Rhys Llwyd a ddywedodd:Ie yr MC's ydy Capel Coffa Henry Rees a'r Annibyn nwyr ydy Capel Coffia Williams Rees (ia, brawd Henry Rees!!). Man braf gwybod fod y ddwy eglwys wedi uno bellach.
Wyt ti'n siwr? Ro'n i'n meddwl bod y ddwy eglwys yn dal i fodoli ond eu bod nhw'n cyd-addoli yn yr un capel o dan yr un gweinidog.
Hynny yw, bod y Presbyteriaid yn dal yn Bresbyteriaid a'r blaenoriaid yn cael cynrychioli'r eglwys yn y Cwarfod Misol a'r Annibynwyr yn dal yn Annibynwyr a'r holl aelodau'n cael pleidlais yn y Cwrdd Chwarter a bod ganddyn nhw eu swyddogion a'u cyfrifon eu hunain. Delfrydol os ydi e'n gweithio!