Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydych chi'n cytuno bod codi plant mewn crefydd yn gyfwerth â chamdrinaieth

Ydw
7
27%
Nac ydw
19
73%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 26

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan ceribethlem » Gwe 21 Maw 2008 2:49 am

rooney a ddywedodd:wyt ti'n dal i wadu fod tystiolaeth? Mae yna dystiolaeth. Mae'r testament newydd yn rhoi i ni tystiolaeth llygad-dystion fod Crist wedi atgyfodi. Mae tystiolaeth llygad-dystion i'w gymryd o ddifri ac yn hynod o bwerus, yn ddigon i roi pobl mewn carchar.
Ac mae'n syndod faint ohonyn nhw sydd wedi cael eu carcharu ar gam. Mae llygad dystion yn adnabyddus o fod yn wan iawn fel tystiolaeth.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan Hen Rech Flin » Gwe 21 Maw 2008 4:58 am

Rwyf yn Gristion oherwydd bod y dystiolaeth sydd gennyf fod Yr Arglwydd Iesu Grist yn waredwr imi yn ddigon da i mi. Hwyrach nad yw yn ddigon da i berswadio aelodau eraill o'r Maes, ond mae'n ddigonol imi.

Oherwydd fy mod yn Gristion mae fy mhlant yn cael eu magu mewn tŷ lle mae'r penteulu yn arddel Cristionogaeth ac yn clodfori rhagoriaethau'r ffydd Gristionogol ac yn eu dysgu am Gristionogaeth trwy esiampl, barn, hyd yn oed rhagfarn. Ydy'r fath beth yn greulondeb? Nac ydy'n amlwg, mae'n rhan naturiol o fod yn aelod o deulu.

Pe bawn yn gefnogwr brwd o dîm bel droed, neu blaid wleidyddol byddwn yn dylanwadu ar fy mhlantos yn yr un modd. A'i greulondeb yw enwi dy gyntaf anedig yn Rooney, ei wisgo yn goch, ei annog i wylio pob gem Man U ar y teledu ac i wneud pererindodau achlysurol i'r ochor gywir o Fanceinion?

A'i greulondeb yw gosod posteri plaid ar y car sy'n tywys dy blantos i'r ysgol adeg etholiad? Mynd a nhw gyda thi i rali neu brotest dros yr hyn yr wyt yn credu? Dweud dy ddweud ar un rhyw fater ar Maes-e pan fo modd i'r plentyn ddarllen dy sylwadau a chael ei ddylanwadu gan byst Dad neu Mam?

Y gwir greulondeb bydda fagu plentyn ar aelwyd "sterile" lle mae gan riant ofn mynegi barn ar unrhyw bwnc rhag "dylanwadu yn annheg" ar y plentyn, a chreu plentyn di-farn yn y broses.

Wedi dweud hyn rhaid peidio â gochel rhag y ffaith bod yna plant sy'n cael eu cam-drin yn y byd oherwydd eu bod yn anghytuno a barn grefyddol a / neu wleidyddol eu rhieni. Prin ei fod yn digwydd yng Ngwledydd Prydain ond mae yna blant o bob crefydd sydd yn cael eu taflu allan o ochel eu teuluoedd, hyd yn oed yn cael eu lladd, am ymwrthod a barn grefyddol eu rhieni (gan gynwys Bible Belt yr UDA) - mae hynny, yn amlwg yn gamdriniaeth!
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan rooney » Gwe 21 Maw 2008 1:55 pm

ceribethlem a ddywedodd:Ac mae'n syndod faint ohonyn nhw sydd wedi cael eu carcharu ar gam. Mae llygad dystion yn adnabyddus o fod yn wan iawn fel tystiolaeth.

ble mae dy dystiolaeth fod llygad-dystion yn dystiolaeth "gwan" na ellir dibynnu arno? Ymddengys dy fod yn anghytuno'n llwyr gyda agweddau sylfaenol ein system cyfiawnder

mae llygad-dystion celwyddog yn euog o anudoniaeth, sydd yn drosedd ddifrifol
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan rooney » Gwe 21 Maw 2008 2:27 pm

Neges wych gan Hen Rech Flin.

Y gwir greulondeb bydda fagu plentyn ar aelwyd "sterile" lle mae gan riant ofn mynegi barn ar unrhyw bwnc rhag "dylanwadu yn annheg" ar y plentyn, a chreu plentyn di-farn yn y broses.

