Moesau, deddfau, cyfiawnder

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan Muralitharan » Mer 27 Chw 2008 9:53 pm

Y cyfan dwi'n ei weld ydi'r gorchymyn di-amwys NA LADD, ac fel y dywedais i Efengyl hyd yn oed yn fwy radical na hynny Iesu Grist
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan huwwaters » Mer 27 Chw 2008 11:34 pm

rooney a ddywedodd:
Mae hefyd yn ddigon blaen na ddylid lladd, ond mewn dadl arall ti di trio newid hyn a rhoi dy spin di arno a deud ei fod yn golygu na ddylid llofruddio; mae dienyddio yn iawn. Ti i'w weld yn mynd yn erbyn gair Duw.


wyt ti ddim yn deall y gwahaniaeth rhwng dienyddio a llofruddio? bobl bach


Yr unig wahaniaeth rhwng y ddau yw fod darn o bapur sydd wedi cael ei osod gan quorum yn deud ti'n cael neud un ond nid y llall.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan rooney » Iau 28 Chw 2008 12:10 am

huwwaters a ddywedodd:wyt ti ddim yn deall y gwahaniaeth rhwng dienyddio a llofruddio? bobl bach


Yr unig wahaniaeth rhwng y ddau yw fod darn o bapur sydd wedi cael ei osod gan quorum yn deud ti'n cael neud un ond nid y llall.[/quote]

nage, ond mae'n frawychus dy fod yn dweud "yr unig" wahaniaeth fel fod un cynddrwg a'r llall
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan Muralitharan » Iau 28 Chw 2008 12:29 am

rooney a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:
ond mae'n frawychus dy fod yn dweud "yr unig" wahaniaeth fel fod un cynddrwg a'r llall


Beth sydd yn frawychus, Rooney, ydi dy fod mor awyddus i weld pobl yn cael eu lladd - yn groes i'r gorchymyn 'Na Ladd' a dysgeidiaeth Iesu Grist ...
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan rooney » Iau 28 Chw 2008 12:45 am

rwy'n teimlo fy mod yn dadlau gyda pobl sydd ddim yn cytuno gyda cyfrifoldeb personol, ac methu cytuno na cyfiawnhau systemau cyfiawnder a chosb
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan huwwaters » Iau 28 Chw 2008 1:07 am

rooney a ddywedodd:rwy'n teimlo fy mod yn dadlau gyda pobl sydd ddim yn cytuno gyda cyfrifoldeb personol, ac methu cytuno na cyfiawnhau systemau cyfiawnder a chosb


Rwy'n teimlo fy mod yn dadlau gyda person sydd ddim yn deall.

Meddylia sut fyd byse'n bodoli heddiw petai pawb yn Ewrop wedi cymyd Cristnogaeth fel dehongliad llythrennol. Sdim ond edrych ar weithiau pobol fel Cicero, Copernicus a nifer o athrylithon erill ym meysydd y gwyddorau pur a dynol. Cafodd Nicolaus Copernicus andros o drafferth a'i erlid gan Gristnogion eraill am feiddio deud bod y byd yn mynd o gwmpas yr haul (heliocentric) yn lle fod yr haul yn mynd o gwmpas y byd. Cofia am yr Islamwyr sydd wedi cyfrannu cymaint at sylfaen mathemateg a seryddiaeth heddiw. Os byse'r Crusdaes wedi cael eu ffordd a'u dienyddio am fynd yn groes i'r Beibl sut siap byse ar y byd ma rwan?

Mae dyfal barhad a datblygiad yn dibynnu ar y rogues yn ein cymdeithas. Y rhai sydd yn anfoesol o bryd i'w gilydd; y rhai sy'n mynd yn erbyn deddfau gwlad; y rhai anghyfiawn sydd yn rhoi sioc i'r sefydliad ac yn newid pethe. Cicero yn mynnu ailosod gweriniaeth mewn cyfnod o dotalitariaeth.

Dyfyniad da o Oliver Twist yw "the law is an ass". Mae'r cyfreithiau sy'n cadw trefn ar bobol, wedi eu sgwennu gan bobol yr union bobol sydd yn cael eu disgrifio yn The Lord of The Rings fel y rhai sy'n gallu cael eu halogi. Os yw'r cyfreithiau yn cael eu sgwennu gan y fath bobol, yna mae'n digon gwir nodi fod "the law is an ass".

Pam wyt ti'n defnyddio llysenw rooney?
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan rooney » Iau 28 Chw 2008 1:11 am

rooney a ddywedodd:felly ti'n erbyn cosbi? fedri di ddim cyfiawnhau cosbi neb fedri di, gan ti'n meddwl fod pobl fod gwneud eu moesau eu hunain i fyny, a pa awdurdod sydd gen moesau "cyfartalog" dros foesau unigolyn? yw beth sy'n gywir neu'n anghywir yn cael ei benderfynnu gan bleidlais y mwyafrif- os felly might is right


yn lle newid y pwnc, beth am ateb hwn?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan huwwaters » Iau 28 Chw 2008 1:46 am

rooney a ddywedodd:
rooney a ddywedodd:felly ti'n erbyn cosbi? fedri di ddim cyfiawnhau cosbi neb fedri di, gan ti'n meddwl fod pobl fod gwneud eu moesau eu hunain i fyny, a pa awdurdod sydd gen moesau "cyfartalog" dros foesau unigolyn? yw beth sy'n gywir neu'n anghywir yn cael ei benderfynnu gan bleidlais y mwyafrif- os felly might is right


yn lle newid y pwnc, beth am ateb hwn?


