Cristion Seciwlar

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cristion Seciwlar

Postiogan rooney » Gwe 21 Maw 2008 12:14 am

Duw a ddywedodd:Ie, so? Fel tithe, dwi meddwl. Neu wyt ti'n rhy ddall i weld hynny?


Sut gall Cristion fod yn hunan-gyfiawn? Yr holl bwynt yw fod pobl yn rhoi ffydd yn Crist a'i weithredoedd ef, ac nid yn ein hunain, er mwyn ein gwaredigaeth. Nid system hunan-gyfiawnol "works-based" yw Cristnogaeth- dyna un o'r gwahaniaethau mwyaf rhwng Cristnogaeth a phob crefydd arall. Mae gweithredoedd da a dilyn Iesu yn ymateb i'r waredigaeth a'r gras, i ddod a gogoniant i Dduw, nid i dalu dy ddyledion er mwyn cael ticed i'r nefoedd gan wneith neb bydd dalu'r fath ddyled gyda'u gweithredoedd.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Cristion Seciwlar

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 21 Maw 2008 9:40 am

Duw a ddywedodd:Wyt ti wedi clywed pregethau Rooney??!


Do, cyfleu dw i nad wyt fwy na fersiwn seciwlar ohono (a na, dw i ddim yn cytuno efo fawr ddim mae o'n ei ddweud chwaith)! Ac oes, mae rhydd i ti dy farn, ond dydi'r ffin rhwng cyfleu barn a bod yn ddirmygus ddim yn denau, ac ar ochr yr ail oedd dy neges yn glir. Fy marn bersonol i ydi 'sdim pwynt hyd yn oed trafod crefydd, achos 'does cytundeb i gael, a phrin y byddaf yn dod yma. Ond yn amlwg dwyt ti ddim yn sylwi pa mor bwysig ydi crefydd i unigolion, a dydi pob Cristion ddim yr un mor eithafol â Rooney, na hyd yn oed Rhys Llwyd (nid fod RLl yn eithafol dw i'm yn credu) ac o ddarllen dy neges ysgogi ymateb a bod yn sarhaus yw'r bwriad ac nid ymgais i greu trafodaeth nac ychwanegu ati, megis:

Duw a ddywedodd: Dy fraint di yw lledu gair Iesu dros y byd, fy mwriad i yw agor llygaid pobl i'r holl hocys pocys. Ydw i wir mor ddrwg a hynny? You betcha!


...yn wir, y fersiwn seciwlar a cynddrwg â Rooney os bu!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Cristion Seciwlar

Postiogan dawncyfarwydd » Sad 22 Maw 2008 4:13 pm

rooney a ddywedodd:felly ar ol derbyn y bendithion Duw trwy'i air, trwy dy deulu, addysg a'r gymdeithas rwyt yn sticio dau fys fyny a dweud ti ddim yn credu ynddo a ddim am boddran cael ffydd yn Iesu? rwy'n tybio dy fod ormod o ofn datgan dy hun fel Cristion, gan fod cymdeithas yn gynyddol anoddefgar o Gristnogaeth. Efallai ti ofn beth fyddai dy ffrindiau, dy gyd-weithwyr yn ddweud. Yw plesio'r bobl hynny yn bwysicach na dy ddyfodol tragwyddol?

Rooney, dwi jyst yn methu credu dy fod di'n gymaint o basher, ac eto yn methu cael dy ben rownd y ffaith mai anghrediniaeth ydi'r default position ac mai rhywbeth y mae Duw yn dewis ei rhoi i bobol ydi cred ynddo fo a ffordd i'r bywyd trwy adnabod Iesu Grist. Ella ma'r rheswm rwyt ti'n methu derbyn hynny ydi'i fod yn esgor ar dosturi yn hytrach na morthwylio rhyw gyfrifoldeb i mewn i bobol y mae'n amhosib iddyn nhw ei gyflawni oherwydd ein stad bechadurus.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Cristion Seciwlar

Postiogan rooney » Sad 22 Maw 2008 4:58 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:Rooney, dwi jyst yn methu credu dy fod di'n gymaint o basher, ac eto yn methu cael dy ben rownd y ffaith mai anghrediniaeth ydi'r default position


gallwn gael fy mherswadio fod agnostiaeth yn "default", ond ddim yn cytuno gyda anffyddiaeth fel "default" o gwbl, pam ti'n meddwl hyn? Pam rhoi moethusder i'r anffyddiwr hawlio'r "default", a hwythau heb ronyn o dystiolaeth i gefnogi eu safbwynt?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Cristion Seciwlar

Postiogan sian » Sad 22 Maw 2008 5:05 pm

rooney a ddywedodd:ond ddim yn cytuno gyda anffyddiaeth fel "default" o gwbl, pam ti'n meddwl hyn?


