ceribethlem a ddywedodd:Os wyt ti ishe neud pethe lan, yna croeso. Os wyt ti am ddarllen beth dwi wedi ei ddweud, yna dweud nad yw llygad dyst yn cael ei gydnabod fel tystiolaeth hollol ddibynadwy ydw i. Wrth gwrs fod llygad dyst yn dystiolaeth, ond nid dyna fy mhwynt ife?
mae'r llygad dyst yn cael ei gwestiynu a'i groes-gwestiynu
mae'r llygad dyst yn gwybod os yw'n dweud celwydd fod hynny'n drosedd ddifrifol
mae'r llygad dyst yn tyngu llw ac yn gaddo dweud y gwir
mae'r dystiolaeth ond yn ddi-werth os yw'r llygad dyst yn dweud celwydd
mae'n dystiolaeth bwerus iawn
ddim yn deall dy bwynt o gwbl