Tudalen 2 o 2

Re: Cwestiwn i Rooney

PostioPostiwyd: Mer 27 Chw 2008 10:46 pm
gan Rhys Llwyd
Macsen a ddywedodd:Dw i'n creu taw dewis y Cristnion yw rhwng a) cynnig darlun cywir o'r Beibl a risgio dieithrio pobol, neu b) 'dehongli' y Beibl a rhoi cot o siwgr arno i'w weud yn fwy archwaethus i bobol. Mae Rooney yn gwneud y cyntaf.


Beth ydw i? a.5?

Re: Cwestiwn i Rooney

PostioPostiwyd: Mer 27 Chw 2008 11:13 pm
gan Hedd Gwynfor
Macsen a ddywedodd:Dw i'n creu taw dewis y Cristnion yw rhwng a) cynnig darlun cywir o'r Beibl a risgio dieithrio pobol, neu b) 'dehongli' y Beibl a rhoi cot o siwgr arno i'w weud yn fwy archwaethus i bobol. Mae Rooney yn gwneud y cyntaf.


Pwy sydd i ddweud fod y darlun mae Rooney yn rhoi o'r beibl yn fwy cywir na darlun unrhywun arall. Mae Rooney yn dehongli'r beibl fel pawb arall.

Re: Cwestiwn i Rooney

PostioPostiwyd: Sad 01 Maw 2008 4:54 pm
gan rooney
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Pwy sydd i ddweud fod y darlun mae Rooney yn rhoi o'r beibl yn fwy cywir na darlun unrhywun arall. Mae Rooney yn dehongli'r beibl fel pawb arall.


Nid yw pob dehongliad yn ddilys.

Re: Cwestiwn i Rooney

PostioPostiwyd: Sad 01 Maw 2008 5:33 pm
gan Rhys Llwyd
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Pwy sydd i ddweud fod y darlun mae Rooney yn rhoi o'r beibl yn fwy cywir na darlun unrhywun arall.


wyt ti wedi darllen llyfr datguddiad hedd? :ofn:

Ni all unrhywun sy wedi darllen y TN wadu fod oblygiadau reit ddifrifol i bobl sy'n troi cefn ar Iesu ac yn dilyn eu syniadau nhw eu hunain - yn hynny o beth, i raddau, mae Rooney yn gywir. Ond yr hyn sy'n ddiffygiol yn esboniad Rooney yw fod Duw wastad yn barnu a maddau yr un pryd. Maddeuant trwy ras yw'r ateb ond mae rooney yn gwyir, i raddau, i bwyntio allan dro ar ol tro beth yw'r salwch... dwi'n meddwl fod darllenwyr y maes wedi cael eu rhybuddio ddigon am hynny bellach, da o beth fyddai i rooney nawr esbonio ffordd gwaredigaeth trwy gariad.

Re: Cwestiwn i Rooney

PostioPostiwyd: Sad 01 Maw 2008 10:41 pm
gan rooney
2 Tim 1-4
1 Y Meseia Iesu ydyír un fydd yn barnu pawb (y rhai sy'n dal yn fyw aír rhai sydd wedi marw). Mae eín mynd i ddod yn Ùl i deyrnasu. Felly, gyda Duw a Iesu Grist yn dystion i mi, dw iín dy siarsio di 2 i gyhoeddi neges Duw. Dal ati i wneud hynny os ydy pobl yn barod i wrando neu beidio. Rhaid i ti gywiro pobl, ceryddu weithiau, annog dro arall ñ a gwneud hynny gydag amynedd mawr ac yn ofalus dy fod yn ffyddlon iír gwir. 3 Maeír amser yn dod pan fydd pobl ddim yn gallu goddef dysgeidiaeth dda. Byddan nhw'n dilyn eu chwantau eu hunain ac yn dewis pentwr o athrawon fydd ond yn dweud beth maen nhw eisiau ei glywed. 4 Byddan nhw'n gwrthod beth syín wir ac yn dilyn straeon celwyddog.

Re: Cwestiwn i Rooney

PostioPostiwyd: Sul 02 Maw 2008 1:55 am
gan Muralitharan
[quote="rooney"]2 Tim 1-4
ceryddu weithiau, annog dro arall ñ a gwneud hynny gydag amynedd mawr ]

????????????????????!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!

Re: Cwestiwn i Rooney

PostioPostiwyd: Sul 02 Maw 2008 9:13 am
gan Rhys Llwyd
Muralitharan a ddywedodd:
rooney a ddywedodd:2 Tim 1-4
ceryddu weithiau, annog dro arall ñ a gwneud hynny gydag amynedd mawr ]

????????????????????!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!


"gan Muralitharan ar Sul Maw 02, 2008 1:55 am"

Cyfarniad post-Pub Muralitharan? :?

Re: Cwestiwn i Rooney

PostioPostiwyd: Sul 02 Maw 2008 10:35 am
gan Muralitharan
Ti'n iawn Rhys ... dim hanner digon o farciau cwestiwn

Re: Cwestiwn i Rooney

PostioPostiwyd: Sul 02 Maw 2008 1:10 pm
gan Rhys Llwyd
Muralitharan a ddywedodd:Ti'n iawn Rhys ... dim hanner digon o farciau cwestiwn

:D