Diolch am dy gyfraniad eto Macsen, mae eisioes wedi pasio hanner nos a dwi'n gwybod nawr y byddain dyfaru bore fory mod i wedi aros fyny i roi yr un ymateb olaf yma fyny am heno!
Dwi'n credu
fod Duw wedi datguddio ei hun i ni - heb hynny ni fuasai'n bosib i neb fod yn Gristnogion. Y datguddiad oedd Iesu ac nid cysyniad haniaethol/oruwchnaturiol oedd Iesu roedd yn Dduw-ddyn go-iawn o gig a gwaed a ddaeth i mewn i hanes. Er na fedra i ddangos Duw i ti, yn llythrenol, heddiw, mae'r ddynoliaeth fel crynswth
wedi gweld Duw gyda'i synhwyrau confensiynol. Ond wedyn medde ti - sut ydw i heddiw yn medru ymddiried fod rheini a welodd Iesu/Duw yn llythrenol yn dweud y gwir. Wel dwi'n ymddiried yn nhystiolaeth y Beibl, a dyma lle mae ffydd, amwni yn dod i mewn i'r peth eto. Dwi'n credu fod Duw yn siarad gyda mi trwy ei fab Iesu Grist; oherwydd fod Cristnogaeth yn fydd ddatguddiedig (revealed faith) fe ddangosodd Dduw ei hun i mi trwy ddod yn ddyn a cherdded gyda ni mewn hanes ar y ddaear yma yn Iesu Grist. Iesu felly yw'r cyfrwng at Dduw a phrif gymeriad y Beibl heb os. Mae yna ffyrdd eraill y mae Duw yn dewis i siarad gyda ni: maen datguddio ei hun i ni trwy'r greadigaeth, neu os hoffech, trwy wyddoniaeth (can of worms alert alert!): 'Oherwydd y mae'r hyn y gellir ei wybod am Dduw yn amlwg iddynt, a Duw sydd wedi ei amlygu iddynt. Yn wir, er pan greodd Duw y byd, y mae ei briodoleddau anweledig ef, ei dragwyddol allu a'i dduwdod, i'w gweld yn eglur gan y deall yn y pethau a greodd....' (Rhufeiniaid 1:19-20). Yn ail, mae Duw yn datguddio ei hun i ni drwy'r Ysbryd Glan: mae Duw yn siarad yn uniongyrchol gyda phobl drwy weledigaethau, proffwydoliaethau a hyd yn oed breuddwydion. Mae'r ddwy ffordd yma sydd gan Dduw o gyfathrebu gyda ni yn bwysig ond dwi'n tueddu i feddwl mai'r Beibl yw'r datguddiad gorau sydd gyda ni o Dduw. Ond dwi ddim am droi y drafodaeth yma yn un am y Beibl o'r rheidrwydd yr unig beth oeddw ni'n ceisio wi wneud oedd dweud mod i'n credu fod y Beibl yn tystio i Iesu a fu, yn llythrenol, yn cerdded ar y ddaear.
Macsen a ddywedodd:Ond mae fy mhroblem penaf i gyda'r diffyg tystiolaeth o blaid beth mae'r Beibl yn ei ddweud wrth ei chraidd (yr elfenau goruwchnaturiol, dwi'n derbyn bod nifer o rannau yn seiliedig ar hanes) a hefyd y llu o gymhlethdodau a gwrthddywediadau sydd ynghlwm â adroddiad y Beibl o sut y daeth y bydysawd i fod ac er mwyn pa reswm.
Rwyt ti'n holi ynghlyn a'r broblem fod elfenau goruwchnaturiol storiau'r Beibl yn anodd i'w dirnad ac hefyd y broblem o fod y Beibl yn llawn anghysonderau a gwrthddywediadau. Wel a derbyn,
for arguments sake, bod yr ysgrythurau gwreiddiol yn air ysbrydoledig Duw maen rhaid fod camgymeriadau, cam-gyfieithu neu gam-bwysleisiadau wedi llithro mewn dros y canrifoedd does bosib? Rwy'n agored i'r posibilrwydd fod hi'n bosib bod mân gamgymeriadau wedi llithro i fewn o bryd i'w gilydd wrth gyfieithu. Mae D. Densil Morgan yn ei lyfr
Sylfaen a Gwraidd yn crynhoi'n dda rhai o'r anghysonderau esthetig, megis y drefn gronolegol o adrodd hanes Iesu sy'n wahanol o un efengyl i'r llall, ond maen prysuro i bwysleisio nad ydy'r mân anghysonderau yma yn tynnu i ffwrdd o'r datguddiad o gawn o Dduw trwy'r Beibl. Er gwaethaf y mân anghysonderau fan hyn fan draw ar y cyfan mae'r Beiblau Cymraeg sydd gyda ni heddiw yn ddibynadwy iawn. Mae cyfieithwyr ac ysgolheigion Beiblaidd yn gweithio oddi ar y casgliadau hynaf sydd ar gael o'r Beibl yn yr Hebraeg, Aramaeg a Groeg ac nid oddi ar y drafft diwethaf yn yr iaith dan sylw. Ond ni gasglwyd yr ysgrythurau at ei gilydd yn gyfan hyd tua'r flwyddyn 300 ar ôl Crist meddech ti, ac maen rhaid fod yna gamgymeriadau wedi llithro i mewn yn ystod y cyfnod cynnar yna? Unwaith eto, rhaid pwyso a mesur wrth gwrs ond hyd yn oed yn y cyfnod cynnar yna gellid bod yn weddol sicr fod yr ysgrythurau yn ddibynadwy oherwydd y fethodoleg yr oedd yr Eglwys Fore yn ei ddefnyddio i gopïo'r ysgrythurau. Roedd y dull o gopïo yn cynnwys cymaint os nad mwy o fathemateg ag yr oedd yn cynnwys o ddiwinydda, edrych ar ramadeg a dehongli. Ar ôl gorffen pob copi aed trwyddo yn fanwl iawn a chyfri nifer y geiriau sawl tro er mwyn gwneud yn siŵr nad oedd unrhyw beth wedi ei adael allan neu ei ychwanegu. Maen debyg mae oherwydd y broses yma y dechreuwyd rhannu'r Beibl i fewn i benodau ac adnodau wedi eu rhifo.
A derbyn fod y Beibl sydd gyda ni heddiw yn ddibynadwy, maen rhaid i chi dderbyn fod rhannu ohono yn amherthnasol, astrus a hyd yn oed yn anghyson? Maen rhaid i ni gofio bod y Beibl wedi ei ysgrifennu dros gyfnod o tua 1,500 o flynyddoedd gan o leiaf 40 o awduron gwahanol oedd yn cynnwys Brenhinoedd, Ysgolheigion, Athronwyr, Pysgotwyr, Beirdd, Gwladweinwyr, Haneswyr a meddygon. Yn ogystal ceir sawl gwahanol fath o arddull yn y Beibl: hanesyddol, storïol, barddoniaeth, proffwydoliaethau, llythyrau a llenyddiaeth apocalyptaidd. Am resymau eraill yn ogystal a'r amrywiaeth mewn awduron ac arddulliau mae'r Beibl, ar yr olwg gyntaf, yn gwrth-ddweud ei hun mewn sawl man. Ond o edrych ar y cyd-destun fe welir nad ydy pob gwrth-ddywediad mewn gwirionedd yn un sy'n goroesi esboniad syml. Fodd bynnag rhaid cydnabod fod yna gymalau yn y Beibl sy'n anodd iawn iawn i'w deall a'i dirnad – yn wir mae Pedr yn dweud fod rhai pethau yn llythyrau Paul 'sydd yn anodd eu deall' (2 Pedr 3:16). Os oedd Pedr, un o ddilynwyr enwocaf Iesu erioed yn cael rhannau o'r ysgrythurau yn anodd i'w dirnad rwy'n meddwl ein bod ni mewn cwmni da! Mae hyn wrth gwrs yn anodd i dderbyn – yn yr un modd ac maen anodd i dderbyn a deall sut y gall Duw y cariad ganiatáu yr holl ddioddefaint sydd yn y Byd – maen fater o ffydd i ymddiried y bo Duw yn siarad gyda ni trwy'r Beibl ac yn raddol daw mwy a mwy ohono yn glir i ni. Yr hyn dwi'n ceisio esbonio, ond mewn ffordd hir wyntog rwy newydd sylwi, yw fod ymddiriedaeth yn Nuw yn amod i weld Duw yn gweithio yn eich bywydau. Maen rhaid i chi ei adael i mewn os am weld y niwl yn clirio - heb Dduw yn eich bywydau a'ch calon mi fydd y niwl yn parhau. Maen ffol o beth i chi geisio cael gwared o'r niwl allan o'ch galluogrwydd a'ch rhesymeg chi eich hun
er mwyn mynd at Dduw oherwydd Duw yw'r unig un all gael gwared o'r niwl; rhaid i Dduw wneud y
de-misting felly gadewch ef i mewn i'ch bywydau - dyma yw craidd Cristnogaeth.
Macsen a ddywedodd:Ond onid wyt ti'n dal i gredu bod y byd wedi ei greu gan Dduw mewn saith diwrnod ychydig filoedd o flynyddoedd yn ôl? Mae hynny i fi hefyd yn rwtsh. Croeso i ti fy nghywiro os nad wyt ti!
I mi nid y cwestiwn creiddiol yw 'wyt ti'n credu ddaru Duw greu y Byd mewn Saith diwrnod?' Mae yna sawl cwestiwn tipyn pwysicach sydd angen eu hystyried yn gyntaf cyn dod at gwestiwn y cread. A'r ddau brif gwestiwn sydd angen ateb iddyn nhw cyn dod i drafod y cread ydy'r ddau gwestiwn yma: wyt ti'n credu fod Duw yn holl-alluog a phwerus? Fy ateb i yw ydw. Ac yn ail: wyt ti'n credu mewn gwyrthiau? Fy ateb i yw ydw. Os yw eich atebion i'r ddau gwestiwn yna yn mynt tu hwnt gwyddoniaeth, hynny yw ateb yn bositif iddynt, yna dy chi mynd i ddod at gwestiwn creadigaeth o safbwynt unigryw a gwahanol. Felly o fynd nol at y cwestiwn gwreiddiol: 'wyt ti'n credu ddaru Duw greu y Byd mewn saith diwrnod?' Yn hytrach nag ateb 'ydw' fy ateb i ar sail fy nghred mewn Duw holl alluog a bodolaeth gwyrthiau ydy 'pam lai' sydd, credaf, yn yn wahanol i 'ydw' plaen oherwydd mod i wedi dod at yr ateb yn resymegol ac nid o ffydd ddall fel petae. Ond beth am yr holl dystiolaeth sy'n profi fod y byd yn filiynau ar filiynau o flynyddoedd oed, y ffosils, deinasoriaid ayyb... Fy marn bersonol i yw ei bod hi'n ddigon posib, gan ei fod yn holl-alluog, fod Duw wedi creu y Byd eisioes mewn cyflwr o aeddfedrwydd yn yr un modd a bu iddo greu Adda ac Efa yn ddau oedolyn ac nid yn ddau faban. Y lle dwi'n pellhau fy hun o safbwynt Creationists America a mudiadau fel
Answers in Genesis yw mod i'n cyfaddef
nad ydy fy nehongliad i yn un gwyddonol tra fod
Answers in Genesis yn ceisio defnyddio gwyddoniaeth i brofi gweithred wyrthiol -
they miss the whole point yn fy marn i. Mewn ffordd dwi'n gyndyn i gyfrannu i drafodaethau ar greadigaeth oherwydd dwi'n greiddiol, fel nodesi uchod, fod yn rhaid i bobl holi ac ateb cwestiynau eraill a rheiny yn rai llawer mwy creiddiol am fodolaeth Duw cyn dod at y cwestiwn hwn.