Tudalen 1 o 8

Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Mer 19 Maw 2008 12:14 am
gan Duw
Mae plant yn fodau hygoelus ac yn derbyn yr hyn rydym yn ei ddweud wrthynt. Sion Corn, y Tylwyth Teg ... Duw! Er ein bod yn eu codi gyda'r celwydd hyn, gallwn eu cyfiawnhau gan eu bod yn cyfoethogi eu plentyndod gyda hud a llanw eu bywydau bregus gyda rhyfeddod.

Pan fydd yr amser yn dod, maen nhw'n barod i dderbyn taw ffuglen yn unig yw Sion Corn a'r Tylwyth Teg - ond beth am Ef? Rydym yn eu dychryn gyda goblygiad peidio â chredu ac mae rhai yn mynd mor bell a'u gwadu os ydynt yn mentro cwestiynnu bodolaeth yr Arglwydd. Rydym wedi gweld bod dim angen crefydd ar gyfer codi plant â moesau cyffredinol.

Na ddylai fod cyfyngiad oedran ar grefydd? Neb i orfodi crefydd ar blentyn nes ei fod digon hen i wneud ei feddwl ei hun i fyny (e.e. 18). A ydy'n gywir i orfodi plentyn diniwed i fod yn gaeth i ryw ddogma arbennig? Anoddefiad tuag at bobl hoyw a phobl o wahanol ffydd neu enwad, bedyddio plentyn cyn bod modd iddo wneud y dewis dros ei hun, ayyb. A ddylai'r llywodraeth wahardd crefydd ar gyfer ein ieuenctid? Neu a ydyw'n syniad hurt, rhag ofn i'r darpar oedolion ddarganfod y gwirionedd dros eu hunain a sicrhau bod crefydd yn syrthio o'r golwg?

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Mer 19 Maw 2008 12:53 am
gan Mali
O diar, mae'r faith dy fod yn gofyn y cwestiwn yn y lle cyntaf yn arwydd o'r oes da ni'n byw ynddi. :crio:
Fedrai ddim hyd yn oed ateb dy bol opiniwn gan 'i fod o mor drist !

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Mer 19 Maw 2008 8:49 am
gan Rhys Llwyd
Duw a ddywedodd:A ddylai'r llywodraeth wahardd crefydd ar gyfer ein ieuenctid?


At an underground church service in China, you pray as quickly as you can - and hope the police do not come running in.

Children Arrested for Attending Bible Study

21 House Church Leaders Simultaneously Sentences to Labor Camp

Ac mi oedde ti'n dweud fyddai hi dipyn tecach a rhydd pe tae'r llywodraeth yn ymyryd gyda'r Eglwys a fydd bersonol pobl a'i teuluoedd? Mae'r fath syniadau yn perthyn i Almaen y 30au ac nid i'n cymdeithas blwrelaidd G 21 ni. Mae dy safbwynt di yn cristoleiddio pen-llanw y safbwynt ffwndamentalaidd atheist sy'n ddim byd llai na ffiaidd ac an-nynol.

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Mer 19 Maw 2008 8:57 am
gan Hogyn o Rachub
Mae hynny'n syniad gwbl hurt - sut ar wyneb y ddaear elli di ddweud bod "dysgu" cerfydd i rywun yn gyfystyr â chamdrin plentyn? Sori ond mae hynny'n warth o beth i'w ddweud!!

Oni ddylem ni beidio â dysgu Cymraeg i blant tan eu bod nhw'n 18 oed "er mwyn iddyn nhw cael dewis" os eu bod nhw am ei siarad ai peidio?

I fod yn hollol onest dw i'n meddwl bod dirywiad cymdeithas yn gyffredinol yn cyd-fynd â chwymp crefydd i raddau helaeth achos dydi nifer o blant ddim yn dysgu beth ydi 'da a drwg'. Mae bob prif grefydd fel rheol yn dysgu plant gwerth bod yn oddefgar, yn anhunanol ac i drin eraill â pharch: efallai mai dysgu mwy ohono sydd eisiau, nid llai.

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Mer 19 Maw 2008 10:10 am
gan Duw
Hogyn o Rachub a ddywedodd: Mae bob prif grefydd fel rheol yn dysgu plant gwerth bod yn oddefgar, yn anhunanol ac i drin eraill â pharch: efallai mai dysgu mwy ohono sydd eisiau, nid llai.


Gwthio fe lawr eu llynciau, boed nhw ishe fe neu beidio - dyna'r ffordd!

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Mer 19 Maw 2008 10:36 am
gan Hogyn o Rachub
Duw a ddywedodd:
Hogyn o Rachub a ddywedodd: Mae bob prif grefydd fel rheol yn dysgu plant gwerth bod yn oddefgar, yn anhunanol ac i drin eraill â pharch: efallai mai dysgu mwy ohono sydd eisiau, nid llai.


Gwthio fe lawr eu llynciau, boed nhw ishe fe neu beidio - dyna'r ffordd!