Fi yn newid y pwnc?! Ti'n troi fyny yng nghanol popeth sydd yn mynd yn gall a rhoi dy spin efengylaidd arno ac yn ei sbwlio i bawb.

Dwi'm yn erbyn cosbi yn ôl rheswm, ond tydwi ddim yn gweld sut ma'n gweithio. Fedri di gosbi rhywun a nawn nhw dy gosbi di am gosbi nhw. Neith o ddod yn ôl i dy frathu. Tydi pobol methu creu moesau eu hunain. Mae amgylchedd nhw yn eu siapio. Mae angen stimulus iddo ddigwydd. Fedri di ddim gneud dy gyhyrau just dyfu, mae angen rhoi straen iddynt mewn modd o bwysau. Yr awdurdod sy'n rhoi moesau rhywun uwchben un arall yw gwelidyddiaeth. Mae gan pawb rhai gwahanol, a felly yn anghytuno fel dwi'n neud efo ti rwan.

Dibynnu sut ti'n diffinio cywir. Mae'r papur The Sun yn honni fod tua 90% isio hangio yn ôl fel y gosb eithaf. Dwi ddim yn cytuno â hwn na miliynau o bobol erill, ond yn ôl y rhai sy'n gofyn amdano, mae hangio llofruddiwr yn gywir.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan Duw » Gwe 29 Chw 2008 12:02 am

Sut ar y Ddaear gall cristion gytuno a dienyddiad? Mae bywyd yn sanctaidd, boed yn fywyd baban neu fywyd y llofrudd mwya ffiaidd a bu fyw erioed. Ein teimladau, yn aml, wrth glywed am droseddau ofnadwy yw "crogwch y diawl". Rydym yn suddo i'n dymuniadau gwaethaf. A ddylwn deimlo'n bles gyda'n hunain ein bod yn gallu meddwl yn y ffordd hon? Os oeddem yn gallu gweld mewn i feddwl rhywun arall a darllen hyn, byddem angen iddo gael ei gloi lan rhag ofn iddo fynd bant a gwneud rhywbeth drwg. Os ydych yn gallu meddwl am rywbeth drwg heb deimlo'n dost amdano, a allech fynd ymlaen a'i weithredu? Rooney - a fyddet yn fodlon tynnu'r ddolen i ryddhau'r trapdoor? Saethu'r bwled? Rhoi'r chwistrelliad? Fflicio'r swits? Os fyddet - rwyt wir yn rhyw anifail bach rhyfedd. Os na - rhag dy gywilydd am ofyn i rywun arall ladd person ar dy gyfer di a dy fath.

Fel anffyddiwr, teimlaf ambell waith y bod gennyf fwy o barch am fywyd na'r rheini sydd yn hawlio'r tir uchaf wrth drafod moesau.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan Senghennydd » Gwe 29 Chw 2008 3:22 pm

rooney a ddywedodd:Beth petae gen i blentyn sydd yn dioddef o afiechyd. Mae'n mynd i gostio canoedd o filoedd i ymchwilio mewn i'r afiechyd yma i ffeindio triniaeth i'w achub hi. Rwyf yn mynd i fy mag ac yn estyn allan machine gun. Rwy'n pwyntio'r gwn tuag at y ddynes yma. Wrth gael gwared ohoni hi, mae hyn yn rhyddhau arian i'w fuddsoddi mewn pethau eraill mewn cymdeithas yr ydw i'n cysidro yn fwy pwysig. Fel, ffeindio ateb i gyflwr fy mhlentyn.

Anffyddwyr, eglurwch a cyfiawnhawch i fi pam fod e'n anghywir i fi danio'r dryll?


Realiti bywyd yw gorfod blaenoriaethu. Mae doctoriaid, gwyddonwyr a rheolwyr ein gwasanaeth iechyd ni yn gwneud penderfyniadau anodd bob dydd ar sut i flaenoriaethu'r arian sydd gyda nhw. Mae rhai yn dibynnu ar ei ffydd i'w helpu i wneud y penderfyniadau hynny. Er enghraifft, os oes rhaid dewis rhwng rhoi organ i'w drawsblannu i hen berson neu berson ifanc fe wneir y penderfyniad i'w rhoi i'r person ifanc. Marw yn araf a diurddas yw tynged llawer o hen bobl yn ein cymdeithas ni yn anffodus, a gobeithiaf y byddai ffyddwyr ac anffyddwyr yn credu bod hyn yn dristwch. [ond mater i edefyn arall fyddai trafod euthanasia].
Mae'r syniad o ddod a machine gun i mewn i'r cwestiwn yn haerllug. Mae hefyd yn sarhad ar waith rheiny sy'n gofalu am ein hiechyd, ac ar bobl sy'n dioddef.
Ble wyt ti'n cael y syniadau yma am anffyddwyr Rooney?!
Gwylio GORMOD o Rambo, a dim digon o ddarllen y Beibl, achos dwi'm yn cofio darllen am ladd pobl gyda machine guns pan oedden nhw'n hen yn fano?
:drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Senghennydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Gwe 25 Tach 2005 9:57 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron