Tudalen 3 o 3

Re: Cristion Seciwlar

PostioPostiwyd: Sad 22 Maw 2008 6:43 pm
gan rooney
dawncyfarwydd a ddywedodd:Dyn, trwy ei gwymp, mewn stad bechadurus ac aflan sy'n golygu ei fod yn disgyn islaw safon Duw. Un o sgil-effeithiau hynny ydi bod Duw wedi ei guddio oddi wrth bobl, ein bod ni by default heb y crebwyll i sylweddoli bodolaeth Duw. [e.e. Eff. 4:17-19]


Rhufeiniaid 1:20
20For since the creation of the world God's invisible qualities—his eternal power and divine nature—have been clearly seen, being understood from what has been made, so that men are without excuse.

Pslam 14:1

[Hefyd gyda llaw mae braidd yn futile cyfeirio at ddull Iesu Grist o 'efengylu' (mae hwnna mewn things achos Iesu Grist ydi'r efengyl mewn ffordd) i Iddewon achos roedd sefyllfa'r Iddewon ar y pwynt yna yn gwbwl wahanol i sefyllfa gweddill y ddynoliaeth heddiw.]


1 Cor 1:23, Acts 2 & 17
fydde ti'n dweud fod ein cymdeithas heddiw yn "Groegaidd" neu'n "Iddewig"

Re: Cristion Seciwlar

PostioPostiwyd: Sad 22 Maw 2008 9:33 pm
gan Rhys Llwyd
rooney a ddywedodd:1 Cor 1:23, Acts 2 & 17
fydde ti'n dweud fod ein cymdeithas heddiw yn "Groegaidd" neu'n "Iddewig"


Cwestiwn diddool tu hwnt. Basw ni'n dadlau ein bod ni hanner ffordd rhwng y ddau - yn dechnegol rydm ni'n un o'r 'cenhedloedd' fel y Grogiaid ond maen ein treftadaeth Gristnogol yn ein gwneud ni'n debyg iawn i'r Iddewon ar lawer ystyr er enghraifft baggage crefyddol sylweddol, arddel y ffydd Gristnogol gyfystyr a'n hunaniaeth i bob pwrpas (dros 70% yn "gristnogion" yn y sensws diwethaf) ac ein 'crefyddwr' hunangyfiawn yn debyg iawn i'r Phareseaid yn Jerwsalem!

Roedd Iesu ac maes o law yr Apostol Paul yn defnyddio'r diwylliant/jargon Iddewig i esbonio a rhesymu'r newyddion da am deyrnas Duw i'r Iddewon drwy gyfeirio nol at broffwydoliaethau'r Hen Destament a rhesymu ar sail eu dealltwriaeth o'r 'ddeddf.' Ond pan yn tystiolaethu i'r Cenedlddynion (Groegwyr etc...) nid oedd diben defnyddio'r diwylliant Iddewog fel cerbyn i esbonio'r newyddion da fe roedd y ieithwedd a;r rhesymu'n newid oherwydd nad oedd yr un cefndir ganddyn nhw a'r Iddewon. Ar y cyfan dwi'n meddwl fod tystiolaethu i Gymry sydd a chefndir crefyddol cryf fel yr Iddewon yn debycach i dystiolaeth yr Apostolion i'r Iddewon nac ydy i'r Groegwyr OND mae'r genhedlaeth sy'n codi nawr yn y Gymru seciwlar yn debycach i'r Grogwyr heb unrhyw gefndir ac felly o bosib fod yn rhaid i Gristnogion edrych ar 1 Corinthiaid 9:19-23 a chael re-think oherwydd am y tro cyntaf ers sawl canrif nid oes gan y Cymry gefndir crefyddol yn y pethau ac felly maent yn ymdebycu mwy i Roegwyr erbyn hyn.

Pwnc difyr.

Re: Cristion Seciwlar

PostioPostiwyd: Sad 22 Maw 2008 11:07 pm
gan rooney
Rhys Llwyd a ddywedodd:OND mae'r genhedlaeth sy'n codi nawr yn y Gymru seciwlar yn debycach i'r Grogwyr heb unrhyw gefndir ac felly o bosib fod yn rhaid i Gristnogion edrych ar 1 Corinthiaid 9:19-23 a chael re-think oherwydd am y tro cyntaf ers sawl canrif nid oes gan y Cymry gefndir crefyddol yn y pethau ac felly maent yn ymdebycu mwy i Roegwyr erbyn hyn.


yn gwmws
a buaswn yn cytuno ein bod hanner ffordd rhwng Groegaid ac Iddewon.
Mae'r agenda seciwlar yn troi Iddewon yn Groegaid, ac yn anoddefgar iawn tuag at y rheiny sydd yn gwrthwynebu hyn.

http://www.wps6.co.uk/~dev_lfld/view_pa ... enu_id=231

Re: Cristion Seciwlar

PostioPostiwyd: Gwe 28 Maw 2008 4:24 pm
gan Duw
rooney a ddywedodd:yn gwmws
a buaswn yn cytuno ein bod hanner ffordd rhwng Groegaid ac Iddewon.
Mae'r agenda seciwlar yn troi Iddewon yn Groegaid, ac yn anoddefgar iawn tuag at y rheiny sydd yn gwrthwynebu hyn.


Ie, ond gret i'r rheini ohonom sy'n ei groesawu. Ger llaw rooney, bydd Islam yn codi dros y degawdau nesaf a bydd mwy yn addoli Allah trwy'r gwir broffwyd, ei Fab, Mwhamad na Christnogion yng Nghymru. Look out guys - mae'n dod! Deddf Shariah i bawb, beth bynnag eich cefndir. O wel, o leiaf bydd gennyf darged newydd, os bydd dal dwylo gennyf i deipio!

Re: Cristion Seciwlar

PostioPostiwyd: Sad 29 Maw 2008 1:41 am
gan rooney
Duw a ddywedodd:Ie, ond gret i'r rheini ohonom sy'n ei groesawu. Ger llaw rooney, bydd Islam yn codi dros y degawdau nesaf a bydd mwy yn addoli Allah trwy'r gwir broffwyd, ei Fab, Mwhamad na Christnogion yng Nghymru. Look out guys - mae'n dod! Deddf Shariah i bawb, beth bynnag eich cefndir. O wel, o leiaf bydd gennyf darged newydd, os bydd dal dwylo gennyf i deipio!


yr unig beth wneith anffyddwyr seciwlar gyflawni trwy ymosod mod ddi-gyfaddawd ar Gristnogaeth yw creu gwacdod, gwacdod y bydd Islam yn fwy na hapus trio ei lenwi
ni am gael adundiad Cristnogol neu Islam yn torri trwodd
ond mae dipyn o ffordd i fynd, gyda mwyafrif pobl Prydain mewn pol diweddar yn cadarnhau eu bod yn credu yn atgyfodiad Iesu.

Re: Cristion Seciwlar

PostioPostiwyd: Sad 29 Maw 2008 1:58 am
gan 7ennyn
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Fy marn bersonol i ydi 'sdim pwynt hyd yn oed trafod crefydd, achos 'does cytundeb i gael, ...

Amen, dyn pren!