Tudalen 1 o 3

Cristion Seciwlar

PostioPostiwyd: Gwe 07 Maw 2008 10:38 am
gan Y Crochenydd
Dwi ddim yn credu mewn duw, ond...

* Dwi wedi darllen y beibl
* Cefais fy nwyn i fynu yn mynd i'r capel a'r ysgol Sul
* Mae fy ngwerthoedd/moesoldeb personol wedi'u ddylanwadu'n gryf gan gwerthoedd/moesoldeb Cristnogol
* Dwi'n edmygu safiad a bywyd Iesu Grist fel esiampl ac yn edrych lan ato fel eicon hanesyddol
* Mae stori'r Pasg (yn ol Efengyl Mathew yn enwedig) yn cael effaith mawr arnai
* Dwi'n teimlo'n gartrefol iawn bob tro dwi'n cerdded mewn i eglwys

Oes yna faeswyr arall sy'n teimlo'n debyg? Ydw i'n gallu meddwl amdan fy hyn fel Cristion Seciwlar (wedi'r cyfan, rydym yn clywed am Iddewon Seciwlar o hyd)? Neu ydw i jest am gael fy nheisen a'i fwyta fe ( :? ) fel petai?

Re: Cristion Seciwlar

PostioPostiwyd: Gwe 07 Maw 2008 10:57 am
gan Rhys Llwyd
Diddorol - basw ni jest yn dy galw'n "Gymro" :winc: Oherwydd dyna mewn ffordd ydy'r Iddewon Seciwlar, Iddewon o ran tras ydyn nhw a nid o ran crefydd or rheidrwydd er eu bod nhw, fel y ti, yn gwerthfawrogi'r dreftadaeth grefyddol. Ond mae Iddewiaeth a Christnogaeth fymryd yn wahanol yn yr ystyr y bo Cristnogaeth yn ffydd sy'n datganoli ei hun i bob diwylliant brodorol tra bo Iddewiaeth yn neilltiedig i 'y Genedl' Iddewig. Dwi wedi symyleiddio hynny fymryn, ond dy chi'n deall be dwin trio ddeud.

Re: Cristion Seciwlar

PostioPostiwyd: Gwe 07 Maw 2008 1:38 pm
gan Chickenfoot
* Dwi wedi darllen y beibl - Check
* Cefais fy nwyn i fynu yn mynd i'r capel a'r ysgol Sul -
Check. 'Swn i di gallu cael lie-in bob bore Sul, oni bai am yr angen i arbed fy enaid trwy lliwio cartwns o Arch Noah a David v Goliath.
* Mae fy ngwerthoedd/moesoldeb personol wedi'u ddylanwadu'n gryf gan gwerthoedd/moesoldeb Cristnogol - Check. Wel y rhai sydd jest yn synnwyr gyffredin, beth bynnag.
* Dwi'n edmygu safiad a bywyd Iesu Grist fel esiampl ac yn edrych lan ato fel eicon hanesyddol -
Dw i'm yn siwr am hynna. Dw i'n edmygu darnau o'i neges, ond eto galla ond meddwl amdano fel conman yn y diwedd gan nad ydw i'n meddwl yr oedd o'n fab i Dduw.
* Mae stori'r Pasg (yn ol Efengyl Mathew yn enwedig) yn cael effaith mawr arnai
Ddim rili, achos os ydi o'n wir, jest cynllwyn selestial oedd yn chwarae hefo bywydau pobl oedd o.
* Dwi'n teimlo'n gartrefol iawn bob tro dwi'n cerdded mewn i eglwys
Mi oeddwn i, ond ddim rhagor.

Re: Cristion Seciwlar

PostioPostiwyd: Sad 08 Maw 2008 9:41 pm
gan Duw
* Dwi wedi darllen y beibl
Diddorol iawn, adloniant gwych, ond well gen i Terry Pratchet
* Cefais fy nwyn i fynu yn mynd i'r capel a'r ysgol Sul
Do, ond falch i ddweud nid wyf yn dilyn y Parchedig @@@@@ oherwydd mae wedi'i gyhuddo o ffidlo gyda phlant.
* Mae fy ngwerthoedd/moesoldeb personol wedi'u ddylanwadu'n gryf gan gwerthoedd/moesoldeb Cristnogol
Rheole yw rheole. Byw ganddyn nhw. Er edrych ar wragedd dynion eraill? Sori, euog.
* Dwi'n edmygu safiad a bywyd Iesu Grist fel esiampl ac yn edrych lan ato fel eicon hanesyddol
Nid reli, os ydych am galw'ch hunain yn frenin oherwydd rhyw nam ar eich ymennydd, nid yw'n anodd. Er, cenfigenus, hoffwn gwrdd a'r diafol, bydde hwnnw'n blast.
* Mae stori'r Pasg (yn ol Efengyl Mathew yn enwedig) yn cael effaith mawr arnai
Idiot!A pheidiwch a dechre gyda'r marw dros bechodau a'r nonsens 'ny.
* Dwi'n teimlo'n gartrefol iawn bob tro dwi'n cerdded mewn i eglwys
Wastod yn dod a gwen i'm gwyneb. Dwi'n hoffi'r celf (enwedig yn yr Eidal). Er ni fydde gwir rheswm fy ngwen yn plesio cristnogion.

Cristion seciwlar, stim shwd beth fel cafodd ei ddweud eisoes. Pam fyddet am alw d'hunan yn gristion os nac wyt yn credu mewn Iesu a Fi? Mae cymaint o connotations gwael yn cael eu cysylltu gyda'r gair CRISTION, bydde'n well 'da fi alw'n hunan yn @##!$ yn gyntaf.

Re: Cristion Seciwlar

PostioPostiwyd: Iau 20 Maw 2008 10:27 am
gan rooney
Y Crochenydd a ddywedodd:Dwi ddim yn credu mewn duw, ond...

* Dwi wedi darllen y beibl
* Cefais fy nwyn i fynu yn mynd i'r capel a'r ysgol Sul
* Mae fy ngwerthoedd/moesoldeb personol wedi'u ddylanwadu'n gryf gan gwerthoedd/moesoldeb Cristnogol
* Dwi'n edmygu safiad a bywyd Iesu Grist fel esiampl ac yn edrych lan ato fel eicon hanesyddol
* Mae stori'r Pasg (yn ol Efengyl Mathew yn enwedig) yn cael effaith mawr arnai
* Dwi'n teimlo'n gartrefol iawn bob tro dwi'n cerdded mewn i eglwys

Oes yna faeswyr arall sy'n teimlo'n debyg? Ydw i'n gallu meddwl amdan fy hyn fel Cristion Seciwlar (wedi'r cyfan, rydym yn clywed am Iddewon Seciwlar o hyd)? Neu ydw i jest am gael fy nheisen a'i fwyta fe ( :? ) fel petai?


felly ar ol derbyn y bendithion Duw trwy'i air, trwy dy deulu, addysg a'r gymdeithas rwyt yn sticio dau fys fyny a dweud ti ddim yn credu ynddo a ddim am boddran cael ffydd yn Iesu? rwy'n tybio dy fod ormod o ofn datgan dy hun fel Cristion, gan fod cymdeithas yn gynyddol anoddefgar o Gristnogaeth. Efallai ti ofn beth fyddai dy ffrindiau, dy gyd-weithwyr yn ddweud. Yw plesio'r bobl hynny yn bwysicach na dy ddyfodol tragwyddol?

ond pwy ddwedodd fod bywyd Cristion fod yn un hawdd?

Luc 9:23-27
23 Yna dywedodd wrth bawb oedd yno: "Rhaid i bwy bynnag sydd am fy nilyn i stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill bob dydd, a cherdded yr un llwybr â mi. 24 Bydd y rhai sy’n ceisio cadw eu bywyd eu hunain yn colli’r bywyd go iawn, ond y rhai sy'n barod i ollwng gafael ar eu bywyd er fy mwyn i yn diogelu bywyd go iawn. 25 Beth ydy'r pwynt o gael popeth sydd gan y byd i'w gynnig, a cholli eich hunan? 26 Pawb sydd â chywilydd ohono i a beth dw i'n ei ddweud, bydd gen i, Mab y Dyn, gywilydd ohonyn nhw pan fydda i’n yn dod yn ôl yn ei holl ysblander, sef ysblander y Tad a'i angylion sanctaidd. 27 Credwch chi fi, wnaiff rhai ohonoch chi sy'n sefyll yma ddim marw cyn cael gweld Duw’n teyrnasu."

Re: Cristion Seciwlar

PostioPostiwyd: Iau 20 Maw 2008 3:13 pm
gan Chickenfoot
Roonster! AH-AHHHH! KING OF THE UNPROVABLE!

Re: Cristion Seciwlar

PostioPostiwyd: Iau 20 Maw 2008 4:13 pm
gan Hogyn o Rachub
Duw, mae dy neges yn ofnadwy o sarhaus a ddirmygus, waeth bynnag dy gredoau dy hun, ac i fod yn onest yn gwbl blentynnaidd. Un peth ydi cwyno am Gristionogion yn achwyn ar bobl i newid eu bywydau a phregethau moesau ond mae sarhau ar grefydd, sy'n rhywbeth gwbl gwbl hanfodol a dwfn i unrhyw un sy'n meddu ar un, yn isel tu hwnt; mae'n llawer gwaeth na phregethau Rooney. A bod yn onest dyna un o'r negeseuon sy wedi fy ffieiddio fwyaf ar yr holl Faes, a dw i'm yn Gristion pybyr, traddodiadol o bell ffordd. C'wilydd arnat.

Re: Cristion Seciwlar

PostioPostiwyd: Iau 20 Maw 2008 5:01 pm
gan Duw
Mae'n flin gen i dy fod mor sensitif. Plentynnaidd? Wel falle, ond hiwmor wedi'r cyfan. Rhywbeth sydd ar goll yn gyffredinol o'r seiat hwn. Maddau i mi o Hogyn, os ydy fy nhafod wedi dy ypsetio, gwnaf ei dynnu allan.

Hogyn o Rachub a ddywedodd:mae sarhau ar grefydd, sy'n rhywbeth gwbl gwbl hanfodol a dwfn i unrhyw un sy'n meddu ar un, yn isel tu hwnt; mae'n llawer gwaeth na phregethau Rooney


Wyt ti wedi clywed pregethau Rooney??!

Gwranda, gallaf roi fy marn ar grefydd cystal a thithau - pam lai? Dim ond ti sy'n cael yr hawl i son am Dduw? Os wyt ti am "yes men" i gytuno gyda dy fersiwn di o bethau, cer i'r cylch cristnogion. Dwi ddim wedi bod yn sarhaus ato ti yn bersonol (er efallai rwyt yn mynnu dy fod yn methu rhannu ti a dy grefydd), ond mae'n rhaid bod hawl gennyf i leisio fy marn.

Cywilydd arnaf? Byth. Dy fraint di yw lledu gair Iesu dros y byd, fy mwriad i yw agor llygaid pobl i'r holl hocys pocys. Ydw i wir mor ddrwg a hynny? You betcha! :winc:

Ger llaw, dwi mynd i roi saib i chi nawr, off ar fy ngwylie - peidiwch a newid tra bo fi bant gwnewch chi. :crechwen:

Re: Cristion Seciwlar

PostioPostiwyd: Iau 20 Maw 2008 6:02 pm
gan rooney
Duw a ddywedodd:Cywilydd arnaf? Byth.


hunan-gyfiawn... ?

Re: Cristion Seciwlar

PostioPostiwyd: Iau 20 Maw 2008 7:18 pm
gan Duw
rooney a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Cywilydd arnaf? Byth.


hunan-gyfiawn... ?

Ie, so? Fel tithe, dwi meddwl. Neu wyt ti'n rhy ddall i weld hynny?