Hen Rech Flin a ddywedodd:Wyt yn troi'r ddadl rŵan.
Nid:Pam ydy rhai yn mynnu bod codi plant mewn "cariad", gyda "theulu", gyda "gwerthoedd" yn rhywbeth sydd yn amhosib heb grefydd?
Oedd y cwestiwn gwreiddiol, ond "Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?"
Ymddiheuriadau HRhF, nid oeddwn yn dy feirniadau di, ymateb i rywbeth a ddywedodd rooney oeddwn yma - dylwn fod wedi dyfynnu. Nid oeddwn am droi'r ddadl 'chwaith - jyst ymateb i ddadleuon rooney.
Hen Rech Flin a ddywedodd:Yn wir ti yw'r unig un sydd yn honni bod magu plant gydag unrhyw wirionedd ond dy wirionedd di yn greulon.
Sori HRhF, ni allaf gytuno a hyn (yn amlwg) - dwi yn meddwl bod gorfodi plentyn i gredu mewn anwiredd yn greulon - OND, nid wyf yn honni fy mod yn gwybod y gwirionedd - nid oes modd gwybod y gwirionedd - BYTH. Un o fy mhwyntiau oedd tystiolaeth am fodelau (dwi ddim ishe mynd dros hwn eto - os oes diddordeb ewch dros yr edefyn). Mae'r achos am grefydd ("duw" fel rheol) mor wan, mor chwerthynllyd, mae'n = anwiredd, ac mae codi plentyn a gorfodi anwiredd (a rhagfarn fel rheol) arno'n anghywir (yn bechod?) Bydde codi plentyn i gredu bod y Ddaear yn fflat a bod yr Haul yn mynd o gwmpas y Ddaear, yn erbyn yr holl dystiolaeth, yn hollol hurt, er nid os ydyw'r testun yn cynnwys "duw/gwyrthoedd/mind-control".