Bosibl, ond fedri di ddweud hynny am holl foesau cymdeithas ar wahân i grefydd. Ydi 'gwthio' Cymraeg lawr gyddfau'r di-Gymraeg neu dychryn plant i feddwl os gwnawn nhw ladd rhywun awn nhw i'r carchar yn gamdrin? Dw i 'di cael fy nysgu i beidio a dwyn neu ladd neu dwyllo ac ati: mae'r gwerthoedd hynny wedi eu gorfodi arnaf i (ac nid yn grefyddol felly gyda llaw).

O ddilyn dy ffordd o feddwl mae pawb wedi cael eu camdrin, ac mae hynny'n eithaf sarhad ar bobl sy 'di cael eu camdrin o ddifrif.

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Mer 19 Maw 2008 10:49 am
gan ceribethlem
Duw a ddywedodd:
Hogyn o Rachub a ddywedodd: Mae bob prif grefydd fel rheol yn dysgu plant gwerth bod yn oddefgar, yn anhunanol ac i drin eraill â pharch: efallai mai dysgu mwy ohono sydd eisiau, nid llai.


Gwthio fe lawr eu llynciau, boed nhw ishe fe neu beidio - dyna'r ffordd!

Yn ol y ddadl yna bydden ni ddim yn dysgu dim iddyn nhw. Byddai'r plant yn dysgu dim am wyddoniaeth er enghraifft, gan y byddai'r athro yn ei "wthio lawr eu llynciau". Nonsens o beth i'w ddweud.

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Mer 19 Maw 2008 11:19 am
gan Duw
Mae pynciau fel gwyddoniaeth wedi'u seilio ar dystiolaeth, gyda phwyslais ar fodelau, sydd yn barod i'w newid fel rydym yn darganfod mwy. Dyw Cymraeg ddim yn destun i beidio a'i ddysgu - ffordd o gyfathrebu, sydd fod yn peth da, na?

Wrth gwrs bod fy sylwadau cyntaf yn wirion a phwrpas yr holl beth oedd profocio ymateb a cheisio a chael rhyw fath o ddadl ynglyn a hawliau'r unigolyn i benderfynu dros ei hunan os ydyw am ddilyn rhyw grefydd. Nid bod yn Natsiaidd yw dweud peidiwch a gwneud hyn i'r plant - mae crefydd yn rhywbeth pwerus na ddylai gael ei osod ar rywun sydd yn methu amddiffyn ei hun (oherwydd oed/gallu). Beth yw'r broblem gan aros nes bod rhywun yn troi 14(?) cyn ei bod yn cael gosod o dan y "brainwashing" sy'n digwydd mewn sefydliadau crefyddol?

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Mer 19 Maw 2008 12:21 pm
gan Rhys Llwyd
Duw a ddywedodd:Beth yw'r broblem gan aros nes bod rhywun yn troi 14(?) cyn ei bod yn cael gosod o dan y "brainwashing" sy'n digwydd mewn sefydliadau crefyddol?


Fe ddois i yn Gristion cyn mod i'n 14 (wel tua pan o ni'n 14), wyt ti'n nacau hawl plant i ddilyn Iesu? Ffydd bersonol yn Iesu ydy Cristnogaeth, mae'r ffydd bersonol yna yn rhywbeth sy'n rhaid i bawb ddod iddo hyd yn oed os ydio wedi ei fagu yn y traddodiad Cristnogol. Dwi'n adnabod pobl sydd wedu eu magu yn y traddodiad Cristnogol na ddaeth i ddilyn Iesu a dwi'n adnabod pobl na gafodd eu magu fel Cristnogion ond a ddaeth i fydd yn Iesu yn hwyrach yn eu bywydau sy'n profi mewn ffordd fod dy ddealltwriaeth di o beth yw Crist a Christnogaeth yn flawed. Rwyt ti'n dadlau yn erfbyn crefydd nid yn erbyn Cristnogaeth - deud y gwir mae gwir Gristnogaeth sef y gred fod rhaid i bawb ddod i ffydd drostynt hwy eu hunain yn eitha tebyg i'r pwynt wyt ti'n gneud. Ond mae dyletswydd ar Gristnogion son am Iesu wrth bawb, dim ond Cristion sick fyddai'n gwrthod son am Iesu wrth rhywun ar sail ei oed.

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Mer 19 Maw 2008 1:37 pm
gan Macsen
Wel i ddechrau wela'i ddim sut fyddet ti'n gorfodi'r fath reol hyd yn oed pe tai ti eisiau.

Dwi'm yn deall y syniad yma o beidio gadael i bobol wneud penderfyniadau yn ifanc oherwydd y bydden nhw'n gwneud penderfyniad 'gwell' pan mae nhw'n hyn. Mae gwneud penderfyniadau da yn dod gyda profiad nid oed - fe fyddai person yn dysgu am grefydd am y tro cyntaf yn 20 oed ddim llawer callach na rywun yn dysgu am grefydd yn 5 oed.