rooney a ddywedodd: mae dienyddio a llofruddio yn ddau beth hollol wahanol, ond rwy'n derbyn nad yw llawer o Gristnogion o blaid y gosb eithaf ac mae dadleuon derbyniol i'w gwneud i gefnofi'r safbwynt yna
y broblem gyda cymryd y safbwynt fod unrhyw ladd yn anghywir yw fod hyn yn codi llwythi o gwestiynau digon lletwith i ti. Dyma ddetholiad:-
wyt ti'n anghytuno gyda "just wars"?
wyt ti'n anghytuno gyda "llygad am lygad, dant am ddant" fel sail ar gyfer system cyfiawnder?
sut wyt ti'n derbyn/deall gorchmynion Duw i'r Israeliaid yn yr Hen Destament ynglyn a'r gosb eithaf?
oedd Duw yn greulon yn angen aberth gwaed, gan gynnwys aberth ei fab?
wyt ti'n OK gyda erthylu- os felly, sut?
ayyb
O diar!! rooney rwyt ti’n tanseilio dy safbwynt dy hun. Ar un llaw yr wyt yn dweud bod y ddeddf foesol yn absoliwt, ac ar y llaw arall yn dweud bod eithriadau!!
Oes graddau mewn absoliwt?
Er taw gofyn y cwestiynau i Hedd a wnei, fe geisiaf rhoi fy nghyfraniad bach i i’r drafodaeth, a hynny ar waethaf y ffaith i ti ofyn i mi, yn gynt ar yr edefyn hwn, beidio a dilyn yr union drywydd yr wyt ti’n ei ddilyn!!
Fel un sy’n arddel Iesu’n Arglwydd fe gredaf fod pob person dynol yn fod cysegredig a greawyd ar lun a del Duw. I mi, mae hyn yn absoliwt. Nid oes gennym, felly, yr hawl i roi diwedd ar bersonau mewn unrhyw fodd, mae hyn yn cynnwys erthylu, ewthanasia, dienyddio a rhyfel.
Gofynni am ryfel cyfiawn. Nid oes y fath beth yn bod, o safbwynt yr Efengyl y mae pob rhyfel yn anghyfiawn. Am dair canrif cyntaf o’i hanes yr oedd yr Eglwys yn gwrthod caniatau i’w haelodau ddilyn unrhyw broffesiwn a fyddai’n golygu bod yn rhan o’r peiriant lladd. Newidiodd pethau pan ddaeth yr Ymerodraeth a’r Eglwys Sefydliadol yn bartneriaid, yna lluniwyd y ddysgeidiaeth am ryfel cyfiawn – nid oes iddi unrhyw sail ysgrythurol ac mae’n groes i ddysgeidiaeth Iesu. Os wyt yn credu mewn rhyfel cyfiawn, fel mae’n amlwg dy fod, yna yr wyt yn credu ei bod yn iawn o dan rai amgylchiadau i ladd plant a phobol diniwed – oherwydd bod hynny yn digwydd ym mhob rhyfel; ‘collateral damage’ yw’r ymadrodd salw sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r peth. Mae’r holl beth yn bydredig o anfoesol; ac fel pob peth anfoesol mae’n peryglu’n dyfodol.
Ti’n holi am “llygad am lygad, dant am ddant” fel sail i system cyfiawnder? Arswyd y byd, nid wyf yn gallu credu’m llygaid!! A wyt ti’n dweud fod Iesu’n rong? Fe wnaeth Iesu, yn y Bregeth ar y Mynydd, gywiro’r pwyslais yna a’i newid. Odi fe wedi gwneud mistêc? Odi rooney’n deall meddwl Duw yn well na Iesu Grist? Yr ateb uniongyrchol i’th gwestiwn yw “Nagw”, a carwn ddyfynnu Paul: “Peidiwch a mynnu dial, gyfeillion annwyl, ... Yn hytrach, os bydd dy elynion yn newynu, rho fwyd iddynt; os byddant yn sychedu, rho iddynt beth i’w yfed ... Paid â goddef dy drechu gan ddrygioni. Trecha di ddrygioni â daioni.” Dyma’r modd y dehongla Paul feddwl yr Absoliwt; dysgeidiaeth sy’n gwbl anghyson â’r hyn a gyflwyni di.
Mae’r cwestiwn ynglŷn â’r gosb eithaf yn yr HD yn pwysleisio’r gwahaniaeth sylfaenol rhyngom. Nid yw’r HD i’w osod ar yr un gwastad â’r TN. Iesu yw’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ef yw meddwl Duw ar ffurf dyn. Mae’r HD i’w ddeall yng ngoleuni dysgeidiaeth Iesu. Roedd deall awduron yr HD o Dduw yn anghyflawn; rhaid cofio hynny’n barhaus, ac wrth ddarllen yr HD rhaid defnyddio Iesu fel llinyn mesur wrth ystyried a dehongli’r cyfan. A fyddai Iesu’n gorchymyn cosbi’r pechadur yn ôl y Ddeddf? Beth oedd ei agwedd at y wraig odinebus? Yr oedd y Ddeddf yn gorchymyn ei lladd.
Mae sawl dehongliad drwy hanes ynglŷn ag athrawiaeth yr Iawn. Mae’r ateb i’r fersiwn yr wyt ti’n ei chyflwyno yn dy gwestiwn yn ateb cadarnhaol – yr oedd Duw'n greulon os taw ei fwriad oedd cosbi’r ddynoliaeth a’i fod yn cael ei atal am iddo gael ei fodloni gan farwolaeth erchyll Iesu; ni allaf ei gysoni â’r Duw sy’n cael ei ddatguddio yn Iesu. Mae llu o ddehongliadau diwinyddol eraill sy’n ymestyn nôl i gyfnod y TN. Trafodaeth arall yw honno.
Gwrthwynebaf erthylu ar yr un sail a’m gwrthwynebiad i ryfel a’r gosb eithaf. Mae pob person dynol, o’i genhedliad hyd ei farwolaeth naturiol, yn fod cysegredig.