Ioan 3:3
"Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o'r newydd, ni all weld teyrnas Dduw."
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Cristion Seciwlar

Postiogan rooney » Sad 22 Maw 2008 5:14 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:...yn wir, y fersiwn seciwlar a cynddrwg â Rooney os bu!


ddim cweit yn deall yr ymosodiadau yma, a nid dim ond gen ti ond gen amryw o Gristnogion y maes

beth ti'n wneud o'r adnod yma>
"Therefore, prepare your minds for action; be self-controlled; set your hope fully on the grace to be given you when Jesus Christ is revealed. As obedient children, do not conform to the evil desires you had when you lived in ignorance. But just as he who called you is holy, so be holy in all you do; for it is written: "Be holy, because I am holy." (1 Peter 1:13-16)

(sori am y saesneg, ond mae beibl.net i lawr)

ac felly, mae'n amlwg mae nid rhoi mewn i'r byd, "go with the flow" gyda seciwlariaeth gwrth-Feiblaidd sydd yn ddisgwyliedig o Gristion
hawdd iawn yw bod yn Gristion mewn cymdeithas Gristnogol, neu bod yn Gristion tu fewn i waliau'r capel neu eglwys. Fydd hi ddim yn hawdd bod yn Gristion mewn cymdeithas seciwlar gyda gwerthoedd gwrth-Feiblaidd. Os yw cristnogion heddiw yn taflu'r twel fewn mor hawdd i agenda seciwlariaeth gwrth-Feiblaidd... mor bell yw hyn o ymdrechion ac aberth yr apostolion, oedd well ganddynt gael eu dienyddio na dweud "Cesar yw Duw".
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Cristion Seciwlar

Postiogan rooney » Sad 22 Maw 2008 5:17 pm

sian a ddywedodd:Ioan 3:3
"Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o'r newydd, ni all weld teyrnas Dduw."


Fedra i ddim gweld sut mae'r adnod yma'n cefnogi anffyddiaeth = default.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Cristion Seciwlar

Postiogan sian » Sad 22 Maw 2008 5:43 pm

rooney a ddywedodd:
sian a ddywedodd:Ioan 3:3
"Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o'r newydd, ni all weld teyrnas Dduw."


Fedra i ddim gweld sut mae'r adnod yma'n cefnogi anffyddiaeth = default.


Na? Ro'n i'n meddwl - o'i roi yn syml - ei fod yn dweud bod rhywun yn ei stad naturiol ddim yn Gristion. Bod rhaid i rywbeth ddigwydd - naill ai'n sydyn neu'n raddol dros amser - cyn i rywun ddod yn Gristion. Ac yn y bôn, os nad oes gan rywun ffydd yng Nghrist, mae'n anffyddiwr. Alli di ddim gorchymyn i rywun ddod yn Gristion.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Cristion Seciwlar

Postiogan rooney » Sad 22 Maw 2008 5:48 pm

Roedd Iesu'n dysgu... Nicodemus. Nid oedd Nicodemus yn anffyddiwr h.y. atheist, roedd yn Iddew, yn Pharisi. Nid yw Iddewon yn anffyddwyr (atheists).
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Cristion Seciwlar

Postiogan dawncyfarwydd » Sad 22 Maw 2008 6:12 pm

rooney a ddywedodd:
dawncyfarwydd a ddywedodd:Rooney, dwi jyst yn methu credu dy fod di'n gymaint o basher, ac eto yn methu cael dy ben rownd y ffaith mai anghrediniaeth ydi'r default position


gallwn gael fy mherswadio fod agnostiaeth yn "default", ond ddim yn cytuno gyda anffyddiaeth fel "default" o gwbl, pam ti'n meddwl hyn? Pam rhoi moethusder i'r anffyddiwr hawlio'r "default", a hwythau heb ronyn o dystiolaeth i gefnogi eu safbwynt?

Dwi'n trio peidio delio efo anffyddwyr yn dactegol fatha tasa ni gyd yn rhan o ryw ddadl athronyddol fawr - dwi'n ceisio delio efo'r hyn mae'r Beibl yn ei ddatguddio fel realiti.

Dyn, trwy ei gwymp, mewn stad bechadurus ac aflan sy'n golygu ei fod yn disgyn islaw safon Duw. Un o sgil-effeithiau hynny ydi bod Duw wedi ei guddio oddi wrth bobl, ein bod ni by default heb y crebwyll i sylweddoli bodolaeth Duw. [e.e. Eff. 4:17-19] Yna, i'r rhai y mae Duw wedi'u rhagethol ers tragwyddoldeb ac y bu Crist farw drostynt, mae'r Ysbryd Glan yn symud y gorchudd hwnnw, yn gwneud i rywun sylweddoli fod bodolaeth Duw yn realiti, ac yn eu dwyn i edifeiriwch. Yn bendant, dyna sut nes i ddod yn Gristion: shifft o fy mewn i o anghrediniaeth lwyr i 'wybodaeth' fod Duw yn bod.

[Pryna'r llyfr The Five Points of Calvinism: Defined, Defended and Documented gan Steele a Thomas - gwd bwc.]

Mae hynny yn ei dro yn gwneud dy fath di o efengylu yn wrthun i mi. Dwi'n credu mai cyflwyno ffeithiau yn barchus ac yn gwrtais ac nid yn ymosodol ydi'r ffordd orau o efengylu; oherwydd tra bod hynny'n galluogi Duw os myn i weithio trwy'n geiriau ni, dydi o ddim yn eliynetio Cristnogion ac yn gwneud i ni edrych fel anghenfilod. Pa les sydd i hynny? Dydi pawb ddim wedi'i ethol, felly be ydi'r pwynt amharchu pobol?

[Hefyd gyda llaw mae braidd yn futile cyfeirio at ddull Iesu Grist o 'efengylu' (mae hwnna mewn things achos Iesu Grist ydi'r efengyl mewn ffordd) i Iddewon achos roedd sefyllfa'r Iddewon ar y pwynt yna yn gwbwl wahanol i sefyllfa gweddill y ddynoliaeth heddiw.]
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai