Moesau, deddfau, cyfiawnder

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan Muralitharan » Sul 02 Maw 2008 8:54 pm

rooney a ddywedodd:
Muralitharan a ddywedodd:Be' ydi yd obsesiwn di am "y gosb eithaf i Israel"? Pa ran o NA LADD nad wyt ti'n ei ddeall? Pam nad wyt ti'n derbyn dysgeidiaeth Iesu Grist?


beth wyt ti'n gyfeirio ato? eglura



Rwyt ti isio i mi esbonio NA LADD?! Pan gei di amser, edrych ar y Bregeth ar y Mynydd
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan Muralitharan » Llun 03 Maw 2008 12:19 am

Er i mi ofyn i ti wythnosau yn ol bellach i ddweud pa ddulliau o ddienyddio sy'n dderbyniol, rwyt ti wedi dewis peidio ateb y cwestiwn. Ond, mae gen i gwestiwn arall hefyd. Pa mor dda/cyfiawn/democrataidd sydd yn rhaid i wladwriaeth fod cyn iddi ennill yr hawl i allu dienyddio ei dinasyddion? Ac os oes raid iddi gyrraedd rhyw safon, a ydi hi'n deg fod troseddwyr gwladwriaethau sy'n cyrraedd y safonau hynny yn cael eu lladd, tra bo dihirod y gwledydd eraill yn cael byw?

"When you hear the voice of the man commanding you to kill, remember instead the voice of God. Thou Shalt Not Kill"

Geiriau Oscar Romero - gwr, wrth gwrs, a ddienyddiwyd gan ei wladwriaeth gan ei fod yn niwsans i'r wladwriaeth honno, ac fe'i saethwyd yn farw wrth yr allor trwy orchymyn y wladwriaeth.
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan huwwaters » Llun 03 Maw 2008 1:51 am

Nai symleiddio pethe. Yn ôl y ffydd Gristnogol:

Mae bywyd yn sanctaidd.

Duw sydd yn penderfyny creu bywyd a'i gymryd.

Gweithred dynol yw dienyddiad.

Dienyddiad yw penderfyniad dyn.

Nid yw dienyddiad yn benderfyniad Duw.

Mae dienyddiad yn bechod.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan Senghennydd » Llun 03 Maw 2008 11:02 am

Rooney: moesol yn ol pa safonau?
yr wyt ti'n meddwl fod rhywbeth yn "iawn" os yw gwleidyddion yn pasio deddf yn dweud fod e, yn wir yr wyt yn meddwl mae'r mwyafrif sydd yn penderfynu beth sy'n foesol/iawn
might is right

Na, ddywedais i mo hynny...ond rwyt ti'n meddwl, ga i fentro, mae beth mae Rooney yn dweud sy'n iawn sy'n iawn a dyna ni. Pob lwc fel unben dy deyrnas.
:winc:

Fe wnaf i gymryd bod y geiriau uchod yn awgrymu dy fod yn dewis anwybyddu, neu wedi camddeall, pob trafodaeth a thrywydd sydd wedi eu codi ar yr edefyn hwn yn ceisio trafod y cwestiwn cychwynnol. :ing:
Rhithffurf defnyddiwr
Senghennydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Gwe 25 Tach 2005 9:57 am

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan Foel Gornach » Maw 04 Maw 2008 1:50 pm

rooney a ddywedodd: mae dienyddio a llofruddio yn ddau beth hollol wahanol, ond rwy'n derbyn nad yw llawer o Gristnogion o blaid y gosb eithaf ac mae dadleuon derbyniol i'w gwneud i gefnofi'r safbwynt yna

y broblem gyda cymryd y safbwynt fod unrhyw ladd yn anghywir yw fod hyn yn codi llwythi o gwestiynau digon lletwith i ti. Dyma ddetholiad:-

wyt ti'n anghytuno gyda "just wars"?
wyt ti'n anghytuno gyda "llygad am lygad, dant am ddant" fel sail ar gyfer system cyfiawnder?
sut wyt ti'n derbyn/deall gorchmynion Duw i'r Israeliaid yn yr Hen Destament ynglyn a'r gosb eithaf?
oedd Duw yn greulon yn angen aberth gwaed, gan gynnwys aberth ei fab?
wyt ti'n OK gyda erthylu- os felly, sut?
ayyb


O diar!! rooney rwyt ti’n tanseilio dy safbwynt dy hun. Ar un llaw yr wyt yn dweud bod y ddeddf foesol yn absoliwt, ac ar y llaw arall yn dweud bod eithriadau!!
Oes graddau mewn absoliwt?

Er taw gofyn y cwestiynau i Hedd a wnei, fe geisiaf rhoi fy nghyfraniad bach i i’r drafodaeth, a hynny ar waethaf y ffaith i ti ofyn i mi, yn gynt ar yr edefyn hwn, beidio a dilyn yr union drywydd yr wyt ti’n ei ddilyn!!

Fel un sy’n arddel Iesu’n Arglwydd fe gredaf fod pob person dynol yn fod cysegredig a greawyd ar lun a del Duw. I mi, mae hyn yn absoliwt. Nid oes gennym, felly, yr hawl i roi diwedd ar bersonau mewn unrhyw fodd, mae hyn yn cynnwys erthylu, ewthanasia, dienyddio a rhyfel.

Gofynni am ryfel cyfiawn. Nid oes y fath beth yn bod, o safbwynt yr Efengyl y mae pob rhyfel yn anghyfiawn. Am dair canrif cyntaf o’i hanes yr oedd yr Eglwys yn gwrthod caniatau i’w haelodau ddilyn unrhyw broffesiwn a fyddai’n golygu bod yn rhan o’r peiriant lladd. Newidiodd pethau pan ddaeth yr Ymerodraeth a’r Eglwys Sefydliadol yn bartneriaid, yna lluniwyd y ddysgeidiaeth am ryfel cyfiawn – nid oes iddi unrhyw sail ysgrythurol ac mae’n groes i ddysgeidiaeth Iesu. Os wyt yn credu mewn rhyfel cyfiawn, fel mae’n amlwg dy fod, yna yr wyt yn credu ei bod yn iawn o dan rai amgylchiadau i ladd plant a phobol diniwed – oherwydd bod hynny yn digwydd ym mhob rhyfel; ‘collateral damage’ yw’r ymadrodd salw sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r peth. Mae’r holl beth yn bydredig o anfoesol; ac fel pob peth anfoesol mae’n peryglu’n dyfodol.

Ti’n holi am “llygad am lygad, dant am ddant” fel sail i system cyfiawnder? Arswyd y byd, nid wyf yn gallu credu’m llygaid!! A wyt ti’n dweud fod Iesu’n rong? Fe wnaeth Iesu, yn y Bregeth ar y Mynydd, gywiro’r pwyslais yna a’i newid. Odi fe wedi gwneud mistêc? Odi rooney’n deall meddwl Duw yn well na Iesu Grist? Yr ateb uniongyrchol i’th gwestiwn yw “Nagw”, a carwn ddyfynnu Paul: “Peidiwch a mynnu dial, gyfeillion annwyl, ... Yn hytrach, os bydd dy elynion yn newynu, rho fwyd iddynt; os byddant yn sychedu, rho iddynt beth i’w yfed ... Paid â goddef dy drechu gan ddrygioni. Trecha di ddrygioni â daioni.” Dyma’r modd y dehongla Paul feddwl yr Absoliwt; dysgeidiaeth sy’n gwbl anghyson â’r hyn a gyflwyni di.

Mae’r cwestiwn ynglŷn â’r gosb eithaf yn yr HD yn pwysleisio’r gwahaniaeth sylfaenol rhyngom. Nid yw’r HD i’w osod ar yr un gwastad â’r TN. Iesu yw’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ef yw meddwl Duw ar ffurf dyn. Mae’r HD i’w ddeall yng ngoleuni dysgeidiaeth Iesu. Roedd deall awduron yr HD o Dduw yn anghyflawn; rhaid cofio hynny’n barhaus, ac wrth ddarllen yr HD rhaid defnyddio Iesu fel llinyn mesur wrth ystyried a dehongli’r cyfan. A fyddai Iesu’n gorchymyn cosbi’r pechadur yn ôl y Ddeddf? Beth oedd ei agwedd at y wraig odinebus? Yr oedd y Ddeddf yn gorchymyn ei lladd.

Mae sawl dehongliad drwy hanes ynglŷn ag athrawiaeth yr Iawn. Mae’r ateb i’r fersiwn yr wyt ti’n ei chyflwyno yn dy gwestiwn yn ateb cadarnhaol – yr oedd Duw'n greulon os taw ei fwriad oedd cosbi’r ddynoliaeth a’i fod yn cael ei atal am iddo gael ei fodloni gan farwolaeth erchyll Iesu; ni allaf ei gysoni â’r Duw sy’n cael ei ddatguddio yn Iesu. Mae llu o ddehongliadau diwinyddol eraill sy’n ymestyn nôl i gyfnod y TN. Trafodaeth arall yw honno.

Gwrthwynebaf erthylu ar yr un sail a’m gwrthwynebiad i ryfel a’r gosb eithaf. Mae pob person dynol, o’i genhedliad hyd ei farwolaeth naturiol, yn fod cysegredig.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan huwwaters » Maw 04 Maw 2008 4:39 pm

Diolch i Foel Gornach am ei g/chyfraniad pwyllog a doeth, sydd wedi ei gadarnhau gyda thystiolaeth. Os yw gair y Beibl yn absoliwt, felly dim ond y Beibl y dylid ei ddefnyddio fel ffynhonell trafod, nid dehongliad rhywun arall ar wefan arall fel answersingenesis. Wedi'r cyfan, bod yn fodau dynol yw ein gwendid.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Nôl

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron