir dweud mai effaith yw enghraifft o atgyrch neu ymdrech o ddangos tymer nad ydych yn ei deimlo. Gwedd yn unig ydyw sy’n cael ei reoli gan unrhyw beth ond eich teimladau. Teimlad yw’r ymwybyddiaeth o effaith, efo gallu dadansoddol, nad yw wedi ei seilio yn ffisiolegol, ac yn amal â gogwydd seicolegol; ac emosiwn wedi ei adeiladu’n seico-gymdeithasol - teimlad wedi ei ddramateiddio.

Mae'n bosib datblygu dy feddwl i fod yn fwy 'emotionally stable' o ryw fath ble chi'n gosod eich hun i sdresiau gwahanol. Chi'n eu profi, yn datblygu imiwnedd o ryw fath. Tydio ddim yn golygu eich bod ddim yn teimlo emosiwn dros rywbeth, ond ei fod yn bosib i chi newid yn ôl i normal. Mae pobol sydd yn 'emotionally unstable' yn tueddu i fod y rhai sydd ar fin lladd eu hunain ar ôl colli eu rhieni, gwr/gwraig, plentyn. Y rhai sydd mwy sefydlog yw'r rhai sydd gallu maddau llofruddiwr etc.

Rooney, dwi'n meddwl dyle ti feddwl cyn agor dy geg. Yn amlwg ti jyst isio cychwyn trafodaeth am rywbeth, dim ots be, er mwyn i ti cael deud dy farn. Dyfala be? Ma pawb di clwed o a ddim isio clwed mwy.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron