Gynta i gyd, nes i ddim dweud unrhyw beth am gristnogion a'i henwadau - "crefydd" fel sefydliad sy'n fy mhoeni i [diolch am gydnabod hyn Rhys]. Mae pregethwyr ac imams yn gallu plygu meddyliau plant (oedolion hefyd) fel clai. Dim on edrych ar y Bible Belt yn yr UDA a gallwch weld pregethwyr ifainc (5 mlwydd oed rhai ohonyn nhw, a welais ar y teledu) - pregethu yn erbyn pobl hoyw, pobl o grefyddau eraill a phobl "gwahanol" eraill. Nid yw hyn yn eithriad, ychydig yn eithafol efallai, ond dilyn patrwm gweddol cyson.
Yn wahanol i Sion Corn a'r Tylwyth Teg, mae credu mewn rhyw fath o dduw yn cael ei hybu heibio'r sell-by date.
Macsen a ddywedodd:Dwi'n meddwl bod straeon crefyddol a chwedlonol yn werthfawr iawn wrth hybu meddwl yn abstract, gan mai cysyniadau abstract ydyn nhw. A byddai'n anodd iawn deall y byd a'i bobol heb ddeall crefydd, gan bod y rhan fwyaf o drigolion y byd yn grefyddol mewn ryw ffordd.
Dwi'n cytuno bod parablau a chwedlau eraill o'r Beibl yn ddiddorol/adloniaint ac yn gallu rhoi metaffor am foesau. Er wedi dweud hynny, roedd hoff gen i Aesop. Hefyd, gwnes i ddim dweud na ddyle crefydd
au gael ei astudio fel pwnc, yn sicr rhywbeth bwysig, dyniaethol yw hyn.
Mae crefydd yn "potent" ac nid ar chwarae bach dylid ei ystyried. Gall newid personoliaeth, natur, gobeithion, gweithredoedd ayyb. Yn wir mae pobl wedi gwneud pethau rhyfedd a difrifol i'w gilydd (a'u hunain) mewn enw crefydd. Rydym yn gwrthod pethau "potent", peryglus eraill i'n plant tan eu bod digon hen i ddewis dros eu hunain. Pam ddylai crefydd fod yn eithriad?