Hoffwn gytuno a rhannu pwyntiau eraill i'w ystyried fan hyn. Yn gyntaf, myth yw fod posib creu plant ddi-farn niwtral ac fod anffyddiaeth/seciwlariaeth yn mynd i greu y fath blentyn. Mae plant gan rieni anffyddiol/seciwlar gyda bydolwg a barn ar lawer o bethau sydd wedi deillio o ddylanwad eu rhieni. Does dim ffasiwn beth a bydolwg niwtral. Credaf fod rhoi gwacdod i blentyn a'i annog i benderfynnu popeth dros ei hun yn beth anghyfrifol ac yn gwneud cam a'r plentyn. Hyn oherwydd fod plant a phobl ifanc wedyn gyda'r potensial i ddisgyn am unrhyw ffilosoffi neu ideoleg sydd yn apelio- does dim rheswm i dybio y byddai rhain yn ideolegau cariadus, cyfiawn, gyda parch at eraill mewn cymdeithas ayyb

Mae'n ryddid sylfaenol yn ein cymdeithas i ganiatau rhieni rannu eu gwerthoedd gyda'u plant. Mae'r comiwnyddion di-Dduw yn fy mrawychu, gan mae nhw'n casau rhyddid a theulu. Eu duw nhw yw y wladwriaeth, ac mae nhw'n crefu pwer a pan mae nhw'n gael e mae nhw'n orthrymus ac anghyfiawn dros ben i'r rheiny sydd yn ymwrthod a gwerthoedd y wladwriaeth.

Mae'r teulu a'u rhyddid nhw i rannu eu gwerthoedd gyda'u plant (crefydd yn ran enfawr o hyn) yn fygythiad ac yn rwystredigaeth i uchelgais y wladwriaeth o gael pwer absoliwt dros y bobl. Mor bell yw eu ideoleg nhw gyda'r bydolwg Gristnogol. Mae Cristnogaeth a rhyddid yn mynd law yn llaw.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan ceribethlem » Gwe 21 Maw 2008 2:29 pm

rooney a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Ac mae'n syndod faint ohonyn nhw sydd wedi cael eu carcharu ar gam. Mae llygad dystion yn adnabyddus o fod yn wan iawn fel tystiolaeth.

ble mae dy dystiolaeth fod llygad-dystion yn dystiolaeth "gwan" na ellir dibynnu arno? Ymddengys dy fod yn anghytuno'n llwyr gyda agweddau sylfaenol ein system cyfiawnder

mae llygad-dystion celwyddog yn euog o anudoniaeth, sydd yn drosedd ddifrifol

Dwi ddim yn siarad am celwyddgwn. Mae'r heddlu'n cydnabod fod llygad-dystion yn dystiolaeth gwan iawn. Dyna pam maent yn chwilio am dystiolaeth arall megis tystiolaeth fforensig. Fi ddim yn gweld sut mae hynny anghytuno gyda sylfaenol ein system cyfiawnder "Di-euog tan profir yn euog". Dwi heb glywed am unrhyw achos llys lle cafodd unigolyn ei ddedfrydu ar sail llygad dyst yn unig, mae llawer o dystiolaeth cadarnach yn cael ei ddefnyddio.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan rooney » Gwe 21 Maw 2008 2:40 pm

ceribethlem a ddywedodd:Dwi ddim yn siarad am celwyddgwn. Mae'r heddlu'n cydnabod fod llygad-dystion yn dystiolaeth gwan iawn. Dyna pam maent yn chwilio am dystiolaeth arall megis tystiolaeth fforensig. Fi ddim yn gweld sut mae hynny anghytuno gyda sylfaenol ein system cyfiawnder "Di-euog tan profir yn euog". Dwi heb glywed am unrhyw achos llys lle cafodd unigolyn ei ddedfrydu ar sail llygad dyst yn unig, mae llawer o dystiolaeth cadarnach yn cael ei ddefnyddio.

ceribach, mae dy fyd ar ben i lawr cyn gymaint fel fod hi'n anodd gwybod lle i ddechrau
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan ceribethlem » Gwe 21 Maw 2008 2:43 pm

Patronising, neis. Methu meddwl am ateb?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan rooney » Gwe 21 Maw 2008 2:48 pm

ceribethlem a ddywedodd:Patronising, neis. Methu meddwl am ateb?

mae'n anodd gwybod lle i ddechrau gyda unigolyn sydd gyda bydolwg mor ar ben-i-lawr o'r arferol

yn amlwg nid wyt yn cysidro tystiolaeth llygad-dyst fel tystiolaeth
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan sian » Gwe 21 Maw 2008 2:51 pm

rooney a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:ceribach, mae dy fyd ar ben i lawr cyn gymaint fel fod hi'n anodd gwybod lle i ddechrau

Cer nôl i'r gwely ceribach :?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan ceribethlem » Gwe 21 Maw 2008 2:52 pm

rooney a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Patronising, neis. Methu meddwl am ateb?

mae'n anodd gwybod lle i ddechrau gyda unigolyn sydd gyda bydolwg mor ar ben-i-lawr o'r arferol

yn amlwg nid wyt yn cysidro tystiolaeth llygad-dyst fel tystiolaeth

Os wyt ti ishe neud pethe lan, yna croeso. Os wyt ti am ddarllen beth dwi wedi ei ddweud, yna dweud nad yw llygad dyst yn cael ei gydnabod fel tystiolaeth hollol ddibynadwy ydw i. Wrth gwrs fod llygad dyst yn dystiolaeth, ond nid dyna fy mhwynt ife?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron