Tudalen 8 o 9

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

PostioPostiwyd: Sad 01 Maw 2008 9:39 pm
gan ceribethlem
Kez a ddywedodd:
sian a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Does dim ishe troi hwn yn edefyn am erthylu. Mae edefyn anferth am erthylu yn bodoli, defnyddia'r teclyn ymchwilio os wyt ti am atgyfodi hwnna.


Er bod 'na edefyn am erthylu, dw i'n meddwl ei fod yn gwestiwn dilys i ofyn yn fan hyn - dim ond nad ydyn ni'n mynd rownd a rownd mewn cylchoedd wedyn.


Er ei fod e'n gwestiwn dilys i ofyn - am taw Rooney sy'n cyfrannu; does gobaith osgoi mynd rownd a rownd :ing: a fe yw un o'r rhesymau gora am erthylu; ma'n siwr gen i oedd e'n pregethu yn y groth a'r un mor anaeddfed a disynnwyr pwrni ag yw e nawr. Ma rhywbeth bach yn od biti fe os gofynid di fi.

Bihafia Kez, dim ymosodiadau personol, neu bydd rhaid eu dileu.

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

PostioPostiwyd: Sad 01 Maw 2008 9:49 pm
gan ceribethlem
sian a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Does dim ishe troi hwn yn edefyn am erthylu. Mae edefyn anferth am erthylu yn bodoli, defnyddia'r teclyn ymchwilio os wyt ti am atgyfodi hwnna.


Er bod 'na edefyn am erthylu, dw i'n meddwl ei fod yn gwestiwn dilys i ofyn yn fan hyn - dim ond nad ydyn ni'n mynd rownd a rownd mewn cylchoedd wedyn.

Dyma'r edefyn perthnasol (am erthylu) os am barhau lawr y trywydd 'ma. Yn bersonol bydden i'n tybio fod angen cadw'r edefyn hyn yn fyw cyffredinol.

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

PostioPostiwyd: Sad 01 Maw 2008 11:24 pm
gan Senghennydd
Rooney: beth am i ti ateb y cwestiwn- pam fod e'n anghywir i mi danio'r gwn?

Maddau i mi Rooney os nad oedd fy ateb i ynglyn a blaenoriaethu yn ddigon clir i ti.
Mae tanio'r gwn yn amlwg yn anghywir.
Does dim cysylltiad rhwng y 2 sefyllfa wyt ti'n eu cynnig:
1. tad gyda plentyn sal angen triniaeth ddrud yn teimlo rhwystredigaeth nad oes arian i gael;
2. y tad dig yn lladd hen ddynes ddiniwed sal.

Oes, mae cwestiwn moesol am sut mae cymdeithas yn gwario arian ar wasanaeth iechyd, a gallai hwn fod yn gwesitwn am euthanasia, neu hyd yn oed ladd pobl pan yn hen, neu ddweud bod pawb yn cael rhyw faint o wariant unigol, neu ryw swm o flynyddoedd ar y ddaear....etc etc
ond does a wnelo'r holl gwestiynau yna ddim a tanio gwn ar hen ddynes ddiniwed sal.
mae'n scenario dros ben llestri, amherthnasol a dichwaeth.
beth sy'n gyfiawn neu foesol am ladd person diniwed?!?!? :(

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

PostioPostiwyd: Sul 02 Maw 2008 1:49 am
gan Muralitharan
Ydw, Rooney, mi rydw i yn erbyn y gosb eithaf ac erthylu - safbwyntiau crefyddol - ac felly dwi'n tybio fy mod i'n gwbl gyson. Ond dwyt ti ddim; pam yr anghysondeb hwnnw? Am unwaith - os gweli di'n dda!!!!! - a wnei di ateb cwestiwn yn uniongyrchol? Pam wyt ti'n anghytuno a gorchymyn mawr a diamwys yr Hen Destament sef NA LADD? A pham wyt ti'n anghytuno ag Efengyl, hyd yn oed yn fwy radical na hynny, Iesu Grist? Pam wyt ti mor haerllug a chredu fod dy ddehongliad di o'r geiriau hynny yn gywirach na'r geiriau eu hunain?
Ond y gwir ydi, wrth gwrs, na wnei di ateb fy nghwestiynau ...

