Neges wych gan Hen Rech Flin.
Y gwir greulondeb bydda fagu plentyn ar aelwyd "sterile" lle mae gan riant ofn mynegi barn ar unrhyw bwnc rhag "dylanwadu yn annheg" ar y plentyn, a chreu plentyn di-farn yn y broses.
Hoffwn gytuno a rhannu pwyntiau eraill i'w ystyried fan hyn. Yn gyntaf, myth yw fod posib creu plant ddi-farn niwtral ac fod anffyddiaeth/seciwlariaeth yn mynd i greu y fath blentyn. Mae plant gan rieni anffyddiol/seciwlar gyda bydolwg a barn ar lawer o bethau sydd wedi deillio o ddylanwad eu rhieni. Does dim ffasiwn beth a bydolwg niwtral. Credaf fod rhoi gwacdod i blentyn a'i annog i benderfynnu popeth dros ei hun yn beth anghyfrifol ac yn gwneud cam a'r plentyn. Hyn oherwydd fod plant a phobl ifanc wedyn gyda'r potensial i ddisgyn am unrhyw ffilosoffi neu ideoleg sydd yn apelio- does dim rheswm i dybio y byddai rhain yn ideolegau cariadus, cyfiawn, gyda parch at eraill mewn cymdeithas ayyb
Mae'n ryddid sylfaenol yn ein cymdeithas i ganiatau rhieni rannu eu gwerthoedd gyda'u plant. Mae'r comiwnyddion di-Dduw yn fy mrawychu, gan mae nhw'n casau rhyddid a theulu. Eu duw nhw yw y wladwriaeth, ac mae nhw'n crefu pwer a pan mae nhw'n gael e mae nhw'n orthrymus ac anghyfiawn dros ben i'r rheiny sydd yn ymwrthod a gwerthoedd y wladwriaeth.
Mae'r teulu a'u rhyddid nhw i rannu eu gwerthoedd gyda'u plant (crefydd yn ran enfawr o hyn) yn fygythiad ac yn rwystredigaeth i uchelgais y wladwriaeth o gael pwer absoliwt dros y bobl. Mor bell yw eu ideoleg nhw gyda'r bydolwg Gristnogol. Mae Cristnogaeth a rhyddid yn mynd law yn llaw.