Macsen a ddywedodd:Dwi'n anghytuno y gall dysgu unrhywbeth am y byd 'ddal y meddwl yn ol'. Dyw rhoi sensor ar bethau ddim yn helpu neb - mae hynny'n fwy nodweddiadol o agwedd yr oesoedd dywyll nag ydyw crefydd. Beth sydd ei angen yw dysgu plant am grefydd a'r dewisiadau eraill hefyd.
Cofia Macsen, fe ddywedais:
Duw a ddywedodd:gwnes i ddim dweud na ddyle crefyddau gael ei astudio fel pwnc, yn sicr rhywbeth bwysig, dyniaethol yw hyn.
Mae astudio crefydd a'r rhesymau pam mae pobl yn credu mewn pethau arbennig yn bwysig. Mae astudio crefydd fel pwnc nid yn unig yn ddiddorol ond yn agor yr ymennydd i syniadau ar dardd bywyd ei hun. Mae hwn yn hollol wahanol i stwffio crefydd arbennig lawr llwnc plentyn.
Macsen a ddywedodd:Dyna sut mae rhyddhau eu meddyliau a caniatau iddyn nhw wneud penderfyniad gwybodus eu hunain. Mae'n ofnadwy o drahaus i feddwl bod gyda ni'r holl atebion a na ddylai'r cenhedlaeth nesaf gael y siawns i ystyried yr holl dystiolaeth drostyn nhw'u hunain.
Cred e neu beidio, dwi cytuno'n llwyr gyda ti - hoffwn weld unigolion yn gwneud penderfyniad teg ar y dystiolaeth o'u blaen. Yn anffodus, nid yw crefydd yn caniatau hyn - mae wedi seilio ar ffydd - sydd yn aml yn hedfan mewn gwyneb tysiolaeth, e.e. y model helioganolog. Dwi'n aml yn datgan nid oes gennym (pobl crefyddol na gwyddonwyr) yr atebion i bopeth. Mae gennym fodelau sy'n ein helpu i ddisgrifo'r byd a'r bydysawd hyd at hyn. Yn sicr bydd gwell ddamcaniaethau yn dilyn Einsteins, Dawkins' a Hawkins' newydd y dyfodol.
Macsen a ddywedodd: Duw a ddywedodd:Mae dôp, heroin a chocain wedi fy ngwneud yn hapusach ond ni fyddwn yn meddwl bod y rhain yn peth da i roi i blant.
Cymhariaeth wallus mae arna'i ofn. Dyw crefydd ddim yn llygru corff rywun fel y mae cyffuriau.
Efallai, ond seicoleg yw'r hyn yr oeddwn yn cyfeirio ato. Felly o gymharu hyn, nid wyf yn gweld ei fod mor wallus. Mae tystiolaeth bod dilyn crefydd yn rhyddhau cemegau arbennig (e.e. serotonin/5-hydroscitryptamin a noradrenalin) yn yr ymennydd sy'n cael effaith yn debyg i gyffuriau seicotropig.
Macsen a ddywedodd: Duw a ddywedodd:Wrth i fodau dynol ddatblygu/esblygu rydym wedi dod yn llai ofergoelus os unrhyw beth. Nac oes perygl wrth wthio ofergoel ar blant felly?
Pam? Os wyt ti'n meddwl bod anffyddiaeth yn ganlyniad naturiol o esblygiad dwi'n siwr gall y cenhedlaethau nesaf edrych ar eu hol eu hunain.
Cywir os oeddent yn rhydd i wneud penderfyniadau eu hunain. Ond 'dyn nhw ddim. Eto, dyma'r pwynt. Mae sawl crefydd yn crynu pob tro bod datblygiad newydd mewn meysydd gwyddonol, erydu eu gafael neu powerbase yn bellach. Yr ateb yw gwadu neu (gwaeth byth) ceisio a chyplysu'r ddamcaniaeth gydag ysgrythur (e.e. Intelligent Design - shambles llwyr, dwi ddim yn meddwl bydd y Bible Belt byth yr un peth ar ol yr embaras hwnnw).
And another thing!! Rooney - ble ddiawl mae e?