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

PostioPostiwyd: Sul 02 Maw 2008 2:17 am
gan rooney
Senghennydd a ddywedodd:Rooney: beth am i ti ateb y cwestiwn- pam fod e'n anghywir i mi danio'r gwn?

Maddau i mi Rooney os nad oedd fy ateb i ynglyn a blaenoriaethu yn ddigon clir i ti.
Mae tanio'r gwn yn amlwg yn anghywir.
Does dim cysylltiad rhwng y 2 sefyllfa wyt ti'n eu cynnig:
1. tad gyda plentyn sal angen triniaeth ddrud yn teimlo rhwystredigaeth nad oes arian i gael;
2. y tad dig yn lladd hen ddynes ddiniwed sal.
(


ti ddim yn ateb y cwestiwn. Os yw mor amlwg, yna eglurha.

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

PostioPostiwyd: Sul 02 Maw 2008 2:20 am
gan rooney
Muralitharan a ddywedodd:Pam wyt ti'n anghytuno a gorchymyn mawr a diamwys yr Hen Destament sef NA LADD? A pham wyt ti'n anghytuno ag Efengyl, hyd yn oed yn fwy radical na hynny, Iesu Grist? Pam wyt ti mor haerllug a chredu fod dy ddehongliad di o'r geiriau hynny yn gywirach na'r geiriau eu hunain?
Ond y gwir ydi, wrth gwrs, na wnei di ateb fy nghwestiynau ...


pa mor bell ti eisiau i mi fynd i egluro dy ddiffyg dealltwriaeth- os wyt yn mynnu mae dy ddehongliad di sydd yn gywir yna eglura i ni pam fod Duw wedi ordeinio'r gosb eithaf i Israel? oni fyddai hynny'n gwneud Duw yn anghyson, neu yn fwy tebygol- yn gwneud dy ddehongliad di'n anghywir?

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

PostioPostiwyd: Sul 02 Maw 2008 2:31 am
gan Muralitharan
Be' ydi yd obsesiwn di am "y gosb eithaf i Israel"? Pa ran o NA LADD nad wyt ti'n ei ddeall? Pam nad wyt ti'n derbyn dysgeidiaeth Iesu Grist?

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

PostioPostiwyd: Sul 02 Maw 2008 3:47 pm
gan Senghennydd
Rooney: ti ddim yn ateb y cwestiwn. Os yw mor amlwg, yna eglurha.

Mae lladd pobl ddiniwed yn anghywir.
Dwi'm yn gweld bod dim pellach i'w egluro. Os oes, eglura os gweli di'n dda?!
Mae sawl esboniad wedi eu cynnig yn y seiat hon ar darddiad moesau, ond ymddengys pob un yn annigonol i rai.

Pob lwc yn saethu tanio gwn ar bobl diniwed!

Digon o ddychymyg i deimlo Duw? ond dim digon o ddychymyg i weld y gellid byw yn foesol hebddo?
:rolio:

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

PostioPostiwyd: Sul 02 Maw 2008 8:06 pm
gan rooney
Muralitharan a ddywedodd:Be' ydi yd obsesiwn di am "y gosb eithaf i Israel"? Pa ran o NA LADD nad wyt ti'n ei ddeall? Pam nad wyt ti'n derbyn dysgeidiaeth Iesu Grist?


beth wyt ti'n gyfeirio ato? eglura

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

PostioPostiwyd: Sul 02 Maw 2008 8:10 pm
gan rooney
Senghennydd a ddywedodd:Rooney: ti ddim yn ateb y cwestiwn. Os yw mor amlwg, yna eglurha.

Mae lladd pobl ddiniwed yn anghywir.
Dwi'm yn gweld bod dim pellach i'w egluro. Os oes, eglura os gweli di'n dda?!
Mae sawl esboniad wedi eu cynnig yn y seiat hon ar darddiad moesau, ond ymddengys pob un yn annigonol i rai.

Pob lwc yn saethu tanio gwn ar bobl diniwed!

Digon o ddychymyg i deimlo Duw? ond dim digon o ddychymyg i weld y gellid byw yn foesol hebddo?
:rolio:


moesol yn ol pa safonau?
yr wyt ti'n meddwl fod rhywbeth yn "iawn" os yw gwleidyddion yn pasio deddf yn dweud fod e, yn wir yr wyt yn meddwl mae'r mwyafrif sydd yn penderfynu beth sy'n foesol/iawn
might is right :ofn: