Cwestiwn i Rooney

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cwestiwn i Rooney

Postiogan ceribethlem » Mer 27 Chw 2008 9:21 am

Wyt ti o ddifri yn credu fod dy agwedd hard-core am grefydd yn un sy'n llwyddo i droi pobl (fel dy gas anffyddwyr neu'r agnostics) at dy grefydd?
Neu, wyt ti ddim yn poeni taten am neb arall ac jyst ishe profi i bawb dy fod di yn fwy o bible-basher na phawb arall?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cwestiwn i Rooney

Postiogan Dan Dean » Mer 27 Chw 2008 9:40 am

Yn amlwg mae'r atebion i gyd fan hyn:
http://www.answersingenesis.com

Welodd rooney y rhaglen Baby Bible Bashers ar s4c nos Lun? Oedd o arno? :ofn:
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Re: Cwestiwn i Rooney

Postiogan Chickenfoot » Mer 27 Chw 2008 10:10 am

Dydi llawer o Gristnogion hard-core ddim am newid sut mae nhw'n cyflwyno neges Iesu Grist oherwydd os ydyn nhw, mae nhw'n teimlo nad yw'r person sydd yn cael ei troi at Iesu yn cael y neges llawn. Dyna beth oeddwn i'n daeall wrth wylio'r God Channel, beth bynnag. Mae rhai o'r "cristnogion" ar y sianel hwnnw'n gwneud i Rooney edrych fel Ashley o Emmerdale.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Cwestiwn i Rooney

Postiogan Muralitharan » Mer 27 Chw 2008 1:59 pm

... yn anffodus tydi Rooney ddim yn ateb cwestiynau. Dwi ddim yn siwr o hyd ai anghwrteisi neu anallu sy'n gyfrifol am hynny.
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Cwestiwn i Rooney

Postiogan looney » Mer 27 Chw 2008 5:13 pm

NID OES DEINOSORIAID YN BODOLI!!!!11111
looney
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 8:46 pm

Re: Cwestiwn i Rooney

Postiogan Macsen » Mer 27 Chw 2008 6:30 pm

A bod yn deg i Rooney mae o'n cyflwyno neges y Beibl ar y maes mewn modd cwbwl didwyll. Wela'i ddim yr un esiampl o Rooney yn cam ddehongli neges y Beibl. Os nad ydach chi'n hoffi'r neges, problem y Beibl y hynny mwy na problem Rooney.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Cwestiwn i Rooney

Postiogan ceribethlem » Mer 27 Chw 2008 7:09 pm

Macsen a ddywedodd:A bod yn deg i Rooney mae o'n cyflwyno neges y Beibl ar y maes mewn modd cwbwl didwyll. Wela'i ddim yr un esiampl o Rooney yn cam ddehongli neges y Beibl. Os nad ydach chi'n hoffi'r neges, problem y Beibl y hynny mwy na problem Rooney.

Fi'n cytuno, y pwynt o'n i'n trial gofyn (er ddim yn effeithiol iawn) oedd beth sydd bwysicaf i rooney, denu bobl at ei grefydd, neu gwaeddu ei neges at bawb hyd syrffed.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cwestiwn i Rooney

Postiogan rooney » Mer 27 Chw 2008 7:36 pm

mae llawer yn trio taflu hedyn y Gair i ardd sy'n llawn sothach, yn llawn chwyn
nid yw hedyn yn tyfu mewn lle fel hyn
mae angen palu a chwynu'r ardd, wedyn ceith yr hedyn ddisgyn a thyfu ac fe gewn gynhaeaf
ers degawdau mae Satan wedi bod yn plannu llawer o chwyn a sothach, felly rhaid chwynnu a phalu

mae hyn yn golygu tynnu llinellau clir am ble mae'r Beibl yn sefyll ar bethau, a dinistrio syniadau ffals o'r byd i.e. clirio'r ardd
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Cwestiwn i Rooney

Postiogan Macsen » Mer 27 Chw 2008 7:48 pm

Dw i'n creu taw dewis y Cristnion yw rhwng a) cynnig darlun cywir o'r Beibl a risgio dieithrio pobol, neu b) 'dehongli' y Beibl a rhoi cot o siwgr arno i'w weud yn fwy archwaethus i bobol. Mae Rooney yn gwneud y cyntaf.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Cwestiwn i Rooney

Postiogan ceribethlem » Mer 27 Chw 2008 8:06 pm

rooney a ddywedodd:mae llawer yn trio taflu hedyn y Gair i ardd sy'n llawn sothach, yn llawn chwyn
nid yw hedyn yn tyfu mewn lle fel hyn
mae angen palu a chwynu'r ardd, wedyn ceith yr hedyn ddisgyn a thyfu ac fe gewn gynhaeaf
ers degawdau mae Satan wedi bod yn plannu llawer o chwyn a sothach, felly rhaid chwynnu a phalu

mae hyn yn golygu tynnu llinellau clir am ble mae'r Beibl yn sefyll ar bethau, a dinistrio syniadau ffals o'r byd i.e. clirio'r ardd

Fi'n derbyn dy fod yn credu hynny. Yr hyn dwi'n ei ofyn yw, a wyt ti'n ceisio cenhadu dros dy grefydd? neu a wyt ti'n dweud y gwir ac yna mae e' lan i'r gweddill ohonom sut i ddelio gyda'r neges hwnnw?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron