Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi'n credu fod Duw wedi datguddio ei hun i ni - heb hynny ni fuasai'n bosib i neb fod yn Gristnogion.
Ond does dim byd yn unigryw am honiad y Cristion bod ei dduw wedi datguddio ei hun iddo. Os nad yw’n bosib i rywun ddod yn Gristion heb i Dduw y Beibl ddatguddio ei hun iddo, sut felly mae’n bosib i bobol gael troedigaeth i fod yn Fwslemiaid neu Hindwiaid, gan nad eu duwiau nhw wedi datguddio eu hunain? Yntau yw’n bosib bod modd i’r bod dynol fod yn anghywir wrth dybio fod ganddo berthynas gyda’i dduw. Dw i’n teimlo bod y ffaith bod crefyddau eraill yn honi’r un berthynas gyda eu duwiau nhw ag y mae’r Cristion gyda’i Dduw ef, gan deimlo’r un emosiynau a’r teimladau o fod wedi eu cyffwrdd gan bwer dwyfol, yn gwneud niwed i hygrededd crefydd.
Rhys Llwyd a ddywedodd:Y datguddiad oedd Iesu ac nid cysyniad haniaethol/oruwchnaturiol oedd Iesu roedd yn Dduw-ddyn go-iawn o gig a gwaed a ddaeth i mewn i hanes.
Mae’n rhaid tynnu llinell rhwng y rhannau bydol a’r goruwchnaturiol yn y Beibl. Mae nifer o Gristnogion dw i wedi trafod y pwnc yma gyda nhw yn cael trafferth gwneud hyn. Mae rhai pobol yn credu bod hanesyddoldeb rhannau o’r Beibl yn profi’r cyfan – dim o gwbwl. Dyw’r ffaith bod Iesu yn ddyn o gig o gwaed ddim yn profi ei fod yn fab i Dduw, ddim mwy nag y mae’r ffaith bod yr Iddewon wedi gadael yr Aifft yn profi mai Duw wnaeth eu harwain nhw oddi yno. Mae ein tueddiad i gredu ffynhonellau hanesyddol yn dibynnu i raddau helaeth ar pa mor gredadwy yw eu tystiolaeth. Er engraifft, byddwn i’n ymddiried yn rhannau credadwy adroddiad Cesar o orchfygiad Gâl (er bod hwnnw’n llawn propaganda), ond unwaith mae’n diolch i’r duwiau Rhufeinig am ei fuddigoliaethau mae’n colli hygrydedd. Dyw y ffaith ei fod o’n crybwyll rhai elfennau goruwchnaturiol ddim yn gwneud y rhannau hanesyddol yn llai credadwy, ond dyw’r rhannau hanesyddol ddim yn gwneud y darnau goruwchnaturiol yn fwy credadwy, chwaith.
Rhys Llwyd a ddywedodd:Er na fedra i ddangos Duw i ti, yn llythrenol, heddiw, mae'r ddynoliaeth fel crynswth wedi gweld Duw gyda'i synhwyrau confensiynol. Ond wedyn medde ti - sut ydw i heddiw yn medru ymddiried fod rheini a welodd Iesu/Duw yn llythrenol yn dweud y gwir.
Dw i wedi fy ngyhuddo yn y gorffennol o honi bod Iesu yn ‘dweud celwydd’ fel pe bai wedi mynd ati’n fwriadol i wneud hynny. Mae’n berffaith bodis bod Iesu yn credu’r hyn oedd o’n ei ddweud, a dyw hynny ddim yn ei wneud o’n berson gwallgo chwaith. Mae’r un peth yn wir am bob proffwyd a chymeriad arall yn y Beibl – fe allen nhw jesd fod yn anghywir yn eu credoau.
Ond yn fwy na hynny, mae’r ffaith bod y Beibl yn dibynnu ar adroddiadau llygad-dystion, wedi eu hysgrifennu blynyddoedd maith ar ol y digwyddiad, a rhai yn copio ei gilydd a seilio ei llyfrau ar achlust llafar, yn feddwl na allen ni hyd yn oed fod yn siwr bod y cymeriadau yn y Beibl wedi dweud y geiriau mae pobol yn eu rhoi yn eu cegau nhw. Ac hyd yn oed pe bai Iesu wedi eistedd i lawr yn bersonol gyda ysgrifbin yn ei law, (fel y gwnaeth Mohammed, ond does neb fan hyn yn dadlau bo hynny’n ychwanegu hygrydedd i’r Coran) fel awdur y Testament Newydd does yna ddim tystiolaeth bod beth mae’n ei ddweud yn wir. Mae’n berffaith bodib, ac yn llawer mwy tebygol, mae bod dynol ffaeledig ydoedd, un o gannoedd o Feseiaid sydd wedi mynd a dod cynt ac ers hynny, ond bod ei neges ef wedi’i ddyrchafu i fod yn grefydd byd eang gan hap a damwain (a diolch i mam Constantine I) yn hytrach nag marw yn yr anialwch gyda’r gweddill.
Rhys Llwyd a ddywedodd:Wel dwi'n ymddiried yn nhystiolaeth y Beibl, a dyma lle mae ffydd, amwni yn dod i mewn i'r peth eto. Dwi'n credu fod Duw yn siarad gyda mi trwy ei fab Iesu Grist; oherwydd fod Cristnogaeth yn fydd ddatguddiedig (revealed faith) fe ddangosodd Dduw ei hun i mi trwy ddod yn ddyn a cherdded gyda ni mewn hanes ar y ddaear yma yn Iesu Grist. Iesu felly yw'r cyfrwng at Dduw a phrif gymeriad y Beibl heb os....
Wel, chwarae teg i ti. Ond ailadrodd beth mae’r Beibl yn ei ddysgu wyt ti fan hyn. Tystiolaeth eilradd wedi dod o gyfrwng ffaeledig ydyw, nid gwirionedd wedi’i gyfathrebu i ti’n bersonol gan Dduw.
Rhys Llwyd a ddywedodd:Mae yna ffyrdd eraill y mae Duw yn dewis i siarad gyda ni: maen datguddio ei hun i ni trwy'r greadigaeth, neu os hoffech, trwy wyddoniaeth (can of worms alert alert!): 'Oherwydd y mae'r hyn y gellir ei wybod am Dduw yn amlwg iddynt, a Duw sydd wedi ei amlygu iddynt. Yn wir, er pan greodd Duw y byd, y mae ei briodoleddau anweledig ef, ei dragwyddol allu a'i dduwdod, i'w gweld yn eglur gan y deall yn y pethau a greodd....' (Rhufeiniaid 1:19-20).
I’r gwrthwyneb, mae’r ‘greadigaeth’ o’n cwmpas yn gwrth-ddweud stori’r cread yn y Beibl. Does dim pwynt mynd i mewn i fanylion fan hyn ac mae hyn wedi ei drafod hyd syrffed ledled y byd, ond mae’r dystiolaeth wyddonol fel ag y mae ar hyn o bryd yn ein harwain ymhellach o Dduw ac nid yn agosach iddo. Ma’n ymddangos yn rhyfedd iawn i mi y byddai Duw yn dweud wrthan ni edrych yn benodol ar y greadigaeth o’n cwmpas fel tystiolaeth o’i fodolaeth, ond yna’n gwasgaru tystiolaeth drwy’r fodolaeth hwnnw sy’n gwrth-ddweud ei gyfrif ef ei hun o’r cread.
Rhys Llwyd a ddywedodd:Yn ail, mae Duw yn datguddio ei hun i ni drwy'r Ysbryd Glan: mae Duw yn siarad yn uniongyrchol gyda phobl drwy weledigaethau, proffwydoliaethau a hyd yn oed breuddwydion. Mae'r ddwy ffordd yma sydd gan Dduw o gyfathrebu gyda ni yn bwysig ond dwi'n tueddu i feddwl mai'r Beibl yw'r datguddiad gorau sydd gyda ni o Dduw.
Fel ydw i wedi ei ddweud ar y maes eisoes dw i’n ystyried hwn yn ffordd anhebygol o anneglur i Dduw fod yn cyfathrebu gyda’i ffyddloniaid. O beth ydw i yn ei ddeall o’r gweledigaethau rhain, mae nhw bron yn fwriadol anodd eu deall a’u dadansoddi. Mae’r mwyafrif o Gristnogion dw i’n siarad gyda nhw yn gwbwl anneglur ynglyn a baeth y mae Duw eisiau iddyn nhw ei wneud. Wrth gwrs wedyn mae nhw’n edrych yn ol a dweud eu bod nhw’n gweld cynllun Duw yn eu bywydau nhw, on mae’n hawdd dweud hynny gyda hindsight tydi? A lle mae’r cynllun Duw yma’n ffitio i mewn efo’r syniad o ewyllus rhydd... stop, dadl arall di honna...
Rhys Llwyd a ddywedodd: Ond ni gasglwyd yr ysgrythurau at ei gilydd yn gyfan hyd tua'r flwyddyn 300 ar ôl Crist meddech ti, ac maen rhaid fod yna gamgymeriadau wedi llithro i mewn yn ystod y cyfnod cynnar yna? Unwaith eto, rhaid pwyso a mesur wrth gwrs ond hyd yn oed yn y cyfnod cynnar yna gellid bod yn weddol sicr fod yr ysgrythurau yn ddibynadwy oherwydd y fethodoleg yr oedd yr Eglwys Fore yn ei ddefnyddio i gopïo'r ysgrythurau.
Rwyt ti’n pwysleisio manylder y copia ond welaf fi ddim sut y mae hynny’n effeithio ar hygrededd beth a ysgrifennwyd yn y lle cyntaf. Hyd yn oed pe bai’r ysgrythyr wedi ei chopio yn berffaith dros 300 mlynedd, dyw hynny ddim yn gwneud y digwyddiadau wnaeth ysbrydoli’r cyfan yn ddim mwy credadwy. Mae fy nghopi o Lord of the Rings ar ei bymthegfed argraffiad a dim ond ambell i wall yma a fan draw, ond hyd y gwela’i dyw hynny’n gwneud y stori sy’n sail i’r peth ddim mwy real. Ond hyd yn oed wedyn rwyt ti hyd yn oed yn derbyn mae dim ond ‘gweddol sicr’ yw hi bod y ysgrythur yn gywir - ydi hynny’n ddigon sicr i roi ffydd diamod ynddo?
Ond dyn ni’n cytuno o leiaf mae ffidlan ar y cyrion ydan ni fan hyn. Neges ganolog y Beibl a’r naratif sy’n gwlwm am y cyfan sy’n bwysig i ti, a dyna lle mae fy mhroblemau i’n cychwyn.
Rhys Llwyd a ddywedodd:Yr hyn dwi'n ceisio esbonio, ond mewn ffordd hir wyntog rwy newydd sylwi, yw fod ymddiriedaeth yn Nuw yn amod i weld Duw yn gweithio yn eich bywydau. Maen rhaid i chi ei adael i mewn os am weld y niwl yn clirio - heb Dduw yn eich bywydau a'ch calon mi fydd y niwl yn parhau. Maen ffol o beth i chi geisio cael gwared o'r niwl allan o'ch galluogrwydd a'ch rhesymeg chi eich hun er mwyn mynd at Dduw oherwydd Duw yw'r unig un all gael gwared o'r niwl; rhaid i Dduw wneud y de-misting felly gadewch ef i mewn i'ch bywydau - dyma yw craidd Cristnogaeth.
Craidd Cristnogaeth yw darparu esboniad hawdd ac syml am fodolaeth hynod gymhleth, mae arna’i ofn. Nid yw Duw yn clirio’r niwl jesd yn gwadu ei fod yno o gwbwl. Y niwl yw ein anwybodaeth o’r byd a mae Cristnogaeth yn esboniad cyfleus ond sydd gwetha’r modd â dim sail mewn realiti. Gwaetha’r modd yr unig ffordd i ni glirio’r niwl yw drwy ein hymdrechion llafurus i ddod i ddeall mwy am y byd o’n cwmpas.
Rhys Llwyd a ddywedodd:Yn hytrach nag ateb 'ydw' fy ateb i ar sail fy nghred mewn Duw holl alluog a bodolaeth gwyrthiau ydy 'pam lai' sydd, credaf, yn yn wahanol i 'ydw' plaen oherwydd mod i wedi dod at yr ateb yn resymegol ac nid o ffydd ddall fel petae.
Nid yw’n fodd ‘rhesymegol’ o ddod at yr ateb o gwbwl. Mae dy gred bod Duw yn hollalluog ac yn gwneud gwrthiau dal yn seiliedig ar ffydd ddall, felly rwyt ti dal yn yr un cwch mae arna’i ofn!
Rhys Llwyd a ddywedodd:Ond beth am yr holl dystiolaeth sy'n profi fod y byd yn filiynau ar filiynau o flynyddoedd oed, y ffosils, deinasoriaid ayyb... Fy marn bersonol i yw ei bod hi'n ddigon posib, gan ei fod yn holl-alluog, fod Duw wedi creu y Byd eisioes mewn cyflwr o aeddfedrwydd yn yr un modd a bu iddo greu Adda ac Efa yn ddau oedolyn ac nid yn ddau faban.
Os felly dyn ni nol yn gofyn a yw Duw wedi mynd ati’n fwriadol i greu’r byd mewn ffordd a fydd yn gwneud i’r ddynoliaeth ystyried stori’r cread yn y Beibl yn un ffals. Os felly mae Duw yn mynd ati’n friadol i geisio argyhoeddi rhannau helaeth o’r ddynoliaeth nad yw’n bodoli. Pa wyt ti’n meddwl y bydde fo’n gwneud hyn, Rhys? Does dim ateb rhesymegol, hyd y gwela i, tu hwnt i’r hen chestnut yna am brofi ein ffydd, unwaith eto.