Moesau, deddfau, cyfiawnder

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan rooney » Mer 27 Chw 2008 12:35 am

murray hewitt a ddywedodd:Falle bo fi ond dwi ddim yn meddwl a dwin meddwl byddai llawer yn cytuno gyda fi fod dy grefydd efengylaidd yn deluded,


so?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan huwwaters » Mer 27 Chw 2008 12:55 am

rooney a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:Mae moesau a moesegau yn ffrwyth nifer o bethau. Tydio ddim just yn 'bodoli'. Un dyn sydd wedi rhoi sylw ar y cysylltiad yma yw Robert Masters. Dyn sydd wedi diffinio’r gwahaniaeth rhwng effaith, teimlad ac emosiwn. Gellir dweud mai effaith yw enghraifft o atgyrch neu ymdrech o ddangos tymer nad ydych yn ei deimlo. Gwedd yn unig ydyw sy’n cael ei reoli gan unrhyw beth ond eich teimladau. Teimlad yw’r ymwybyddiaeth o effaith, efo gallu dadansoddol, nad yw wedi ei seilio yn ffisiolegol, ac yn amal â gogwydd seicolegol; ac emosiwn wedi ei adeiladu’n seico-gymdeithasol - teimlad wedi ei ddramateiddio.

Mae'n bosib datblygu dy feddwl i fod yn fwy 'emotionally stable' o ryw fath ble chi'n gosod eich hun i sdresiau gwahanol. Chi'n eu profi, yn datblygu imiwnedd o ryw fath. Tydio ddim yn golygu eich bod ddim yn teimlo emosiwn dros rywbeth, ond ei fod yn bosib i chi newid yn ôl i normal. Mae pobol sydd yn 'emotionally unstable' yn tueddu i fod y rhai sydd ar fin lladd eu hunain ar ôl colli eu rhieni, gwr/gwraig, plentyn. Y rhai sydd mwy sefydlog yw'r rhai sydd gallu maddau llofruddiwr etc.

Rooney, dwi'n meddwl dyle ti feddwl cyn agor dy geg. Yn amlwg ti jyst isio cychwyn trafodaeth am rywbeth, dim ots be, er mwyn i ti cael deud dy farn. Dyfala be? Ma pawb di clwed o a ddim isio clwed mwy.


ddim yn deall pam ti'n taflu sylwad felna ar y diwedd, rattled?
anodd deall dy neges- wyt ti'n honni mae rhywbeth naturiol, materol, yw moesau? os felly, sut fedri farnu moesau neu weithredoedd unrhywun arall? sut gall moesau un person trumpio moesau person arall- beth yw'r safon? pwy sy'n penderfynnu y safon? ar pa awdurdodd?


Dwi'n honni fod moesau yn datblygu o fewn person gan ddibynnu ar eu profiade. Os nad wyt ti'n gwbad yn well tydi lladd a lladrata ddim yn golygu lot. I'r rhai sydd wedi cael eu magu mewn ffordd iawn, fel y rhan fwyaf ohonom, ni'n gwbad ei fod yn anghywir. Sdim ond edrych ar yr unigolion sydd i fewn ac allan o garchardai i weld nad ydynt yn gwybod yn well. Un arall yw caethwasiaeth. Mae Cristnogwyr wedi newid ei thiwn dros y blynyddoedd drwy fod o blaid i yn erbyn.

Y broblem gyda crefyddau ac efengylwyr, pentecostiaid etc. yn benodol yw achos fod chi'n derbyn yr ysgrythyr yn lythrennol, dyle moesau pawb fod yr un fath. Os ma rhywun yn digwydd anghytuno, ni'n anfoesol, yn anghywir. Y gwir yw fod moesau pawb yn wahanol. Mae hyn yn amlwg gyda rhai sydd yn erbyn gwrywgydiaeth a'r rhai sydd o blaid ill dau yn dilyn Cristnogaeth os tisio.

un o'r pethau mwyaf brawychus o drafod gyda anffyddwyr yw fod nhw gyda problemau enbyd gyda'r syniad fod unigolion gyda cyfrifoldebau personol, fod unigolion yn rhydd i wneud da a drwg- nhw eisiau credu fod pobl fel mae nhw a fod nhw methu help a fod nhw ddim angen newid/fod e'n annaturiol i nhw newid. Mae hynny gyda oblygiadau enfawr os yn wir (dwi ddim yn credu fod e'n wir) e.e. sut gall cymdeithas gosbi person os yw'n byhafio fel mae'n "naturiol" i'r person wneud? rwy'n sylwi hefyd fod y dadleuon materol yma'n osgoi trafod rhai achosion. Mor barod yw pobl i honni fod byhafio'n hoyw yn "naturiol" neu "normal", heb dystiolaeth o sylwedd i gefnogi'r fath syniad, ond eto yn osgoi y cwestiwn os yw pobl sydd yn cael rhyw gyda anifeiliad, plant, pobl marw ayyb yn "naturiol".


Paid a cymyd yn ganiataol fy mod yn anffyddiwr, dwi heb deud un ffordd neu'r llall erioed fel bod neb yn trio creu darlun personol ohonaf. Dwi'n cwestiynu yn barhaol, ac yn amlwg achos fy mod yn digwydd anghytuno gyda thi, dwi'n anffyddiwr. Dyma ble mae efengyliaeth yn anghywir, dyma sut mae'n beryglus. Neu yng ngeiriau George Bush ar y Rhyfel ar Derfysgiaeth ac ymosod ar Iraq, "you're either with us, or against us".

Mae normal yn newid yn barhaol. Enghraifft o hyn yw "y corff naturiol" neu perffaith sydd yn cael ei lunio yn ein meddyliau fel corff sydd â meintiau a siap cyrff cyfartalog y boblogaeth. Gan anghofio ar y cyfryngau sy'n gwthio pob math o gyrff tenau a tynn, wrth i'r boblogaeth, a chanran uwch ohoni, roi pwsau ymlaen bydd bod yn dew yn dod yn fwy derbyniol.

Yr athrawiaeth Feiblaidd yw fod pawb yn cael eu geni gyda stad bechadurus, hyn sydd yn "naturiol", ond nid yw'n dysgu fod naturiol = iawn/derbyniol, mae'r ysgrythurau'n ein dysgu i newid ein ffyrdd tuag at ffyrdd daionus a chariadus Duw, gyda'i gymorth fe all pawb symud ffwrdd o'u pechodau. Ddim yn hawdd, dyna pam ni angen Duw.


Beth sydd mor bechadurus am faban diniwed?
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan rooney » Mer 27 Chw 2008 1:03 am

huwwaters a ddywedodd:Dwi'n honni fod moesau yn datblygu o fewn person gan ddibynnu ar eu profiade. Os nad wyt ti'n gwbad yn well tydi lladd a lladrata ddim yn golygu lot. I'r rhai sydd wedi cael eu magu mewn ffordd iawn, fel y rhan fwyaf ohonom, ni'n gwbad ei fod yn anghywir. Sdim ond edrych ar yr unigolion sydd i fewn ac allan o garchardai i weld nad ydynt yn gwybod yn well.


felly sut fedri di gyfiawnhau cosbi rhywun am wneud rhywbeth anfoesol? falle fod nhw heb gael y profiad, falle dim bai nhw yw hynny...

Y broblem gyda crefyddau ac efengylwyr, pentecostiaid etc. yn benodol yw achos fod chi'n derbyn yr ysgrythyr yn lythrennol, dyle moesau pawb fod yr un fath. Os ma rhywun yn digwydd anghytuno, ni'n anfoesol, yn anghywir. Y gwir yw fod moesau pawb yn wahanol. Mae hyn yn amlwg gyda rhai sydd yn erbyn gwrywgydiaeth a'r rhai sydd o blaid ill dau yn dilyn Cristnogaeth os tisio.


mae Duw yn datgan yn gwbl blaen yn y Beibl fod gwrywgydiaeth yn anfoesol

Beth sydd mor bechadurus am faban diniwed?


beth, ti ddim yn gorfod dysgu baban i beidio bod yn hunanol, anddiolchgar, anufudd ayyb?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan Chickenfoot » Mer 27 Chw 2008 10:16 am

Ond pam bod gwrwgydiaeth (genius o air, gyda llaw) yn anfoesol? I gyd mae Leviticus yn dweud yw fod y peth yn anghywir "I am the LORD" a dyna fo. Pam all neb cwestiynu gair Duw - hyd yn oed os nad oes unrhyw gyfiawnhad yn cael ei roi gan Dduw dros ei orchmynion?
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan murray hewitt » Mer 27 Chw 2008 3:23 pm

rooney a ddywedodd:
murray hewitt a ddywedodd:Falle bo fi ond dwi ddim yn meddwl a dwin meddwl byddai llawer yn cytuno gyda fi fod dy grefydd efengylaidd yn deluded,


so?


so dwin meddwl bo chdin deluded
murray hewitt
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sad 09 Chw 2008 11:12 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan huwwaters » Mer 27 Chw 2008 4:35 pm

rooney a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:Dwi'n honni fod moesau yn datblygu o fewn person gan ddibynnu ar eu profiade. Os nad wyt ti'n gwbad yn well tydi lladd a lladrata ddim yn golygu lot. I'r rhai sydd wedi cael eu magu mewn ffordd iawn, fel y rhan fwyaf ohonom, ni'n gwbad ei fod yn anghywir. Sdim ond edrych ar yr unigolion sydd i fewn ac allan o garchardai i weld nad ydynt yn gwybod yn well.


felly sut fedri di gyfiawnhau cosbi rhywun am wneud rhywbeth anfoesol? falle fod nhw heb gael y profiad, falle dim bai nhw yw hynny...


Ond fel weli di dy hun, mae cosbi rhywun am wneud rhywbeth ddim yn gweithio, achos fod nifer yn gwneud eto ac eto. Mae nhw'n gneud pethe anfoesol yn ôl llygaid cyfraith gwlad sydd wedi cael ei lunio gan weledigaeth moesol cyfartalog y boblogaeth. Rehabilitation sydd yn gweithio, mewn dull o geisio diwygio moesau person gan roi profiade a dangos ble maent yn mynd yn anghywir.

Y broblem gyda crefyddau ac efengylwyr, pentecostiaid etc. yn benodol yw achos fod chi'n derbyn yr ysgrythyr yn lythrennol, dyle moesau pawb fod yr un fath. Os ma rhywun yn digwydd anghytuno, ni'n anfoesol, yn anghywir. Y gwir yw fod moesau pawb yn wahanol. Mae hyn yn amlwg gyda rhai sydd yn erbyn gwrywgydiaeth a'r rhai sydd o blaid ill dau yn dilyn Cristnogaeth os tisio.


mae Duw yn datgan yn gwbl blaen yn y Beibl fod gwrywgydiaeth yn anfoesol[/quote]

Mae hefyd yn ddigon blaen na ddylid lladd, ond mewn dadl arall ti di trio newid hyn a rhoi dy spin di arno a deud ei fod yn golygu na ddylid llofruddio; mae dienyddio yn iawn. Ti i'w weld yn mynd yn erbyn gair Duw.

Beth sydd mor bechadurus am faban diniwed?


beth, ti ddim yn gorfod dysgu baban i beidio bod yn hunanol, anddiolchgar, anufudd ayyb?


Ers pryd ma babanod wedi gallu siarad ac ymddwyn yn y fath ffyrdd? Plant ac oedolion, ydynt; felly mae modd siapio eu moesau trwy eu magu'n iawn.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan rooney » Mer 27 Chw 2008 7:24 pm

huwwaters a ddywedodd:Ond fel weli di dy hun, mae cosbi rhywun am wneud rhywbeth ddim yn gweithio, achos fod nifer yn gwneud eto ac eto. Mae nhw'n gneud pethe anfoesol yn ôl llygaid cyfraith gwlad sydd wedi cael ei lunio gan weledigaeth moesol cyfartalog y boblogaeth. Rehabilitation sydd yn gweithio, mewn dull o geisio diwygio moesau person gan roi profiade a dangos ble maent yn mynd yn anghywir.


felly ti'n erbyn cosbi? fedri di ddim cyfiawnhau cosbi neb fedri di, gan ti'n meddwl fod pobl fod gwneud eu moesau eu hunain i fyny, a pa awdurdod sydd gen moesau "cyfartalog" dros foesau unigolyn? yw beth sy'n gywir neu'n anghywir yn cael ei benderfynnu gan bleidlais y mwyafrif- os felly might is right
rwyt ar goll huw

Mae hefyd yn ddigon blaen na ddylid lladd, ond mewn dadl arall ti di trio newid hyn a rhoi dy spin di arno a deud ei fod yn golygu na ddylid llofruddio; mae dienyddio yn iawn. Ti i'w weld yn mynd yn erbyn gair Duw.


wyt ti ddim yn deall y gwahaniaeth rhwng dienyddio a llofruddio? bobl bach
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan rooney » Mer 27 Chw 2008 7:29 pm

Chickenfoot a ddywedodd:Ond pam bod gwrwgydiaeth (genius o air, gyda llaw) yn anfoesol? I gyd mae Leviticus yn dweud yw fod y peth yn anghywir "I am the LORD" a dyna fo. Pam all neb cwestiynu gair Duw - hyd yn oed os nad oes unrhyw gyfiawnhad yn cael ei roi gan Dduw dros ei orchmynion?


fe yw creawdwr popeth, gan gynnwys dyn a dynes, gan gynnwys rhyw, gan gynnwys ein organau rhywiol
mae rhyw yn anrheg gan ein creawdwr ac mae ef wedi datgan yn gwbl blaen fod defnydd addas a defnydd anaddas i'r organau rhywiol, fod cyd-destun i'r peth
wyt ti'n derbyn fod defnydd addas ac anaddas yn bodoli? (gofyn i dy hun pam fyddai'r fath gysyniad yn bodoli)

cewn drafod gwrywgydiaeth mewn edefny arall efallai
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan Muralitharan » Mer 27 Chw 2008 8:14 pm

rooney a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:
wyt ti ddim yn deall y gwahaniaeth rhwng dienyddio a llofruddio? bobl bach


Wel, Rooney, tydw i ddim yn gweld y gwahaniaeth chwaith!
'Na Ladd' oedd gorchymyn yr Hen Destament. Mor syml a hynny. Ac mae neges Iesu Grist yn y Testament Newydd yn y Bregeth ar y Mynydd a thrwy'i holl ddysgeidiaeth, hyd yn oed - ie, hyd yn oed - yn fwy radical na hynny.
Mae'n ddrwg gen i Rooney, ond mae'n well gen i eiriau Iesu Grist na dy ddehongliad di o'r Beibl ...
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan rooney » Mer 27 Chw 2008 8:30 pm

Muralitharan a ddywedodd:Wel, Rooney, tydw i ddim yn gweld y gwahaniaeth chwaith!
'Na Ladd' oedd gorchymyn yr Hen Destament. Mor syml a hynny. Ac mae neges Iesu Grist yn y Testament Newydd yn y Bregeth ar y Mynydd a thrwy'i holl ddysgeidiaeth, hyd yn oed - ie, hyd yn oed - yn fwy radical na hynny.
Mae'n ddrwg gen i Rooney, ond mae'n well gen i eiriau Iesu Grist na dy ddehongliad di o'r Beibl ...


Felly pam fod Duw wedi ordeinio'r gosb eithaf i Israel? Wyt ti ddim yn gweld y gwahaniaeth rhwng y gorchmynion?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron