Beth yw profiad Cristnogol?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Beth yw profiad Cristnogol?

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 02 Maw 2008 8:59 pm

Chydig bach o athroniaeth crefydd i chi blant....

Difyr. Des i ar draws grwp o'r enw" "We are not "believers", we are those who know the TRUTH" ar Facebook pwy ddiwrnod. Gwnaeth e i fi feddwl. Penderfynesi beidio ymuno a hynny am resymau tectegol (hy ddim ishe bobl feddwl mod i'n fwy o ben-bach nag ydw i'n barod!), fodd bynnag yn ôl dysgeidiaeth y Beibl/Cristnogaeth mae yn ddatganiad cywir. Dwi wedi pwysleisio dro ar ol tro ar y maes mae dim ond hyn a hyn o ffordd fedra i fynd yn esbonio a rhesymu dros Gristnogaeth ac fod yna bwynt yn dod lle maen rhaid cael ffydd - y 'leap of faith' os liciwch chi. Ond i bobl sydd wedi dod i adnabod Iesu mae'r ffydd yn peidio bod yn blind faith ac maen dod yn synnwyr cyffredin oherwydd eich bod chi wedi gweld a phrofi y gwirionedd.

Dwi'n gwybod, nid credu, fod Cristnogion yn bobl sydd yn gwybod y gwirionedd, ond wnes i ddim ymuno a'r grwp ar facebook oherwydd nad ydw i'n gwybod a deall popeth am y gwirionedd.

Ac o fynd nol at bwynt gwreiddiol yr edefyn sef trafodaethau loggerheads yn y seiat 'Ffydd a Chrefydd' - dyma yw'r ddeilema mawr wrth i Gristnogion a'r di-gred drafod ffydd - mae'r Cristnogion yn gwybod eu bod nhw'n iawn ond yn mynd yn rhwystredig nad ydy nhw yn gallu profi hynny i bobl sydd heb ffydd. Ac oherwydd fod y di-gred heb ffydd maen nhw, yn ddi-ymwybod iddyn nhw eu hunain, yn eiddugeddus o'r hyn sydd gan Gristnogion ac felly yn diystyru safbwynt y Cristion fel un ffol a di-reswm. Bendith a phroblem dyn ar yr un pryd yw ein bod ni'n dilysu popeth ar sail ein profiad ni ein hunain.

Anghredadyn = dim profiad o Dduw = dim Duw.

Cristion = profiad o Dduw = mae Duw.

Ond dyma lle mae gan y Cristion yr uper-hand, uper-hand y mae dyletswydd arno ei defnyddio yn i.) gall, yn ii.) ddoeth a iii.) graslon, rhywbeth nad ydyw rooney wedi ei feistroli yn anffodus (testun gweddi). Yr uper-hand ydy fod y Cristion, yn ei hanes, wedi bod yn esgidiau yr Anghredadyn ac felly yn medru deall profiad yr anghredadyn tra nad ydy'r anghredadyn wedi bod yn esgidiau y Cristion ac felly ni all ddeall profiad y Cristion. (Wrth gwrs, mae Macsen yn enigma yn hyn o beth, felly diddorol byddai clywed ei ymateb!).

Oherwydd y ddeilema yma sy'n codi o roi'r pwys ar brofiad dyn mae diwinyddion o sylwedd wastad wedi rhoi y pwys ar ddatguddiad Duw yn hytrach na phrofiad dyn, oherwydd fod profiad dyn wastad yn berthynol (relative), tra ar y llaw arall fod datguddiad Duw yn wrthrychol. Yr amlycaf oedd Karl Barth. Wrth gwrs dwi'n saethu fy hun yn fy nhroed wrth ddweud fod fy mhrofiad o wrthrychedd Duw yn ddilys - ond y mae! Tystio y mae fy ffyd o ddatguddiad Duw ac nid y ffordd arall i.e. y syniad o ddatguddiad Duw yn ffitio fy mhrofiad. Fe ddaeth y datguddiad er mwyn i mi a chyn i mi gael y profiad.

Cymleth? Ydy! Ond wedyn Athaneus ddywedodd mae'r diffiniad o beth yw diwinyddiaeth yw: "ffydd yn ceisio deall"!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Dadleuon Theolegol diflas yn strywio'r maes

Postiogan Macsen » Llun 03 Maw 2008 8:55 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Wrth gwrs, mae Macsen yn enigma yn hyn o beth, felly diddorol byddai clywed ei ymateb.


Wel, nes ti ofyn amdano...

Yr holl alla'i wneud yw cyfeirio at y ffaith bod pob crefydd yn honni'r un profiad personol o bwer uwch. All bob crefydd ddim bod yn gywir ond eto mae'r Mwslim sy'n gweddio a'r Bwdhydd sy'n myfyrio yn cael yr un 'cic' ysbrydol. Mae hynny'n awgrymu bod y teimlad hwnnw o fod yn 'un' gyda Duw (y gorawen mewnol, teimlad o sicrwydd, ayyb) yn rywbeth mae'r meddwl dynol yn medru ei gonsurio ei hun. Fel un a fuodd yn Gristion, dw i wedi teimlo'r union yr un sicrwydd ac gorfoledd o 'brofi' Duw, y teimlad o gael dy lapio mewn blanced cynnes cyfarwydd bob tro ti'n gweddio, ond wrth edrych yn ol dwi'n adnabod mai nodwedd o'r meddwl dynol wedi'i gymysu gyda fy nymuniad i i gredu mod i'n saff yn nwylo yr arglwydd oedd yn gyfrifol am hynny mewn gwirionedd.

Dw i'n credu dy fod ti'n hollol anghywir i ddweud bod pobol nad sy'n Gristnogion yn eiddigeddus, yn ddiarwybod iddynt, o'r hyn sydd gen ti. Does gan bawb jesd ddim yr un angen ysbrydol - does gen i ddim ei awydd mwyach, syn sicr. Dwi'm yn deall sut all rhai pobol ddim hoffi rhesins, ond mae jesd rhaid derbyn bod pobol yn hoffi petha gwahanol a peidio taflunio ein dymuniadau ni arnyn nhw. O ran y manteision o fod yn Gristion, fe fyddwn i'n medru penderfynu bwrw allan fy amheuon a cofleidio blanced mawr cysurys crefydd a byw bywyd digon dedwydd dw i'n siwr. Mae'r sais yn dweud 'ignorance is bliss', a tra nad ydw i'n awgrymu mai pobol 'ignorant' sy'n dod yn Gristnogion dw i'n credu y byddai penderfynu anwybyddu fy amheuon digon dilys (nad ydw i erioed wedi cael ateb call iddyn nhw) yn bradychu fy hun. O dan ba amgylchiadau tebyg allwn i daflu fy amheuon i'r gwynt a gwneud y penderfyniad hawdd? Allwn i fradychu'r iaith? Fel meddai Robin Llywelyn yn ei straeon byrion, fe fyddai rywbeth neis am adael i'r Dwr Mawr Llwyd ein boddi, yn bydde? Crefydd, yn ogystal a'r saesneg, yw fy nwr mawr llwyd i! (dwr mawr rhys llwyd, bosib? :winc: )

Fe wnes i benderfynu peidio a bod yn gristion pan wnes i fethu a cyfiawnhau fy ffydd i fi fy hun. Sylwais nad oedd dim tystiolaeth i'w gefnogi, ond ffydd dall fel y dywedaist ti. Tu hwnt i hynny, yr oll sydd yno yw'r i'r teimlad neis o'n i'n ei gael, y teimlad o undod hwnnw gyda duw, y teimlad sydd dw i'n meddwl erbyn hyn yn luniad artiffisial. Dim mwy ysbrydol na'r cic dw i'n ei gael o fynd i jogio bob bore, ond yn hygyrch gyda llai o ymdrech. Wnes i ysgaru o Gristnogaeth ar dermau da, gan gytuno gyda Duw na fyddwn i'n ei foddran o os nad oedd o'n fy moddran i. Ond mae Duw wedi mynd i fy moddran i mwy a mwy yn ddiweddar. Er engraifft, a dyw hwn ddim yr unig esiampl, yn ddiweddar fe es i i ddarlith ar newid hinsawdd gan rywun oedd yn credu mai Duw oedd wedi creu'r byd. Nid beth wnaeth fy nyrchryn oedd ei fod o'n dadlau yn erbyn y syniad o newid hinsawdd, on bod y gynulleidfa mor agored i'w awgrymiadau am eu bod nhw wedi'i lapio mewn blanced Feiblaidd. Dw i'n cofio fi fy hun yn cael fy argyhoeddi mewn ffordd debyg pan o'n i'n Gristion gan ryw bamffledau yn profi mai Duw oedd wedi creu'r byd mewn saith diwrnod a bod deinasoriaid yn byw ochor yn ochor a'r ddynoliaeth. Pam nad oeddwn i'n cwestiynu tystiolaeth oedd mor amlwg yn wallus? Am ei fod o'n cytuno gyda beth oedd fy nghrefydd yn ei ddweud wrtha'i, wrth gwrs. Oherwydd hynny dw i wir yn meddwl erbyn hyn bod crefydd yn medru bod yn beryg. Dw i ddim yn meddwl ei fod o'n gyfrifol am stad echrydus y byd fel mae o heddiw ond mae o wedi hogi llafnau ar bob ochor.

A dyna pam bod o'n bwysig cadw'r seiad Ffydd a Crefydd ar agor. Cos ma'n pwnc pwysig, like. :gwyrdd:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Dadleuon Theolegol diflas yn strywio'r maes

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 03 Maw 2008 10:48 pm

I ddechrau, diolch yn fawr iawn iawn am dy broffes fanwl ac o'r galon Macsen. Maen un o'r cyfraniadau gorau i'r maes erioed. Ond mae yna rai pethau hoffwn godi yn arbennig o'r paragraff olaf. Rwy'n llawn cydymdeimlad gyda ti wrth i ti ddweud dy fod wedi peidio bod yn Gristion pan fethaist ti a 'chyfiawnhau dy ffydd' - mae hwnnw yn ddeilema dwi wedi bod yn stryglo gyda fe'n ddiweddar - dwi ddim yn amau fy ffydd o'r rheidrwydd ond dwi yn stryglan i gyfiawnhau/esbonio fy ffydd i eraill - mae'r dead-ends di-ddiwedd yma yn y trafodaethau ar y maes yn dyst o hyn. Dwi wedi dod i deimlo'n rhwystredig nad ydy pobl jest yn deall a chredu - ac fel dwi di dweud o'r blaen nid oes llawn fodd cyfleu beth yw profiad ysbrydol i eraill ar lafar nac mewn geiriau.

