Moesau, deddfau, cyfiawnder

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan rooney » Sad 01 Maw 2008 1:28 pm

Duw a ddywedodd:Sut ar y Ddaear gall cristion gytuno a dienyddiad? Mae bywyd yn sanctaidd, boed yn fywyd baban neu fywyd y llofrudd mwya ffiaidd a bu fyw erioed. .
Fel anffyddiwr, teimlaf ambell waith y bod gennyf fwy o barch am fywyd na'r rheini sydd yn hawlio'r tir uchaf wrth drafod moesau.


felly dwed wrthom os wyt ti'n erbyn erthylu
yr anghysondeb mwyaf syfradnol mewn cymdeithas heddiw yw fod gymaint o bobl yn neidio i fyny ac i lawr a gweiddi "na" pan mae rhywun yn cynnig dod a'r gosb eithaf yn ol ar gyfer llofruddwyr a paedophiles ayyb. ond eto'n mynd allan o'u ffordd i gytuno gyda'r deddfau presennol sy'n caniatau llofruddio baban yn y groth- 200,000 o'r rhain yn digwydd bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr.
Gallaf ddeall pam fod rhai Cristnogion yn erbyn y gosb eithaf, felly gaf i ofyn i'r Cristnogion rheiny beth yn union mae nhw wedi ei wneud i drio rhoi stop ar yr holocaust erthylu. Does dim cysondeb o gwbl yn gweiddi "na" i ddienyddio llofruddwyr ond eto'n gweiddi "OK" pan mae'n dod i erthylu.
Felly "Duw", os ti'n honni gen ti barch at fywyd yna eglura i ni lle ti'n sefyll ar y cwestiwn erthylu a beth yw dy gyfraniad di tuag at roi diwedd ar yr holocaust yma sydd wedi dwyn 6m o fywydau ers 1967. Anaml iawn ni'n clywed am anffyddwyr seciwlar yn protestion yn erbyn yr holocaust yma, mae nhw mor brysur yn sicrhau ac amddiffyn "hawl" i'r ferch i gario allan y lofruddiaeth yn erbyn y baban diniwed, sydd yn wahanol i'r llofruddiwr sydd ddim yn ddiniwed ac wedi tynnu ffwrdd bywyd person arall yn ddrygionus.
Grwpiau Cristnogol sydd yn ymgyrchu yn erbyn erthylu ac euthanasia fel arfer.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan rooney » Sad 01 Maw 2008 1:35 pm

Senghennydd a ddywedodd:Realiti bywyd yw gorfod blaenoriaethu. Mae doctoriaid, gwyddonwyr a rheolwyr ein gwasanaeth iechyd ni yn gwneud penderfyniadau anodd bob dydd ar sut i flaenoriaethu'r arian sydd gyda nhw. Mae rhai yn dibynnu ar ei ffydd i'w helpu i wneud y penderfyniadau hynny. Er enghraifft, os oes rhaid dewis rhwng rhoi organ i'w drawsblannu i hen berson neu berson ifanc fe wneir y penderfyniad i'w rhoi i'r person ifanc. Marw yn araf a diurddas yw tynged llawer o hen bobl yn ein cymdeithas ni yn anffodus, a gobeithiaf y byddai ffyddwyr ac anffyddwyr yn credu bod hyn yn dristwch. [ond mater i edefyn arall fyddai trafod euthanasia].
Mae'r syniad o ddod a machine gun i mewn i'r cwestiwn yn haerllug. Mae hefyd yn sarhad ar waith rheiny sy'n gofalu am ein hiechyd, ac ar bobl sy'n dioddef.


beth am i ti ateb y cwestiwn- pam fod e'n anghywir i mi danio'r gwn?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan rooney » Sad 01 Maw 2008 1:41 pm

huwwaters a ddywedodd: Tydi pobol methu creu moesau eu hunain. Mae amgylchedd nhw yn eu siapio. Mae angen stimulus iddo ddigwydd. Fedri di ddim gneud dy gyhyrau just dyfu, mae angen rhoi straen iddynt mewn modd o bwysau. Yr awdurdod sy'n rhoi moesau rhywun uwchben un arall yw gwelidyddiaeth. Mae gan pawb rhai gwahanol, a felly yn anghytuno fel dwi'n neud efo ti rwan.

Dibynnu sut ti'n diffinio cywir. Mae'r papur The Sun yn honni fod tua 90% isio hangio yn ôl fel y gosb eithaf. Dwi ddim yn cytuno â hwn na miliynau o bobol erill, ond yn ôl y rhai sy'n gofyn amdano, mae hangio llofruddiwr yn gywir.


felly, fe ddylai'r gosb eithaf ddod yn ol os ni'n byw mewn gwir ddemocratiaeth a chymryd fod dy ffigwr o 90% yn wir. Y rheswm gewn ni byth hwn yn ol, na'r gansen yn yr ysgol ayyb. yw oherwydd ni'n byw mewn ymerodraeth Ewropeaidd seciwlar di-dduw sydd gyda'i agenda ei hun.

