Beth yw profiad Cristnogol?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Beth yw profiad Cristnogol?

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 20 Maw 2008 9:50 am

Yn y Beibl (for argument's sake rhaid i chi edrych ar y Beibl trwy fy llygaid i am enyd) mae Duw yn siarad yn llythrennol gyda pobl mewn sawl lle - dyma rai enghreifftiau: Ecsodus 3:14; Joshiwa 1:1; Barnwyr 6:18; 1 Samuel 3:11; 2 Samuel 2:1; Job 40:1; Eseia 7:3; Jeremeia 1:7; Actau 8:26 a 9:15. Mae rhai Cristnogion yn dal fod Duw dim ond wedi siarad yn uniongyrchol gyda pobl cyn i'w Beibl ddod yn gyfrwng i siarad gyda ni, ond hyd y gwela i does dim sail Feiblaidd (yn eironig) i feddwl pam na ddylai Duw siarad gyda ni heddiw. Wrth gwrs a daro golwg sydyn dros yr adnodau a restrwyd uchod nid yw hi'n glir sut yn union yr oedd Duw yn siarad gallai fod yn lais clywedol, llais mewnol neu ddelwedd wedi ei serneio ar feddwl dyn - beth bynnag yw'r union gyfrwng yr egwyddor yw fod Duw wedi cyfathrebu. Dyna'r cefndir Beiblaidd beth bynnag.

O ran Duw yn siarad gyda ni heddiw. Yn gyntaf, dwi'n credu fod Duw yn siarad gyda ni trwy ei Air (2 Timotheus 3:16-17). Dwi'n credu fod datguddiad a gair Duw i ni yn y Beibl yn cynnwys popeth sydd angen i ni wybod i ddod i berthynas a dilyn Iesu - fe fydd yna rai pethau tu hwnt i'n dirnadaeth, er enghriafft the jury is still out o ran dealltwriaeth y Cristion o ddechrasu bydysawd - a'i gwyrth yntau esblygiad gyda Duw yn ei weithio? Beth bynnag fydd yr ateb terfynol i hynny does dim gwadu fod pobl wedi dod i gredu a dilyn Iesu felly yn hynny o beth mae Duw wedi siarad a chyfathrebu yn effeithiol gyda ni trwy'r Beibl o ran dod at Iesu a'i ddilyn. Mae 2 Pedr 1:3-4 yn bwysig yn hyn o beth: "3 Wrth ddod i nabod Iesu Grist yn well, mae ei nerth dwyfol yn rhoi i ni bopeth sydd ei angen i fyw fel mae Duw eisiau i ni fyw. Mae wedi’n galw ni i berthynas gydag e’i hun, i ni rannu ei ysblander a phrofi ei ddaioni. 4 A thrwy hyn i gyd mae wedi addo cymaint o bethau mawr a gwerthfawr i ni. Y pethau yma sy'n eich galluogi chi i rannu ym mywyd anfarwol y natur ddwyfol. Dych chi'n osgoi’r dirywiad moesol sydd wedi lledu drwy'r byd o ganlyniad i chwantau pechadurus."

Yn ail, dwi'n credu fod Duw yn siarad gyda ni trwy serneio delweddau yn ein meddyliau a thrwy ddigwyddiadau. Mae'r Cristion yn credu, fel dwi di dadlau o'r blaen y maes rhywle, mae cydwybod ydy cyd-wybod gyda Duw, maen ffordd y mae Duw yn siarad gyda ni (1 Timotheus 1:5; 1 Pedr 3:16). Mae Duw trwy ei ras yn ein sancteiddio wedi ei ni roi ein ymddiriedaeth ynddo ac yn ara deg yn ein trawsffurfio i ddod i ddeall ei ddymuniadau a'i gynlluniau yn well (Rhufwiniaid 12:2). Dwi'n credu fod Duw yn Benarglwydd hanes (er fod cyflwr pechod dyn hefyd yn player yn y maes yma!) felly maen canitau digwyddiadau i ddigwydd yn ein bywydau i'n arwain ni, ein newid ni ac ein cynorthwyo i dyfu yn ysbrydol (Iago 1:2-5; Hebreaid 12:5-11). Mae 1 Pedr 1:-6-7 yn bwysig yn y cyswllt hwn: "6 Felly gallwch fod yn llawen, er bod pethau’n anodd ar hyn o bryd, a’ch bod chi’n gorfod dioddef pob math o dreialon. 7 Mae'r pethau yma’n digwydd er mwyn dangos eich bod chi’n credu go iawn. Mae’r un fath â’r broses o buro aur mewn ffwrnais, ond bod ffydd yn rhywbeth llawer mwy gwerthfawr nag aur. Byddwch yn derbyn canmoliaeth, ysblander ac anrhydedd pan fydd Iesu Grist yn dod i’r golwg eto."

Yn olaf, dwi yn credu fod Duw yn siarad gyda ni, yn llythrenol, heddiw. Dydy hyn ddim o bosib yn norm ond mae yn digwydd. Dim ond unwaith mae wedi digwydd i mi yn bersonnol a hynny pan oedd fy mywyd mewn perygl difrifol - yn dod fyny at gornel ar dipyn o spîd gwaeddod rhywun arnai "brec!" - a jest rownd y gornel roedd car wedi stopio i droi mewn - roeddw ni ar ben fy hun yn y car ac yng nghanol y wlad felly doedd neb yn cerdded ar y pafin ar ymyl y lon i fod wedi gwaeddu ond eto roedd y llais a waeddodd "brec!" yn gwbl glir i mi - yr unig esboniad oedd fod yr ysbryd glan neu angel wedi fy ngwarchod y diwrnod hwnnw.

Ond fel oeddw ni'n dweud dwi'n meddwl taw dim ond mewn achosion arbennig (nid mod i yn bersonnol yn achos arbennig wrth gwrs) mae hyn yn digwydd ac mae norm Duw o siarad gyda ni heddiw yw trwy ddysgeidiaeth ei Air a thrwy serneio delweddau yn ein meddyliau, trwy ddigwyddiadau yn hanes a thrwy gydwybod.

Gobeithio fydd hynny yn gymorth.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nôl

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron