rooney a ddywedodd:mae llawer yn trio taflu hedyn y Gair i ardd sy'n llawn sothach, yn llawn chwyn
nid yw hedyn yn tyfu mewn lle fel hyn
mae angen palu a chwynu'r ardd, wedyn ceith yr hedyn ddisgyn a thyfu ac fe gewn gynhaeaf
ers degawdau mae Satan wedi bod yn plannu llawer o chwyn a sothach, felly rhaid chwynnu a phalu
mae hyn yn golygu tynnu llinellau clir am ble mae'r Beibl yn sefyll ar bethau, a dinistrio syniadau ffals o'r byd i.e. clirio'r ardd
Fi'n derbyn dy fod yn credu hynny. Yr hyn dwi'n ei ofyn yw, a wyt ti'n ceisio cenhadu dros dy grefydd? neu a wyt ti'n dweud y gwir ac yna mae e' lan i'r gweddill ohonom sut i ddelio gyda'r neges hwnnw?