Ddim yn deall dy ddadl fod cymdeithas yn siapio moesau. Wyt ti ddim yn gweld fod hyn golygu fod moesau yn dirywio. Beth petae'r cyngor lleol yn rhoi caniatad cynllunio i adeiladu siopau rhyw yn dy bentref, a caniatau puteiniaid i weithio tu allan i dy gartref. Dros amser mae dy gymdogion yn dechrau mynd i'r brothels ac yn defnyddio'r puteiniaid. Mae'r cynghorwyr yn cael eu ail-ethol. Hei, dyna i ti wleidyddion yn setio'r moesau. Felly, yw hyn yn gwneud puteindra/brotherls/siopau rhyw yn ok? Yw hyn yn gwneud e'n ok i ti fynd lawr y lon a pigo fyny putain- mae gwyr eraill o'r pentref yn gwneud hyn so beth sydd o'i le gyda ti'n gwneud yr un peth?

Might is right ddim yn gweithio.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 01 Maw 2008 3:15 pm

rooney a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:Yr unig wahaniaeth rhwng y ddau yw fod darn o bapur sydd wedi cael ei osod gan quorum yn deud ti'n cael neud un ond nid y llall.


nage, ond mae'n frawychus dy fod yn dweud "yr unig" wahaniaeth fel fod un cynddrwg a'r llall


Does dim gwahaniaeth. Lladd yw lladd, ac mae llofruddio neu dienyddio yn weithred gwbwl anghristnogol, ac yn labeli sydd wedi cael eu creu gan bobl. Mae'r 2 yn golygu Lladd.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan huwwaters » Sad 01 Maw 2008 4:37 pm

rooney a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Sut ar y Ddaear gall cristion gytuno a dienyddiad? Mae bywyd yn sanctaidd, boed yn fywyd baban neu fywyd y llofrudd mwya ffiaidd a bu fyw erioed. .
Fel anffyddiwr, teimlaf ambell waith y bod gennyf fwy o barch am fywyd na'r rheini sydd yn hawlio'r tir uchaf wrth drafod moesau.


felly dwed wrthom os wyt ti'n erbyn erthylu
yr anghysondeb mwyaf syfradnol mewn cymdeithas heddiw yw fod gymaint o bobl yn neidio i fyny ac i lawr a gweiddi "na" pan mae rhywun yn cynnig dod a'r gosb eithaf yn ol ar gyfer llofruddwyr a paedophiles ayyb. ond eto'n mynd allan o'u ffordd i gytuno gyda'r deddfau presennol sy'n caniatau llofruddio baban yn y groth- 200,000 o'r rhain yn digwydd bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr.
Gallaf ddeall pam fod rhai Cristnogion yn erbyn y gosb eithaf, felly gaf i ofyn i'r Cristnogion rheiny beth yn union mae nhw wedi ei wneud i drio rhoi stop ar yr holocaust erthylu. Does dim cysondeb o gwbl yn gweiddi "na" i ddienyddio llofruddwyr ond eto'n gweiddi "OK" pan mae'n dod i erthylu.
Felly "Duw", os ti'n honni gen ti barch at fywyd yna eglura i ni lle ti'n sefyll ar y cwestiwn erthylu a beth yw dy gyfraniad di tuag at roi diwedd ar yr holocaust yma sydd wedi dwyn 6m o fywydau ers 1967. Anaml iawn ni'n clywed am anffyddwyr seciwlar yn protestion yn erbyn yr holocaust yma, mae nhw mor brysur yn sicrhau ac amddiffyn "hawl" i'r ferch i gario allan y lofruddiaeth yn erbyn y baban diniwed, sydd yn wahanol i'r llofruddiwr sydd ddim yn ddiniwed ac wedi tynnu ffwrdd bywyd person arall yn ddrygionus.
Grwpiau Cristnogol sydd yn ymgyrchu yn erbyn erthylu ac euthanasia fel arfer.


O blaen o ti'n galw babanon yn bechadurus. Am anghysondeb!

Rooney, be am yr adeg yn ystod yr oesoedd canol pan oedd dienyddio pabyddion wedi eu creu yn ferthyron? Mae sawl merthyr wedi cael ei greu oherwydd dienyddiad. Beth petai'r llywodraeth yn gweithredu dienyddiad Cristnogion? Yn ôl ti, mae hwn yn iawn yn llygaid Duw, ond ar yr un pryd yn gwrthwynebu'r pwynt o geisio ledaenu'r neges am Iesu a Christnogaeth.

Ynglyn a dy sylwadau am buteindra. Dwi'm yn gwbad sut i ateb i'r fath beth. Ti'n trio cymharu ein cenedl heddiw gyda Sodom a Gomorrah. Clefar. Heddiw ni efo'r rhyddid mwya posib, safon byw bosib gore a digon o fwyd a gofal iechyd.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan rooney » Sad 01 Maw 2008 4:52 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Does dim gwahaniaeth. Lladd yw lladd, ac mae llofruddio neu dienyddio yn weithred gwbwl anghristnogol, ac yn labeli sydd wedi cael eu creu gan bobl. Mae'r 2 yn golygu Lladd.


mae dienyddio a llofruddio yn ddau beth hollol wahanol, ond rwy'n derbyn nad yw llawer o Gristnogion o blaid y gosb eithaf ac mae dadleuon derbyniol i'w gwneud i gefnofi'r safbwynt yna

y broblem gyda cymryd y safbwynt fod unrhyw ladd yn anghywir yw fod hyn yn codi llwythi o gwestiynau digon lletwith i ti. Dyma ddetholiad:-

wyt ti'n anghytuno gyda "just wars"?
wyt ti'n anghytuno gyda "llygad am lygad, dant am ddant" fel sail ar gyfer system cyfiawnder?
sut wyt ti'n derbyn/deall gorchmynion Duw i'r Israeliaid yn yr Hen Destament ynglyn a'r gosb eithaf?
oedd Duw yn greulon yn angen aberth gwaed, gan gynnwys aberth ei fab?
wyt ti'n OK gyda erthylu- os felly, sut?
ayyb
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan rooney » Sad 01 Maw 2008 5:11 pm

huwwaters a ddywedodd:O blaen o ti'n galw babanon yn bechadurus. Am anghysondeb!


sidestep neis, tyrd dwed wrthom dy farn am erthylu

Rooney, be am yr adeg yn ystod yr oesoedd canol pan oedd dienyddio pabyddion wedi eu creu yn ferthyron? Mae sawl merthyr wedi cael ei greu oherwydd dienyddiad. Beth petai'r llywodraeth yn gweithredu dienyddiad Cristnogion? Yn ôl ti, mae hwn yn iawn yn llygaid Duw, ond ar yr un pryd yn gwrthwynebu'r pwynt o geisio ledaenu'r neges am Iesu a Christnogaeth.


beth? gwneud dim synnwyr
actiwali, fe fydd yr UE seciwlar yn clampio lawr ar bobl sy'n eisiau gwerthoedd Cristnogol, mae'n digwydd yn barod. Mater o amser tan i Gristnogion gael eu carcharu neu dirwyo am ddatgan beth mae'r Beibl yn ei ddweud, yn barod mae Cristnogion yn cael amser caled dan seciwlariaeth gwleidyddol gywir.


Ynglyn a dy sylwadau am buteindra. Dwi'm yn gwbad sut i ateb i'r fath beth. Ti'n trio cymharu ein cenedl heddiw gyda Sodom a Gomorrah. Clefar. Heddiw ni efo'r rhyddid mwya posib, safon byw bosib gore a digon o fwyd a gofal iechyd.


ti'n osgoi'r pwynt, os wyt ti'n meddwl mae cymdeithas a gwleidyddion sy'n penderfynu beth sy'n foesol iawn neu ddim yna yw hyn yn golygu mewn cymdeithas sydd wedi disgyn fod o'n ok i ti fyhafio mor wael a phawb arall? onid oes rhywbeth tu fewn i ni'n dweud fod hyn just a llawer o bethau just ddim yn iawn, waeth beth mae'r byd yn feddwl?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan ceribethlem » Sad 01 Maw 2008 5:42 pm

rooney a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:O blaen o ti'n galw babanon yn bechadurus. Am anghysondeb!


sidestep neis, tyrd dwed wrthom dy farn am erthylu

Does dim ishe troi hwn yn edefyn am erthylu. Mae edefyn anferth am erthylu yn bodoli, defnyddia'r teclyn ymchwilio os wyt ti am atgyfodi hwnna.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan sian » Sad 01 Maw 2008 9:05 pm

ceribethlem a ddywedodd:Does dim ishe troi hwn yn edefyn am erthylu. Mae edefyn anferth am erthylu yn bodoli, defnyddia'r teclyn ymchwilio os wyt ti am atgyfodi hwnna.


Er bod 'na edefyn am erthylu, dw i'n meddwl ei fod yn gwestiwn dilys i ofyn yn fan hyn - dim ond nad ydyn ni'n mynd rownd a rownd mewn cylchoedd wedyn.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan Kez » Sad 01 Maw 2008 9:20 pm

sian a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Does dim ishe troi hwn yn edefyn am erthylu. Mae edefyn anferth am erthylu yn bodoli, defnyddia'r teclyn ymchwilio os wyt ti am atgyfodi hwnna.


Er bod 'na edefyn am erthylu, dw i'n meddwl ei fod yn gwestiwn dilys i ofyn yn fan hyn - dim ond nad ydyn ni'n mynd rownd a rownd mewn cylchoedd wedyn.


Er ei fod e'n gwestiwn dilys i ofyn - am taw Rooney sy'n cyfrannu; does gobaith osgoi mynd rownd a rownd :ing: a fe yw un o'r rhesymau gora am erthylu; ma'n siwr gen i oedd e'n pregethu yn y groth a'r un mor anaeddfed a disynnwyr pwrni ag yw e nawr. Ma rhywbeth bach yn od biti fe os gofynid di fi.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron