Tudalen 1 o 3

Eglwysi/Capeli Cymraeg Caerdydd

PostioPostiwyd: Sad 08 Maw 2008 8:43 pm
gan Huw T
Bydde ni yn postio hwn yn seiat criw duw, ond dwi heb gael yn nerbyn yn aelod eto!

Newydd symund i Gaerdydd, a newydd gael internet yn y ty, felly - All rhywun awgrymu/ argymell eglwys/capel gyda gwasanethau Cymraeg yng Nghaerdydd. Fi'n gwybod am Minny Street, ond tybed oes un arall yn agosach i Splott (lle dwi'n byw)?

Ddim yn rhy ffysd am ba enwadau (ond Eglwys yng Nghymru os yn bosib eich mawrhydi!), ond yn ddelfrydol fi eisie osgoi unrhyw le gyda gitars a tambwrins!
Diolch am yr help. Atebion cyn bore fory yn brill!

Re: Eglwysi/Capeli Cymraeg Caerdydd

PostioPostiwyd: Sad 08 Maw 2008 9:39 pm
gan cyfrinair
Minny Street yn ddigon agos i Sblott. Ochr arall Newport Road, ar City Road a wedyn Crwys Road, rownd y gornel a ti yna. 'Ma werth e. Gei di addoliad bendithiol a chwmniaeth hyfryd. Owain, y Gweinidog yn ffab.

Re: Eglwysi/Capeli Cymraeg Caerdydd

PostioPostiwyd: Sad 08 Maw 2008 10:19 pm
gan sian
Ebeneser i'w weld yn nes na Minny Street - Annibynwyr eto.
Alun Tudur yw'r Gweinidog ond yn ôl gwefan y capel Gareth Morgan Jones sy'n pregethu 'na fory.

Cymer amser i dreio gwahanol lefydd i weld lle ti'n teimlo'n gyfforddus.

Mae gwefan gan yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg hefyd

Re: Eglwysi/Capeli Cymraeg Caerdydd

PostioPostiwyd: Sul 09 Maw 2008 8:18 pm
gan Rhys Llwyd
Huw T a ddywedodd:Ddim yn rhy ffysd am ba enwadau...ond yn ddelfrydol fi eisie osgoi unrhyw le gyda gitars a tambwrins!


Live a little Huw bach :?

Re: Eglwysi/Capeli Cymraeg Caerdydd

PostioPostiwyd: Sul 09 Maw 2008 8:22 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Mae llawer o gapeli yn y Fro Gymraeg yn lwcus y dyddiau yma os y cawn nhw fwy na dwsin o bobl mewn oedfa ar y Sul. Pa mor llawn ydi'r capeli Cymraeg yng Nghaerdydd?

Re: Eglwysi/Capeli Cymraeg Caerdydd

PostioPostiwyd: Sul 09 Maw 2008 8:45 pm
gan sian
Rhys Llwyd a ddywedodd:
Huw T a ddywedodd:Ddim yn rhy ffysd am ba enwadau...ond yn ddelfrydol fi eisie osgoi unrhyw le gyda gitars a tambwrins!


Live a little Huw bach :?


Swn i ddim yn meindio gitâr neu ddau ond swn i'n sicir yn osgoi'r tambwrins.

Wel, fuest ti'n rhywle? Lle? Ei di eto neu wyt ti am dreio rhywle arall?

Re: Eglwysi/Capeli Cymraeg Caerdydd

PostioPostiwyd: Sul 09 Maw 2008 8:46 pm
gan cyfrinair
Nes i ddim cyfri faint o bobl oedd ym Minny Street heno, ond cynulleidfa dda. Ma'r bore wastad yn llawn, gyda llwyth o blant yn mynychu'r Ysgol Sul.

Re: Eglwysi/Capeli Cymraeg Caerdydd

PostioPostiwyd: Sul 09 Maw 2008 8:55 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Galeri yn y capel? 'Rwy'n darllen ryw hen lyfrau Cymraeg weithiau- cyfnod pan oedd y capeli yn orlawn.
Tybed pa gapel Cymraeg yn y byd sydd hefo'r nifer fwya o gapelwyr selog? Unrhyw gapel ar ol ble y ceir cynulleidfa o 100+ a hynny'n rheolaidd? Capel yng Nghaerdydd, Llundain, Aberystwyth, Leprwl, Caernarfon neu Fangor?

Re: Eglwysi/Capeli Cymraeg Caerdydd

PostioPostiwyd: Sul 09 Maw 2008 9:41 pm
gan Rhys Llwyd
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Galeri yn y capel? 'Rwy'n darllen ryw hen lyfrau Cymraeg weithiau- cyfnod pan oedd y capeli yn orlawn.
Tybed pa gapel Cymraeg yn y byd sydd hefo'r nifer fwya o gapelwyr selog? Unrhyw gapel ar ol ble y ceir cynulleidfa o 100+ a hynny'n rheolaidd? Capel yng Nghaerdydd, Llundain, Aberystwyth, Leprwl, Caernarfon neu Fangor?


Dwi'n meddwl fod sawl gwasanaeth teuluol boreuol yn dod yn agos i'r 100 yn cynnwys y plant. Eglwys Meirion Morris yn Llansanan yn eglwys lwyddianus a thorf dda yn y boreuau; llai yn y nos heb y teuluoedd wrth gwrs.

Llawer o Eglwysi mawr Saesneg yng Nghymru, St Mikes yn Aberystwyth a rhyw 400 yn rheolaidd. Rhai o eglwysi mwy Caerdydd yn cynnwys Rhiwbina Baptists, Heath Evangelical, Highfields a City Temple a rhai canoedd yn y gwasanaethau.

Yr hyn sy'n arwyddocaol wrth gwrs yw fod yr holl rai mawr ac sy'n tyfu yn rai efengylaidd/pentacostalaidd.

Re: Eglwysi/Capeli Cymraeg Caerdydd

PostioPostiwyd: Llun 10 Maw 2008 10:33 am
gan Wylit, wylit Lywelyn
Y selogion yn cynnal gwasaneth yn y festri yn hytrach na'r capel mawr oer (rhatach o ran talu am wres...)-mwy addas ar gyfer cynulleidfa o tua dwsin...
Patrwm/arfer cyfarwydd iawn mewn nifer o gapeli Cymru?