Yn ail, dwi'n teimlo bod rhaid i mi ymateb i'r frawddeg: "Wnes i ysgaru o Gristnogaeth ar dermau da, gan gytuno gyda Duw na fyddwn i'n ei foddran o os nad oedd o'n fy moddran i." Mae yna drafodaeth fawr ymysg pobl yr Emerging Church (rhyw fath o symudiad Church 2.0 nid anhebyg i'r cysyniad o Web 2.0!) ar hyn o bryd a'r cwestiwn maen nhw'n gofyn yw hyn: os byddai Iesu yn troedio'r ddaear heddiw a fyddai'n Gristion? A'r ateb mae llawer o'r arweinwyr Eglwysig a diwinyddion blaenllawn yn rhoi ydy: na fyddai. Hynny yw mae Cristnogaeth (y Grefydd) gyda'i holl rigalia mae wedi adeiladu fyny dros y 2,000 o flynyddoedd diwethaf wedi troi yn rhywbeth tra gwahanol i Grist (y Duw). Dau o sloganau eraill enwog yr Emerging Church yw: Church no-way, Christ Ok! ac hefyd: Everyday people are leaving the Church and coming back to God. Y cwestiwn rwy'n ceisio ei godi yw hyn: a'i cael digon ar Gristnogaeth (y grefydd) neu digon ar Grist (y Duw) wnest ti? Dwi'n digwydd gwybod y ces ti dy fagu mewn traddodiad Cristnogol dogmataidd iawn a dweud y lleiaf (yr un un a mi). Caethom ni ein dysgu beth oedd ein Cristnogaeth (y grefydd) yn dweud am Grist (ein Duw) yn hytrach na dod i edrych ar Grist (ein Duw) a gadael i hynny ffurfio ein Cristnogaeth (ein crefydd). Dwi'n meddwl mae rhyw ddwy flynedd yn ol wnes i ysgaru o Gristnogaeth (hynny yw y ffurf gyfundrefnol y ces i'm magu ynddo) ac fe rhyddhaodd hynny mi i edrych ar Grist o'r newydd a trosof fi fy hun. Yr oll yr ydw i'n ceisio ei wneud ydy hyn; dwi'n ceisio tynnu llinell bendant rhwng Crefydd a Duw - o'r amryfal weithgaredd Cristnogol dwi wedi bod yn ei gylch pan mae pobl yn gwrthod ac a rhyw fath o hang-up am Dduw o'i holi yn fanylach fe ddowch chi i ddeall mae nid gyda Duw o'r rheidrwydd mae eu dadl ond gyda'r traddodiad Cristnogol y mae nhw'n gyfarwydd ag ef. Dwi ddim yn dweud mae dyna dy achos di Macsen; ond o gael fy nghodi yn yr un traddodiad a thi fe wnes i elwa yn fawr o rhyfreinio fy hun o'r traddodiad dros y blynyddoedd diwethaf a ffigro pethau allan fy hun.

O ran ail hanner y frawddeg; "...gan gytuno gyda Duw na fyddwn i'n ei foddran o os nad oedd o'n fy moddran i." Dwi ddim isho dy farnu di, ddim o gwbl, ond ma rhaid mi ddeud fod y cymal yna yn haerllug a deud y lleiaf, hynny yw os oedde ti o ddifri wrth ei ddweud. I ddechrau mae'r frawddeg yn awgrymu dy fod yn credu mewn Duw. Os felly pa hawl sydd gen ti i fargeinio gyda Duw? Mae gen ti dy resymau personol a hynny fwy na fedra i ei ddychmygu i herio Duw a dwi'n llawn gydymdeimladol i hynny mae ond yn deg. Ond drwy daro bargen gyda Duw yn y modd yna rwyt ti'n cydnabod ei fodolaeth ond ar yr un pryd yn gwrthod ei Arglwyddiaeth - dwi ddim yn berson sydd am ofni pobl i mewn i'r nefoedd ond yn yr achos yma nag wyt ti yn gweld dy benderfyniad o gydnabod bodolaeth Duw ond gwrthod ei Arglwyddiaeth yn haerllug a pheryglus ac hefyd, mewn ffordd, aniolchgar? Ceisio deall ydw i nid cyhuddo.

Mae dy hanes am y pamffledyn am y deinasoriaid yn ddifyr, ar un adeg roeddw ni'n llyncu'r rwtsh yna hefyd a hynny am yr un rheswm a ti, ond ddim mwyach. Unwaith eto nid Crist o'r rheidrwydd wnaeth sigo dy ffydd ond y traddodiad a'r crefydd oedd wedi dy fagu i gredu mewn creadigaeth lythrennol. Er bod dy grefydd di'n anghywir dwi'n meddwl dy fod di wedi bod yn ffol a byrbwyll i daflu Crist allan gyda dy grefydd - crefydd oedd y broblem nid Crist, dyma fy mhrofiad i beth bynnag.

Wel, dwi'n meddwl ein bod ni, diolch i dy gyfraniad gwerthfawr di Macsen, o bosib yn dechrau ar drafodaeth adeiladol am Gristnogaeth unwaith eto. Rhaid cyfri i ddeg nawr cyn bod Rooney yn dod i fewn a dyfynnu'r ysgruthurau Sanctaidd!!!!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Beth yw profiad Cristnogol?

Postiogan Macsen » Maw 04 Maw 2008 12:05 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:a'i cael digon ar Gristnogaeth (y grefydd) neu digon ar Grist (y Duw) wnest ti?

I'r gwrthwyneb i ti - gyda Duw a nid 'y crefydd' mae fy mhroblem pennaf i. Y crefydd o be welaf i yw cryfder mawr Cristnogaeth ac hyd yn oed yn absenoldeb Duw mae'n rhaid adnabod y gwaith da mae'r eglwysi amrywiol a'i aelodau yn ei wneud. Os dim byd arall mae crefydd wedi sbarduno pobol i ymgymryd a gweithredoedd anhunanol y mae'n amheus y bydden nhw wedi ei wneud hebddo. Ma yna hefyd rai agweddau diflas o'r Beibl dw i'n teimlo bod yr eglwys heddiw wedi tynnu llen drostyn nhw - o beth wela'i, mae'r Beibl, mewn du a gwyn, yn hyrwyddo homoffobia, caethwasiaeth a dienyddio. Peth da bod yr eglwys yn anwybyddu y rhannau rhain os nad yw duw yn bodoli, ond os ydyw, onid yw'r eglwys yn cuddio gwir natur neges y Beibl?

Ond mae fy mhroblem penaf i gyda'r diffyg tystiolaeth o blaid beth mae'r Beibl yn ei ddweud wrth ei chraidd (yr elfenau goruwchnaturiol, dwi'n derbyn bod nifer o rannau yn seiliedig ar hanes) a hefyd y llu o gymhlethdodau a gwrthddywediadau sydd ynghlwm â adroddiad y Beibl o sut y daeth y bydysawd i fod ac er mwyn pa reswm. Er engraifft:

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi wedi dod i deimlo'n rhwystredig nad ydy pobl jest yn deall a chredu - ac fel dwi di dweud o'r blaen nid oes llawn fodd cyfleu beth yw profiad ysbrydol i eraill ar lafar nac mewn geiriau.

Mae hynny'n amlygu nam arall dw i'n ei weld ar y syniad o dduw. Pam dewis ffydd fel y maen prawf ar gyfer mynediad i'r Nefoedd? Pam creu prawf sy'n dangos ffafriaeth i rannau o'r ddynoliaeth ac un mae'r mwyafrif o'r ddynoliaeth yn methu cyn dechrau? Does dim ateb o safbwynt crefyddol, ond o'r safbwynt arall mae'r ateb yn glir. Pa brawf arall fyddai'n gweddu i guddio'r ffaith nad yw duw yn bodoli mewn gwirionedd? Mae angenrheidrwydd 'ffydd' ar grefydd yn un arf hollbwrpasol i ymosod ar bob dadl yn erbyn bodolaeth Duw - 'nid yw Duw yn ei wneud ei hun yn hysbys am ei fod o'n profi ein ffydd ni', 'mae'r holl dystiolaeth sy'n gwrth ddweud bodolaeth duw i brofi ein ffydd ni'. Wrth gwrs, mae rhai elfennau o'r byd sydd ddim yn gweddu i natur holl-ddaionus Duw, felly mae rheina'n cael ei beido a'r y Diafol. Cyfleus braidd bod y creadur drygionus hwn wedi llithro heibio i Dduw holl-ddainous, holl-wybodus a holl-bwerus, tydi? Un neu ddau o'r problemau mawrion sydd gen i gyda Christnogaeth. Os wyt ti'n edrych yn ofalus, fe weli di mai sgaffald wedi ei adeiladu o amgylch gwagle yw crefydd. Pe bai rywbeth yn y canol go iawn, fyddai ddim angen y sgaffald.

O ran ail hanner y frawddeg; "...gan gytuno gyda Duw na fyddwn i'n ei foddran o os nad oedd o'n fy moddran i." Dwi ddim isho dy farnu di, ddim o gwbl, ond ma rhaid mi ddeud fod y cymal yna yn haerllug a deud y lleiaf, hynny yw os oedde ti o ddifri wrth ei ddweud.

Na, doedd i ddim o ddifri, paid a poeni. Tafod yn y boch! Dw i ddim yn gweld unrhyw reswm dros gredu bod Duw yn bodoli felly dw i ddim yn teimlo mod i'n herio unrhyw awdurdod, chwaith. Mae duw yn un o filoedd o bosibiliadau eraill, ond hyd y gwela'i mae'n amhosib i fi gredu yn pob un posibilrwydd, neu hyd yn oed pob un duw, er mwy'n chwarae'n saff, felly wna i ddim mentro. Fyddai derbyn esbonioad Cristnogaeth fel yr un cywir o'r biliynau posib jesd am mai hwnnw sy'n digwydd cael ei bregethu ar gornel fy stryd i braidd yn afresymegol.

Rhys Llwyd a ddywedodd:Mae dy hanes am y pamffledyn am y deinasoriaid yn ddifyr, ar un adeg roeddw ni'n llyncu'r rwtsh yna hefyd a hynny am yr un rheswm a ti, ond ddim mwyach.

Ond onid wyt ti'n dal i gredu bod y byd wedi ei greu gan Dduw mewn saith diwrnod ychydig filoedd o flynyddoedd yn ôl? Mae hynny i fi hefyd yn rwtsh. Croeso i ti fy nghywiro os nad wyt ti! Ond fel y dywedais i uchod, dwi'm yn gweld sut all cristnogion anwybyddu rhai rhannau o'r Beibl fel mae'n ei plesio nhw (yr homoffobia, creu'r byd mewn saith diwrnod, ayyb) ond seiliio eu bywydau ar rannau eraill. Fel meddai'r Beibl, paid adeiladu dy gartref ar y tywyod. A mae tywod creistnogaeth i weld yn symud eitha lot yn ddiweddar...
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Beth yw profiad Cristnogol?

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 04 Maw 2008 12:43 am

Diolch am dy gyfraniad eto Macsen, mae eisioes wedi pasio hanner nos a dwi'n gwybod nawr y byddain dyfaru bore fory mod i wedi aros fyny i roi yr un ymateb olaf yma fyny am heno!

Dwi'n credu fod Duw wedi datguddio ei hun i ni - heb hynny ni fuasai'n bosib i neb fod yn Gristnogion. Y datguddiad oedd Iesu ac nid cysyniad haniaethol/oruwchnaturiol oedd Iesu roedd yn Dduw-ddyn go-iawn o gig a gwaed a ddaeth i mewn i hanes. Er na fedra i ddangos Duw i ti, yn llythrenol, heddiw, mae'r ddynoliaeth fel crynswth wedi gweld Duw gyda'i synhwyrau confensiynol. Ond wedyn medde ti - sut ydw i heddiw yn medru ymddiried fod rheini a welodd Iesu/Duw yn llythrenol yn dweud y gwir. Wel dwi'n ymddiried yn nhystiolaeth y Beibl, a dyma lle mae ffydd, amwni yn dod i mewn i'r peth eto. Dwi'n credu fod Duw yn siarad gyda mi trwy ei fab Iesu Grist; oherwydd fod Cristnogaeth yn fydd ddatguddiedig (revealed faith) fe ddangosodd Dduw ei hun i mi trwy ddod yn ddyn a cherdded gyda ni mewn hanes ar y ddaear yma yn Iesu Grist. Iesu felly yw'r cyfrwng at Dduw a phrif gymeriad y Beibl heb os. Mae yna ffyrdd eraill y mae Duw yn dewis i siarad gyda ni: maen datguddio ei hun i ni trwy'r greadigaeth, neu os hoffech, trwy wyddoniaeth (can of worms alert alert!): 'Oherwydd y mae'r hyn y gellir ei wybod am Dduw yn amlwg iddynt, a Duw sydd wedi ei amlygu iddynt. Yn wir, er pan greodd Duw y byd, y mae ei briodoleddau anweledig ef, ei dragwyddol allu a'i dduwdod, i'w gweld yn eglur gan y deall yn y pethau a greodd....' (Rhufeiniaid 1:19-20). Yn ail, mae Duw yn datguddio ei hun i ni drwy'r Ysbryd Glan: mae Duw yn siarad yn uniongyrchol gyda phobl drwy weledigaethau, proffwydoliaethau a hyd yn oed breuddwydion. Mae'r ddwy ffordd yma sydd gan Dduw o gyfathrebu gyda ni yn bwysig ond dwi'n tueddu i feddwl mai'r Beibl yw'r datguddiad gorau sydd gyda ni o Dduw. Ond dwi ddim am droi y drafodaeth yma yn un am y Beibl o'r rheidrwydd yr unig beth oeddw ni'n ceisio wi wneud oedd dweud mod i'n credu fod y Beibl yn tystio i Iesu a fu, yn llythrenol, yn cerdded ar y ddaear.

Macsen a ddywedodd:Ond mae fy mhroblem penaf i gyda'r diffyg tystiolaeth o blaid beth mae'r Beibl yn ei ddweud wrth ei chraidd (yr elfenau goruwchnaturiol, dwi'n derbyn bod nifer o rannau yn seiliedig ar hanes) a hefyd y llu o gymhlethdodau a gwrthddywediadau sydd ynghlwm â adroddiad y Beibl o sut y daeth y bydysawd i fod ac er mwyn pa reswm.


Rwyt ti'n holi ynghlyn a'r broblem fod elfenau goruwchnaturiol storiau'r Beibl yn anodd i'w dirnad ac hefyd y broblem o fod y Beibl yn llawn anghysonderau a gwrthddywediadau. Wel a derbyn, for arguments sake, bod yr ysgrythurau gwreiddiol yn air ysbrydoledig Duw maen rhaid fod camgymeriadau, cam-gyfieithu neu gam-bwysleisiadau wedi llithro mewn dros y canrifoedd does bosib? Rwy'n agored i'r posibilrwydd fod hi'n bosib bod mân gamgymeriadau wedi llithro i fewn o bryd i'w gilydd wrth gyfieithu. Mae D. Densil Morgan yn ei lyfr Sylfaen a Gwraidd yn crynhoi'n dda rhai o'r anghysonderau esthetig, megis y drefn gronolegol o adrodd hanes Iesu sy'n wahanol o un efengyl i'r llall, ond maen prysuro i bwysleisio nad ydy'r mân anghysonderau yma yn tynnu i ffwrdd o'r datguddiad o gawn o Dduw trwy'r Beibl. Er gwaethaf y mân anghysonderau fan hyn fan draw ar y cyfan mae'r Beiblau Cymraeg sydd gyda ni heddiw yn ddibynadwy iawn. Mae cyfieithwyr ac ysgolheigion Beiblaidd yn gweithio oddi ar y casgliadau hynaf sydd ar gael o'r Beibl yn yr Hebraeg, Aramaeg a Groeg ac nid oddi ar y drafft diwethaf yn yr iaith dan sylw. Ond ni gasglwyd yr ysgrythurau at ei gilydd yn gyfan hyd tua'r flwyddyn 300 ar ôl Crist meddech ti, ac maen rhaid fod yna gamgymeriadau wedi llithro i mewn yn ystod y cyfnod cynnar yna? Unwaith eto, rhaid pwyso a mesur wrth gwrs ond hyd yn oed yn y cyfnod cynnar yna gellid bod yn weddol sicr fod yr ysgrythurau yn ddibynadwy oherwydd y fethodoleg yr oedd yr Eglwys Fore yn ei ddefnyddio i gopïo'r ysgrythurau. Roedd y dull o gopïo yn cynnwys cymaint os nad mwy o fathemateg ag yr oedd yn cynnwys o ddiwinydda, edrych ar ramadeg a dehongli. Ar ôl gorffen pob copi aed trwyddo yn fanwl iawn a chyfri nifer y geiriau sawl tro er mwyn gwneud yn siŵr nad oedd unrhyw beth wedi ei adael allan neu ei ychwanegu. Maen debyg mae oherwydd y broses yma y dechreuwyd rhannu'r Beibl i fewn i benodau ac adnodau wedi eu rhifo.

A derbyn fod y Beibl sydd gyda ni heddiw yn ddibynadwy, maen rhaid i chi dderbyn fod rhannu ohono yn amherthnasol, astrus a hyd yn oed yn anghyson? Maen rhaid i ni gofio bod y Beibl wedi ei ysgrifennu dros gyfnod o tua 1,500 o flynyddoedd gan o leiaf 40 o awduron gwahanol oedd yn cynnwys Brenhinoedd, Ysgolheigion, Athronwyr, Pysgotwyr, Beirdd, Gwladweinwyr, Haneswyr a meddygon. Yn ogystal ceir sawl gwahanol fath o arddull yn y Beibl: hanesyddol, storïol, barddoniaeth, proffwydoliaethau, llythyrau a llenyddiaeth apocalyptaidd. Am resymau eraill yn ogystal a'r amrywiaeth mewn awduron ac arddulliau mae'r Beibl, ar yr olwg gyntaf, yn gwrth-ddweud ei hun mewn sawl man. Ond o edrych ar y cyd-destun fe welir nad ydy pob gwrth-ddywediad mewn gwirionedd yn un sy'n goroesi esboniad syml. Fodd bynnag rhaid cydnabod fod yna gymalau yn y Beibl sy'n anodd iawn iawn i'w deall a'i dirnad – yn wir mae Pedr yn dweud fod rhai pethau yn llythyrau Paul 'sydd yn anodd eu deall' (2 Pedr 3:16). Os oedd Pedr, un o ddilynwyr enwocaf Iesu erioed yn cael rhannau o'r ysgrythurau yn anodd i'w dirnad rwy'n meddwl ein bod ni mewn cwmni da! Mae hyn wrth gwrs yn anodd i dderbyn – yn yr un modd ac maen anodd i dderbyn a deall sut y gall Duw y cariad ganiatáu yr holl ddioddefaint sydd yn y Byd – maen fater o ffydd i ymddiried y bo Duw yn siarad gyda ni trwy'r Beibl ac yn raddol daw mwy a mwy ohono yn glir i ni. Yr hyn dwi'n ceisio esbonio, ond mewn ffordd hir wyntog rwy newydd sylwi, yw fod ymddiriedaeth yn Nuw yn amod i weld Duw yn gweithio yn eich bywydau. Maen rhaid i chi ei adael i mewn os am weld y niwl yn clirio - heb Dduw yn eich bywydau a'ch calon mi fydd y niwl yn parhau. Maen ffol o beth i chi geisio cael gwared o'r niwl allan o'ch galluogrwydd a'ch rhesymeg chi eich hun er mwyn mynd at Dduw oherwydd Duw yw'r unig un all gael gwared o'r niwl; rhaid i Dduw wneud y de-misting felly gadewch ef i mewn i'ch bywydau - dyma yw craidd Cristnogaeth.

Macsen a ddywedodd:Ond onid wyt ti'n dal i gredu bod y byd wedi ei greu gan Dduw mewn saith diwrnod ychydig filoedd o flynyddoedd yn ôl? Mae hynny i fi hefyd yn rwtsh. Croeso i ti fy nghywiro os nad wyt ti!


I mi nid y cwestiwn creiddiol yw 'wyt ti'n credu ddaru Duw greu y Byd mewn Saith diwrnod?' Mae yna sawl cwestiwn tipyn pwysicach sydd angen eu hystyried yn gyntaf cyn dod at gwestiwn y cread. A'r ddau brif gwestiwn sydd angen ateb iddyn nhw cyn dod i drafod y cread ydy'r ddau gwestiwn yma: wyt ti'n credu fod Duw yn holl-alluog a phwerus? Fy ateb i yw ydw. Ac yn ail: wyt ti'n credu mewn gwyrthiau? Fy ateb i yw ydw. Os yw eich atebion i'r ddau gwestiwn yna yn mynt tu hwnt gwyddoniaeth, hynny yw ateb yn bositif iddynt, yna dy chi mynd i ddod at gwestiwn creadigaeth o safbwynt unigryw a gwahanol. Felly o fynd nol at y cwestiwn gwreiddiol: 'wyt ti'n credu ddaru Duw greu y Byd mewn saith diwrnod?' Yn hytrach nag ateb 'ydw' fy ateb i ar sail fy nghred mewn Duw holl alluog a bodolaeth gwyrthiau ydy 'pam lai' sydd, credaf, yn yn wahanol i 'ydw' plaen oherwydd mod i wedi dod at yr ateb yn resymegol ac nid o ffydd ddall fel petae. Ond beth am yr holl dystiolaeth sy'n profi fod y byd yn filiynau ar filiynau o flynyddoedd oed, y ffosils, deinasoriaid ayyb... Fy marn bersonol i yw ei bod hi'n ddigon posib, gan ei fod yn holl-alluog, fod Duw wedi creu y Byd eisioes mewn cyflwr o aeddfedrwydd yn yr un modd a bu iddo greu Adda ac Efa yn ddau oedolyn ac nid yn ddau faban. Y lle dwi'n pellhau fy hun o safbwynt Creationists America a mudiadau fel Answers in Genesis yw mod i'n cyfaddef nad ydy fy nehongliad i yn un gwyddonol tra fod Answers in Genesis yn ceisio defnyddio gwyddoniaeth i brofi gweithred wyrthiol - they miss the whole point yn fy marn i. Mewn ffordd dwi'n gyndyn i gyfrannu i drafodaethau ar greadigaeth oherwydd dwi'n greiddiol, fel nodesi uchod, fod yn rhaid i bobl holi ac ateb cwestiynau eraill a rheiny yn rai llawer mwy creiddiol am fodolaeth Duw cyn dod at y cwestiwn hwn.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Beth yw profiad Cristnogol?

Postiogan Chickenfoot » Maw 04 Maw 2008 1:47 am

Anghredadyn = dim profiad o Dduw = dim Duw.


Equation hynod o diddorol o few post diddorol iawn. Beth yw profiad o Dduw? Es i Ysgol Sul oherwydd bod fy rhieni isio i mi fynd, a ges i flynyddoedd o gredu'r stwff a dywedodd gweinidogion ac athrawon Ysgol Sul heb ystyried y peth yn fanwl iawn. Wedi i mi meddwl am Gristnogaeth yn fanylach, daethais i canlyniad fy mod yn anghrediniwr.

Meddyliais am Dduw, ac os oeddwn i wedi cyfarthrebu hefo fo o gwbl. Ydi pobl sydd yn dweud fod Duw wedi'u harwain jest yn dadansoddi'u meddyliau nhw mewn ffordd gwhanol, neu ydw i wedi torri'r cyswllt rhwng Duw a fi? Sut ydi rywun yn gwybod yn sicr bod Duw yn ei bywyd? Fel rywyun a dderbyniodd dysgeidiaeth Iesu Grist heb feddwl amdano, 'swn i'n hoff iawn o wybod sut mae Cristnogion yn darganfod beth sydd yn feddwl a beth sydd yn neges gan Dduw?
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Beth yw profiad Cristnogol?

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 04 Maw 2008 7:13 pm

Chickenfoot a ddywedodd:Beth yw profiad o Dduw? Es i Ysgol Sul oherwydd bod fy rhieni isio i mi fynd, a ges i flynyddoedd o gredu'r stwff a dywedodd gweinidogion ac athrawon Ysgol Sul heb ystyried y peth yn fanwl iawn.


Dwi di bod yn meddwl lot am y cwestiwn yma yn ystod y dydd, beth yw profiad o Dduw, ac o bosib yn bwysicach sut mae ei ddisgrifio i bobl sydd heb brofiad o Dduw. Ges i bip ar lyfr enwog J.I. Packer, Knowing God (1973), ac fe ddaeth e a rhai pethau pwysig i'r amlwg i mi. I ddechrau mae Packer yn esbonio beth nad yw profiad o Dduw - nid profiad o Dduw yw gwybod am Dduw. Hynny ydy, fe all bron a bod pob Cymro Cymraeg sydd wedi cael magwraeth Ysgol Sul esbonio yn weddol lawn beth yw prif fannau'r ffydd Gristnogol: Iesu yn fab Duw ac oherwydd iddo farw dros ein pechodau roeddem ni, trwy Iesu, yn medru dod i berthynas a Duw. Ond dydy gwybod am a deall y safbwyntiau diwinyddol yna am Dduw ddim gyfystyr a phrofiad o Dduw. Ddim mod i am chwarae i lawr dirnadaeth/gwybodaeth o'r ffydd, ddim o gwbl wedi'r cyfan mae Duw am i ni ei garu gyda'n holl allu yn ogystal a'n holl enaid, ond dydy datganiadau am Dduw ddim yn brofiad o Dduw.

Mae profiad o Dduw yn fwy na dal gwybodaeth oblegid wedi dod i brofiad o Dduw mae eich byd-olwg a'ch mind-set yn newid yn llwyr - dwi wedi bod yn stryglan i esbonio beth yw hyn ers tro ond fe ddes i ar draws dyfyniad da gan Packer heddiw sy'n cyfleu peth o beth yw fy mhrofiad i o Dduw. Ni fyddai aralleiriad gennyf i cystal felly dyma ddyfynnu: '...when a Man knows God, losses and negatives cease to matter to him; what he has gained simply banishes these things from his mind.' Nid yw'r dyfyniad yna yn esboniad llawn o'r profiad Cristnogol ond mae fodd bynnag yn esbonio un gwedd ohono. O ran tystiolaeth o'r gobaith a'r profiad Cristnogol mi fyddai pawb oedd yng nghrebrwng ffrind i mi, Sion Ifan, rai wythnosau yn ol yn medru tystio beth yw profiad Cristnogol: byw ac nid marw a hynny yn wyneb marwolaeth hyd yn oed.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Beth yw profiad Cristnogol?

Postiogan Chickenfoot » Maw 04 Maw 2008 10:16 pm

Mae'r sefyllfa yn un rhyfedd. Dw i ddim hyd yn oed yn cofio beth oedd o fel i fod yn Gristion. 'Roeddwn i'n sicr yn credu, ond 'swn i byth yn gallu dweud fy mod i wedi cael perthynas hefo Duw. Pan mae'r efengylwyr Americanaidd yn ddweud bod rhaid i bobl "get right with God", sut basa Cristion yn gwybod pa fersiwn o''r Dduw Cristnogol i "gael yn iawn" hefo?
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Beth yw profiad Cristnogol?

Postiogan Foel Gornach » Maw 04 Maw 2008 10:43 pm

Mae’r drafodaeth yma’n hynod o ddiddorol; maddeuwch i mi am ymyrryd. Diddorol yw cael arddeall eich bod, Rhys a Macsen, o’r un cefndir diwinyddol, a’ch bod yn ymateb i’r un math o fagwraeth ysbrydol mewn gwahanol ffyrdd. Mae’ch magwraeth, wrth reswm, yn effeithio ar y modd yr ystyriwch y Beibl. Oherwydd y fagwraeth hon y mae Macsen yn mynegi ei gyfyng-gyngor – naill ai bod yr holl Feibl yn air anffaeledig Duw, ac felly’n wirionedd absoliwt, neu y mae’n ‘ffuglen’; os tanseilir rhan o’r adeiladwaith, mae’r cyfan yn cwympo. Cywirwch fi os gwelwch yn dda os yw’m dehongliad o’i le.

Nid y modd y magwyd chi i’w gredu yw’r unig ffordd y mae arddelwyr Iesu wedi dehongli’r Beibl drwy gyfnod hanes yr Eglwys. Yn wir, peth cymharol ddiweddar yw llythrenoldeb yn ein datblygiad – adwaith i’r Aroleuo ac Oes y Rheswm ydyw, a thwf ‘rhyddfrydiaeth’ eithafol y G19eg. Ni freuddwydiai Tadau’r Eglwys ddehongli’r ysgrythurau yn y fath fodd. Fe geisiodd Origenes (esboniwr mwyaf toreithiog a dysgedig y cyfnod cynnar) wneud hynny am gyfnod, ond newidiodd ei feddwl a difaru ei enaid wedi iddo sbaddu ei hun mewn ymateb i gais Iesu ar i’w ddisgyblion fod yn ‘eunuchiaid’ er mwyn teyrnas nefoedd !!! Peidiwch chi a thrio’r un peth, da chi !!! Nid oedd yr arweinwyr Protestannaidd yn llythrenolwyr chwaith, yn wir ystyriai Luther rhai rhannau o’r TN fel darnau diwerth – y rhannau hyn oedd yn tanseilio’i safbwynt ef !!

Wrth ddarllen llenyddiaeth yr Eglwys Fore fe sylwch taw er mwyn ategu eu cred yn Iesu y mae’r awduron yn dyfynnu o’r HD. Nid yw’r darnau eraill o’r un pwys yn eu golwg. Iesu sy’n allweddol bwysig iddynt. ‘Damhegion’, darnau i’w halegoreiddio oedd hanesion yr HD yn eu golwg yn aml. Cytunaf a llawer o haneswyr a diwinyddion fod ambell un wedi cario’r tuedd hwn yn rhy bell. Beth bynnag, fy mhwynt sylfaenol yw taw dehongliad Iesu-ganolog o’r ysgrythurau oedd gan y Cristnogion hynny a sicrhaodd fod yr Eglwys yn ymwthio i ganol y byd Rhufeinig yn nannedd pob erlid a gwawd.

Cytunaf â’i safbwynt hwy, a chredaf taw cam â’r Efengyl yw ystyried bod pob rhan o’r HD o’r un gwerth, a’i fod ar yr un gwastad a’r TN. Gwn yn iawn taw heresi yw hyn yng ngolwg llawer yn y traddodiad y magwyd chi ynddo – ond i mi, ac yn ôl fy neall o’r hyn a ddywed y Beibl ei hun, Iesu yw Gair anffaeledig Duw, nid y geiriau ysgrifenedig.

Mae yna ffordd arall i ystyried y Beibl. Daeth yr HD i fodolaeth yn y ffurf yr ydym yn ei adnabod heddiw yn ystod y Gaethglud yn y G6ed C.C. Casglwyd hen draddodiadau ac hanesion llafar at ei gilydd i ffurfio’r llyfrau cyntaf, a chof cenedl sy’n bennaf gyfrifol am eu cynnwys. Casglwyd cofnodion ysgrifenedig ynghyd o’r nawfed ganrif ymlaen (dyna pryd y dyfeisiwyd y gelfyddyd o ysgrifennu) ac mae’r rhannau hynny yn gofnodion dibynadwy fel hanes. Dyma gyfnod y proffwydi yn ogystal – ac mae’r rheiny’n hanesyddol ddibynadwy hefyd. Yr hyn sy’n arbennig ac unigryw am y llenyddiaeth yma i gyd yw ei onestrwydd (nid yw Abraham, er enghraifft, yn cael ei bortreadu fel arwr difrycheulyd) a’i fod yn cael ei gofnodi o safbwynt diwynyddol arbennig. Mae’n olrheinio ymdrechion pobol i ddod i berthynas â Duw, a’i ddeall; a’r hanes o Duw’n datgelu ei hunan i’r bobol a ddewiswyd ganddo i fod yn fendith i’r holl fyd. Nid yw pob awdur yn deall Duw yn yr un ffordd; cawn adrannau ofnadwy, ond cyrhaeddir pinaclau rhyfeddol gyda rhai o’r proffwydi, yn arbennig Eseia, hoff broffwyd Iesu.

Cytunaf a Rhys y gallai Duw fod wedi creu mewn 6 diwrnod, ond ni allaf yn fy myw ddeall pam y byddai wedi gwneud hynny; dim ond un rheswm rhesymegol y gallaf feddwl amdano sef rhoi prawf arnom. Ond nid un fel'ny yw Duw.

Nid maen prawf mo’r HD. Nid un sy’n gosod meini prawf arnom yw Duw. Gwelwn yn Iesu taw symud meini prawf a wna, y Phariseaid oedd y bobol ddogmataidd oedd yn mynnu taw eu ffordd hwy oedd gywir ac a fynnai osod maen prawf y Ddeddf ar bobol o hyd. Bwriad Iesu yw ei gwneud hi’n haws i bob un ddod at Dduw, nid ei gwneud hi’n anos.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Re: Beth yw profiad Cristnogol?

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 04 Maw 2008 11:02 pm

Chickenfoot a ddywedodd:Mae'r sefyllfa yn un rhyfedd. Dw i ddim hyd yn oed yn cofio beth oedd o fel i fod yn Gristion. 'Roeddwn i'n sicr yn credu, ond 'swn i byth yn gallu dweud fy mod i wedi cael perthynas hefo Duw.


Dwi ddim am roi geiriau yn dy geg ond un esboniad posib ydy mae Theist neu Monotheist hyd yn oed oedde ti yn hytrach na Christion. Yr hyn dwi ceisio ddeud ydy gwahaniaethau rhwng credu yn y cysyniad o dduw ac adnabod y Duw Cristnogol; ond nid fi sydd i farnu, ddim o gwbl - dim ond trio helpu ydw i trwy amlinellu'r gwahaniaeth yna. Dydy credu yn y cysyniad o Dduw ddim gyfystyr, o'm mhrofiad i, o gael y profiad Cristnogol o berthynas gyda Duw.

Chickenfoot a ddywedodd:Pan mae'r efengylwyr Americanaidd yn ddweud bod rhaid i bobl "get right with God", sut basa Cristion yn gwybod pa fersiwn o'r Dduw Cristnogol i "gael yn iawn" hefo?


Os wyt ti yn cychwyn o safbwynt o gredu, mewn theori, yn y Duw Cristnogol yna rhaid troi at y datguddiad o Dduw yn y Beibl i ddeall mwy amdano. Ond, wrth basio, rhaid mi ddeud fod y cysyniad o "get right with God" rhagofn fod y dyddiau diwethaf yn nesau fory nesa yn ddealltwriaeth reit anghyflawn o Gristnogaeth - nid get-out-clause mae Duw yn gwybrwyo i'w weision ffyddlon yw Cristnogaeth - mae Duw wedi ein caru does ots beth yw'n gweithredoedd ac trwy ffydd y mae dod at Dduw. Dwi ddim yn rhoi fy ffydd yn Nuw er mwyn cael gwarant o fy nhiced i'r nefoedd, ddim o gwbl, rwy'n rhoi fy ffydd yn Nuw oherwydd mod i'n ei garu am iddo ef yn gyntaf ein caru ni ac mi rydw i yn awr am fod yn rhan o'i brosiect mawr o achub y Byd a chodi'r Deyrnas. Mewn llyfyr ar misioleg fe ddywedodd Brian McLaren mae nid diben cenhadaeth yr eglwys dylai fod i greu mwy o Gristnogion a rheiny yn Gristnogion gwell (hy edrych ar y peth fel proses fecanyddol o brosesu pobl i fod "yn iawn gyda Duw") ond yn hytrach diben cenhadaeth dylai i fod ac i wneud disgyblion i Iesu Grist.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai