Duw a ddywedodd:Sut ar y Ddaear gall cristion gytuno a dienyddiad? Mae bywyd yn sanctaidd, boed yn fywyd baban neu fywyd y llofrudd mwya ffiaidd a bu fyw erioed. .
Fel anffyddiwr, teimlaf ambell waith y bod gennyf fwy o barch am fywyd na'r rheini sydd yn hawlio'r tir uchaf wrth drafod moesau.
felly dwed wrthom os wyt ti'n erbyn erthylu
yr anghysondeb mwyaf syfradnol mewn cymdeithas heddiw yw fod gymaint o bobl yn neidio i fyny ac i lawr a gweiddi "na" pan mae rhywun yn cynnig dod a'r gosb eithaf yn ol ar gyfer llofruddwyr a paedophiles ayyb. ond eto'n mynd allan o'u ffordd i gytuno gyda'r deddfau presennol sy'n caniatau llofruddio baban yn y groth- 200,000 o'r rhain yn digwydd bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr.
Gallaf ddeall pam fod rhai Cristnogion yn erbyn y gosb eithaf, felly gaf i ofyn i'r Cristnogion rheiny beth yn union mae nhw wedi ei wneud i drio rhoi stop ar yr holocaust erthylu. Does dim cysondeb o gwbl yn gweiddi "na" i ddienyddio llofruddwyr ond eto'n gweiddi "OK" pan mae'n dod i erthylu.
Felly "Duw", os ti'n honni gen ti barch at fywyd yna eglura i ni lle ti'n sefyll ar y cwestiwn erthylu a beth yw dy gyfraniad di tuag at roi diwedd ar yr holocaust yma sydd wedi dwyn 6m o fywydau ers 1967. Anaml iawn ni'n clywed am anffyddwyr seciwlar yn protestion yn erbyn yr holocaust yma, mae nhw mor brysur yn sicrhau ac amddiffyn "hawl" i'r ferch i gario allan y lofruddiaeth yn erbyn y baban diniwed, sydd yn wahanol i'r llofruddiwr sydd ddim yn ddiniwed ac wedi tynnu ffwrdd bywyd person arall yn ddrygionus.
Grwpiau Cristnogol sydd yn ymgyrchu yn erbyn erthylu ac euthanasia fel arfer.