Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydych chi'n cytuno bod codi plant mewn crefydd yn gyfwerth â chamdrinaieth

Ydw
7
27%
Nac ydw
19
73%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 26

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan rooney » Gwe 21 Maw 2008 4:12 pm

ceribethlem a ddywedodd:Efallai yn ol safon Beiblaidd dwy fil amwy o flynyddoedd yn ol. Dwi ddim yn credu byddai llys barn yn yr unfed ganrif ar hugain yn cyytuno a thi, er y byddai'n ddibynol ar y drosedd wrth gwrs.

nid ydw i'n meddwl fod y system cyfiawnder yn gwella gyda amser, mae'n berffaith amlwg fod hi'n gwaethygu wrth i'r system symud ffwrdd yn raddol o'r safon Beiblaidd
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan ceribethlem » Gwe 21 Maw 2008 4:17 pm

rooney a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Efallai yn ol safon Beiblaidd dwy fil amwy o flynyddoedd yn ol. Dwi ddim yn credu byddai llys barn yn yr unfed ganrif ar hugain yn cyytuno a thi, er y byddai'n ddibynol ar y drosedd wrth gwrs.

nid ydw i'n meddwl fod y system cyfiawnder yn gwella gyda amser, mae'n berffaith amlwg fod hi'n gwaethygu wrth i'r system symud ffwrdd yn raddol o'r safon Beiblaidd

Yr un sy'n dweud 6. Na ladd?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan rooney » Gwe 21 Maw 2008 4:37 pm

ceribethlem a ddywedodd:Yr un sy'n dweud 6. Na ladd?

ymddengys ti dal ddim yn deall
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan ceribethlem » Gwe 21 Maw 2008 5:47 pm

rooney a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Yr un sy'n dweud 6. Na ladd?

ymddengys ti dal ddim yn deall

Dere mlan te. Goleua fi.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan Hen Rech Flin » Sad 22 Maw 2008 12:51 am

rooney a ddywedodd:
Deuteronium 19:15-21
Witnesses
15 One witness is not enough to convict a man accused of any crime or offense he may have committed. A matter must be established by the testimony of two or three witnesses.

Druan am Wiliam Morgan yn afradu ei fywyd wrth gyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg, ynte?
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan Gari Mynach » Sad 22 Maw 2008 1:20 am

Mae magu eich plant mewn crefydd yn eu dysgu i fod yn berson da, caredig, sy'n helpu pobl. Mae hefyd yn dysgu llawer o synnwyr cyffredin. Cefais fy magu mewn crefydd ond dydw i ddim yn credu erbyn hyn. Er hyn dwi'n parchu a chofio beth cefais fy nysgu am fod yn berson da ac yn cadw at reolau perthnasol y Beibl. Mae hefyd yn eich helpu i barchu crefyddau eraill. Yr unig beth fyswn i'n anghytuno efo yw anfon eich plant i ysgol Gristnogol sydd dim ond yn dysgu pethau fel hanes pobl oedd yn Gristion ayyb. Mi fysai hyn yn rhoi siawns uchel o'r plant yn bod yn gul-feddwl ac mi fysai hyn yn broblem pan fyddent yn hyn.
Gari Mynach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Gwe 21 Maw 2008 9:21 pm

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan Duw » Gwe 28 Maw 2008 4:05 pm

Bois bach, es i ffwrdd am sabatical, ac edrychwch beth a ddigwyddodd! Diolch Gari am ddod a'r pwynt yn ol i gamdriniaeth (a chrefydd yn gyffredinol - nid Cristnogaeth yn unig).

Reit - Hen Rech Flin, (roll in the heavyweights) - stim osgoi dylanwadu ar dy blant o ran dy werthoedd fel rhiant (gwleidyddiaeth ayyb). Er cofia, nid yw plant yn cael bwrw pleidlais nes eu bod yn 18. Pam? Sawl rheswm dwi'n siwr, ond y brif un yw'r ffaith nid ydynt yn digon aeddfed (yn gyffredinol) i bwyso a mesur materion pwysig a gweld trwy fflim-fflam, celwydd a rhagfarn y gwleidyddwyr "secsi" (e.e. y crysiau brown, y crysiau duon).

Pam ydy rhai yn mynnu bod codi plant mewn "cariad", gyda "theulu", gyda "gwerthoedd" yn rhywbeth sydd yn amhosib heb grefydd? Sbwriel llwyr.

Fy mhwynt gwreiddiol oedd pam oes hawl gan unigolyn i wthio "celwydd"/"storiau" (beth bynnag..) lawr llwnc plentyn diniwed ac yna atgyfnerthu hyn yn y gobaith bydd yn beni lan yn "credu" mewn rhywbeth ffarsigal.

Gwnaeth Rooney a Ceribethlem gael good ol' shootout ynglyn a thystiolaeth. Da iawn Ceri, mae'r Rooney 'na mor llithrig a llysywen ac yn troi geiriau fel y Diafol ei hunan. A ger llaw Rooney, paid a rhedeg i ffwrdd o'r cwestiwn:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan Duw » Gwe 28 Maw 2008 4:11 pm

Duw a ddywedodd:beth fyddet yn gwneud os, ar ol dy holl addysgu a gweddio, bod dy blentyn yn troi mas i fod yn hoyw? Reli, hoffwn wybod. A fydde'n cael ei g/ch-ondemio gennyt ti a dy Dduw? Ac oes nac oedd yn hoyw, byddet yn ei g/ch-odi i gondemio pobl hoyw yn ol dy gred?

mae'r pwnc yna werth edefyn ei hunan

Wel? Cer amdani.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan rooney » Sad 29 Maw 2008 1:34 am

Duw a ddywedodd:Fy mhwynt gwreiddiol oedd pam oes hawl gan unigolyn i wthio "celwydd"/"storiau" (beth bynnag..) lawr llwnc plentyn diniwed ac yna atgyfnerthu hyn yn y gobaith bydd yn beni lan yn "credu" mewn rhywbeth ffarsigal.

brawddeg ryfedd
mae'r rhieni yn credu fod y crefydd yn wir, mae rhieni eisiau'r gorau i'w plant, mae rhieni eisiau eu plant i fod yn bobl gyda moesau da ayyb
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan Hen Rech Flin » Sad 29 Maw 2008 7:57 pm

Wyt yn troi'r ddadl rŵan.
Nid:
Pam ydy rhai yn mynnu bod codi plant mewn "cariad", gyda "theulu", gyda "gwerthoedd" yn rhywbeth sydd yn amhosib heb grefydd?

Oedd y cwestiwn gwreiddiol, ond "Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?"

Fy ateb i dy gwestiwn newydd yw bod yna miliynau o blant trwy'r byd yn cael eu codi mewn teuluoedd (o bob disgrifiad) gyda chariad a gwerthoedd, heb grefydd neu heb credu yr un gwirioneddau crefyddol yr wyf fi'n eu harddel.

Yn wir ti yw'r unig un sydd yn honni bod magu plant gydag unrhyw wirionedd ond dy wirionedd di yn greulon.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron