Tudalen 2 o 3

Re: Eglwysi/Capeli Cymraeg Caerdydd

PostioPostiwyd: Llun 10 Maw 2008 11:02 am
gan sian
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Y selogion yn cynnal gwasaneth yn y festri yn hytrach na'r capel mawr oer (rhatach o ran talu am wres...)-mwy addas ar gyfer cynulleidfa o tua dwsin...
Patrwm/arfer cyfarwydd iawn mewn nifer o gapeli Cymru?


Ie, dyna beth ry'n ni'n ei wneud. Mae gyda ni anferth o gapel sy ddim yn cael ei ddefnyddio o gwbl ar hyn o bryd. Fyse rhai pobl yn licio mynd yno i gynnal gwasanaethau ond dydi e jest ddim yn gwneud sens ar hyn o bryd. Fyswn i'n licio'i addasu mewn rhyw ffordd - ei wneud yn ddau lawr efallai - ond mae CADW wedi'i restru felly mae 'na gyfyngiadau ar beth allwn ni ei wneud.

Beth bynnag, nôl i Gaerdydd, mae sôn bod Salem Canton yn fywiog iawn. (Mae dwy flynedd ers ysgrifennu'r darn yna - dw i ddim yn gwbod beth yw'r sefyllfa erbyn hyn)

Re: Eglwysi/Capeli Cymraeg Caerdydd

PostioPostiwyd: Llun 10 Maw 2008 11:25 am
gan Dwlwen
Huw T a ddywedodd:Ddim yn rhy ffysd am ba enwadau (ond Eglwys yng Nghymru os yn bosib eich mawrhydi!)

Eglwys yng Nghymru yw Dewi Sant (dyma wefan...) Hon yw'r eglwys yn ganol dre, ar y sgwâr rhwng Dumfries Place a St. Andrew's Place - yn agos iawn at Dy Senghennydd y Brifysgol.
Erioed 'di bod 'na, ond wedi parcio tu fas sawl tro :winc:

Re: Eglwysi/Capeli Cymraeg Caerdydd

PostioPostiwyd: Llun 10 Maw 2008 1:43 pm
gan Chwadan
sian a ddywedodd:Beth bynnag, nôl i Gaerdydd, mae sôn bod Salem Canton yn fywiog iawn. (Mae dwy flynedd ers ysgrifennu'r darn yna - dw i ddim yn gwbod beth yw'r sefyllfa erbyn hyn)

Ma nhw'n mynd o nerth i nerth yno - mi oedd y lle dan ei sang dydd Sul dwytha a ma nhw newydd orfod adeiladu estyniad. Ond cynulleidfa reit fach sydd ar nos Sul, fel rhan fwya o lefydd am wn i.

Eglwys y Crwys ar Richmond Road hefyd yn reit fywiog, ac yn adeilad braf.

Re: Eglwysi/Capeli Cymraeg Caerdydd

PostioPostiwyd: Llun 10 Maw 2008 3:45 pm
gan tafod_bach
cer i eglwys teilo sant yn sain ffagan! sdim o'r cymhlethdode enwadol post-diwygiad yno, na tambwrins. yn wir, fydd e'n llawn tuduriad dros y pasg!mmmm, solemn.

Re: Eglwysi/Capeli Cymraeg Caerdydd

PostioPostiwyd: Llun 10 Maw 2008 5:05 pm
gan Huw T
Es i i Dewi Sant yn y diwedd (stick to what you know!). Bach o sioc pa mor 'uchel' oedden nhw, ond odd pawb yn gyfeillgar, ac o ni, randomly, yn nabod y person odd yn eistedd yn yr un sedd (ma fe ar gyngor yr eglwys, felly bydd hi'n awkward nawr os ffeindiai rywle gwell). Tyrfa weddol, tua 25-30, ond yn edrych yn fach yn yr adeilad yn anffodus. Ddim yn helpu fod pawb yn eistedd yn y cefn!

Ta beth, nol yn Aber ar y 2 benwythnos nesa, felly bydd rhaid aros am bach cyn cal look arall. Diolch am yr help.

Re: Eglwysi/Capeli Cymraeg Caerdydd

PostioPostiwyd: Sul 23 Maw 2008 11:52 pm
gan bobs
Annwyl Huw ,Os wyt ti'n awyddus i addoli Duw a chlywed y Beibl yn cael ei esbonio'n ofalus yna plis tria Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd,Stryd Rhymni,Cathays.Y pregethwr yw'r Parch Gwynn Williams.10 o'r gloch y bore a 6 o'r gloch y nos. Mae'r bobl yn eitha normal yno a does dim tamborins chwaith.Er bod y wefan yn gwella bydde ymweliad yn well! Croeso i Gaerdydd.Mae Efengyl Yr Arglwydd Iesu Grist yn dy alw!See ya gobeithio.
Huw

Re: Eglwysi/Capeli Cymraeg Caerdydd

PostioPostiwyd: Llun 24 Maw 2008 10:22 am
gan mabon-gwent
Rhys Llwyd a ddywedodd: Eglwys Meirion Morris yn Llansanan yn eglwys lwyddianus a thorf dda yn y boreuau; llai yn y nos heb y teuluoedd wrth gwrs.


Wi'n dod i wybod mwy a mwy am Lansanan ers mod i wedi ymuno at maes-e. Hefyd dod i lico'r lle mwy a mwy. :winc:

Wi wedi gwglo fe ac mae stori am y dynion tân yn achub buwch. Bywyd gyffrous pentre bach.

Re: Eglwysi/Capeli Cymraeg Caerdydd

PostioPostiwyd: Llun 24 Maw 2008 10:56 am
gan dawncyfarwydd
Rhys Llwyd a ddywedodd:Eglwys Meirion Morris yn Llansanan yn eglwys lwyddianus a thorf dda yn y boreuau...
Dwi'n credu mai Capel Coffa Henry Rees ydi enw'r lle - ar hyn o bryd o leia :winc:

Re: Eglwysi/Capeli Cymraeg Caerdydd

PostioPostiwyd: Llun 24 Maw 2008 8:27 pm
gan Mr Gasyth
dawncyfarwydd a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:Eglwys Meirion Morris yn Llansanan yn eglwys lwyddianus a thorf dda yn y boreuau...
Dwi'n credu mai Capel Coffa Henry Rees ydi enw'r lle - ar hyn o bryd o leia :winc:


Ai capel yr MCs ydi hwn? Os felly, mae fy nghyn-deidiau yn llenwi'r fynwent!

Re: Eglwysi/Capeli Cymraeg Caerdydd

PostioPostiwyd: Iau 27 Maw 2008 4:43 pm
gan Rhys Llwyd
Mr Gasyth a ddywedodd:
dawncyfarwydd a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:Eglwys Meirion Morris yn Llansanan yn eglwys lwyddianus a thorf dda yn y boreuau...
Dwi'n credu mai Capel Coffa Henry Rees ydi enw'r lle - ar hyn o bryd o leia :winc:


Ai capel yr MCs ydi hwn? Os felly, mae fy nghyn-deidiau yn llenwi'r fynwent!


Ie yr MC's ydy Capel Coffa Henry Rees a'r Annibyn nwyr ydy Capel Coffia Williams Rees (ia, brawd Henry Rees!!). Man braf gwybod fod y ddwy eglwys wedi uno bellach.