Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydych chi'n cytuno bod codi plant mewn crefydd yn gyfwerth â chamdrinaieth

Ydw
7
27%
Nac ydw
19
73%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 26

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan Duw » Mer 19 Maw 2008 10:24 pm

Macsen a ddywedodd:Dwi'n anghytuno y gall dysgu unrhywbeth am y byd 'ddal y meddwl yn ol'. Dyw rhoi sensor ar bethau ddim yn helpu neb - mae hynny'n fwy nodweddiadol o agwedd yr oesoedd dywyll nag ydyw crefydd. Beth sydd ei angen yw dysgu plant am grefydd a'r dewisiadau eraill hefyd.


Cofia Macsen, fe ddywedais:

Duw a ddywedodd:gwnes i ddim dweud na ddyle crefyddau gael ei astudio fel pwnc, yn sicr rhywbeth bwysig, dyniaethol yw hyn.


Mae astudio crefydd a'r rhesymau pam mae pobl yn credu mewn pethau arbennig yn bwysig. Mae astudio crefydd fel pwnc nid yn unig yn ddiddorol ond yn agor yr ymennydd i syniadau ar dardd bywyd ei hun. Mae hwn yn hollol wahanol i stwffio crefydd arbennig lawr llwnc plentyn.

Macsen a ddywedodd:Dyna sut mae rhyddhau eu meddyliau a caniatau iddyn nhw wneud penderfyniad gwybodus eu hunain. Mae'n ofnadwy o drahaus i feddwl bod gyda ni'r holl atebion a na ddylai'r cenhedlaeth nesaf gael y siawns i ystyried yr holl dystiolaeth drostyn nhw'u hunain.


Cred e neu beidio, dwi cytuno'n llwyr gyda ti - hoffwn weld unigolion yn gwneud penderfyniad teg ar y dystiolaeth o'u blaen. Yn anffodus, nid yw crefydd yn caniatau hyn - mae wedi seilio ar ffydd - sydd yn aml yn hedfan mewn gwyneb tysiolaeth, e.e. y model helioganolog. Dwi'n aml yn datgan nid oes gennym (pobl crefyddol na gwyddonwyr) yr atebion i bopeth. Mae gennym fodelau sy'n ein helpu i ddisgrifo'r byd a'r bydysawd hyd at hyn. Yn sicr bydd gwell ddamcaniaethau yn dilyn Einsteins, Dawkins' a Hawkins' newydd y dyfodol.

Macsen a ddywedodd: Duw a ddywedodd:Mae dôp, heroin a chocain wedi fy ngwneud yn hapusach ond ni fyddwn yn meddwl bod y rhain yn peth da i roi i blant.


Cymhariaeth wallus mae arna'i ofn. Dyw crefydd ddim yn llygru corff rywun fel y mae cyffuriau.


Efallai, ond seicoleg yw'r hyn yr oeddwn yn cyfeirio ato. Felly o gymharu hyn, nid wyf yn gweld ei fod mor wallus. Mae tystiolaeth bod dilyn crefydd yn rhyddhau cemegau arbennig (e.e. serotonin/5-hydroscitryptamin a noradrenalin) yn yr ymennydd sy'n cael effaith yn debyg i gyffuriau seicotropig.

Macsen a ddywedodd: Duw a ddywedodd:Wrth i fodau dynol ddatblygu/esblygu rydym wedi dod yn llai ofergoelus os unrhyw beth. Nac oes perygl wrth wthio ofergoel ar blant felly?


Pam? Os wyt ti'n meddwl bod anffyddiaeth yn ganlyniad naturiol o esblygiad dwi'n siwr gall y cenhedlaethau nesaf edrych ar eu hol eu hunain.


Cywir os oeddent yn rhydd i wneud penderfyniadau eu hunain. Ond 'dyn nhw ddim. Eto, dyma'r pwynt. Mae sawl crefydd yn crynu pob tro bod datblygiad newydd mewn meysydd gwyddonol, erydu eu gafael neu powerbase yn bellach. Yr ateb yw gwadu neu (gwaeth byth) ceisio a chyplysu'r ddamcaniaeth gydag ysgrythur (e.e. Intelligent Design - shambles llwyr, dwi ddim yn meddwl bydd y Bible Belt byth yr un peth ar ol yr embaras hwnnw).

And another thing!! Rooney - ble ddiawl mae e?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan Chickenfoot » Iau 20 Maw 2008 1:37 am

Kez a ddywedodd:
Chickenfoot a ddywedodd:Roonster Roonster. Why for art thou, Roonster?


le ma Rooney - wi'n ei golli fe 'fyd. Ma'r edefyn 'ma reit lan ei stryd e. Dyw petha ddim yr un fath hebddo fe :(


Pwy sydd am ein hachub o damnation tragwyddol rwan? Mae'r Roonster fel Flash Gordon efengylaidd.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan rooney » Iau 20 Maw 2008 10:12 am

Duw a ddywedodd:Mae plant yn fodau hygoelus ac yn derbyn yr hyn rydym yn ei ddweud wrthynt. Sion Corn, y Tylwyth Teg ... Duw! Er ein bod yn eu codi gyda'r celwydd hyn, gallwn eu cyfiawnhau gan eu bod yn cyfoethogi eu plentyndod gyda hud a llanw eu bywydau bregus gyda rhyfeddod.


Rwy'n gwled dy fod, fel dy arwr Dawkins, yn hoff iawn o gymharu Duw gyda tylwyth teg neu sion corn. Mae hyn yn gymhariaeth gwbl hurt. Faint o oedolion sydd yn dechrau credu yn y tylwyth teg neu sion corn? Pam wyt ti'n meddwl mae oedolion yn dechrau credu yn Iesu?

Duw yw creawdwr yr holl fydysawd, nid creadur bychan honedig o fewn y bydysawd yw. Am ryw reswm, mae anffyddwyr yn treulio amser rhyfeddaf yn gwadu ac ymosod ar Dduw, rhywbeth mae nhw'n honni sydd ddim yn bodoli. Does gen ti ddim tamaid o dystiolaeth i honni fod bodolaeth Duw yn "gelwydd".

Os ti'n mynnu, caria mlaen i gredu fod popeth ni'n weld o'n cwmpas wedi dod o ddim, am ddim rheswm na phwrpas, ac fod gen ti epa ac nid Adda yn dy orffenol. Wedi'r cyfan mae cred ffals fel hynny yn gyfleus iawn, mae'n golygu gallu bod yn gwbl hunan-gyfiawn gan wedi'r cyfan mewn byd anffyddiol yr unigolyn sydd yn penderfynnu'r rheolau a dim atebolrwydd i neb ond ti dy hun. Dim gorfod meddwl am eraill o gwbl, ddim anghenraid o roi amser na cheiniog tuag at addoldy nac elusen. Ysgubo materion moesol anodd dan y mat.

Pan fydd yr amser yn dod, maen nhw'n barod i dderbyn taw ffuglen yn unig yw Sion Corn a'r Tylwyth Teg - ond beth am Ef? Rydym yn eu dychryn gyda goblygiad peidio â chredu ac mae rhai yn mynd mor bell a'u gwadu os ydynt yn mentro cwestiynnu bodolaeth yr Arglwydd. Rydym wedi gweld bod dim angen crefydd ar gyfer codi plant â moesau cyffredinol.


oes rhywun wedi rhoi gwn yn dy ben i dy orfodi i gredu yn Iesu?
o ble mae anffyddwyr yn cael eu moesau? beth yw "moesau cyffredinol", pwy sydd yn penderfynnu beth yw nhw ac os yw nhw'n dderbyniol? ti, mae'n siwr? pam fod moesau ti'n fwy cywir na moesau unrhywun arall, ac yn ol pwy?

Na ddylai fod cyfyngiad oedran ar grefydd? Neb i orfodi crefydd ar blentyn nes ei fod digon hen i wneud ei feddwl ei hun i fyny (e.e. 18). A ydy'n gywir i orfodi plentyn diniwed i fod yn gaeth i ryw ddogma arbennig? Anoddefiad tuag at bobl hoyw a phobl o wahanol ffydd neu enwad, bedyddio plentyn cyn bod modd iddo wneud y dewis dros ei hun, ayyb. A ddylai'r llywodraeth wahardd crefydd ar gyfer ein ieuenctid? Neu a ydyw'n syniad hurt, rhag ofn i'r darpar oedolion ddarganfod y gwirionedd dros eu hunain a sicrhau bod crefydd yn syrthio o'r golwg?


yr wyt mae'n debyg eisiau i'r wladwriaeth fod yn gyfrifol am bob agwedd o fywyd unigolyn, ac felly'n tynnu ffwrdd rhyddid oddi wrth unigolion a theuluoedd. Mae'r syniad o wahardd dylanwad Crist ar ein ieuenctid yn y gymdeithas sydd ohoni yn un gwbl anghyfrifol a hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 20 Maw 2008 3:05 pm

Swn i'n talu i weld y Roonster yn paffio efo Timothy Dalton ar rotating disc mewn coedwig.

HOT HAIL!! HOT HAIL!!

Dun dun dun dun dun dun dun dun dun. Roonster - A-AAH. Saved every one of us.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan Chickenfoot » Iau 20 Maw 2008 3:11 pm

"DESPATCH WAR ROCKET DAWKINS TO BRING BACK HIS BODY!"
"ROONEY'S ALIVE?"
"ROONEY I LOVE YOU! BUT WE ONLY HAVE 14 HOURS TO CONDEMN ALL HOMOSEXUALS!"
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan Duw » Iau 20 Maw 2008 5:35 pm

Atgofodiad! Croeso nol Rooney. Ble ti wedi bod? Nawr dyma beth dwi'n galw rant! CHwarae teg
rooney a ddywedodd:Faint o oedolion sydd yn dechrau credu yn y tylwyth teg neu sion corn? Pam wyt ti'n meddwl mae oedolion yn dechrau credu yn Iesu?

Cnoc ar y pen? Mae sawl oedolyn dwi'n a'bod yn credu mewn lot o bethe hurt, er pan fyddant yn dweud hyn, cant eu cloi lan.
rooney a ddywedodd:Does gen ti ddim tamaid o dystiolaeth i honni fod bodolaeth Duw yn "gelwydd".
Does dim tamaid o dystiolaeth i honni fod bodolaeth Dyw yn wir ychwaith. Rwyt yn swnio fel rhywun o'r X-Files:
The absence of evidence is not proof of absence.
Wel sori, tan bo tystiolaeth does dim sail i dy grefydd. Enw Duw yw Gocen, mae'n byw mewn coeden enfawr yn y 5ed dimensiwn ac mae'n cachu Brains Dark chunky. Alla i wneud unrhyw beth lan, galw e'n grefydd a gwnaiff pobl fy nilyn. Ddim yn fy nhredu? Rho shwffti cyflym ar google a gei di weld yr holl nyters.
rooney a ddywedodd:caria mlaen i gredu fod popeth ni'n weld o'n cwmpas wedi dod o ddim, am ddim rheswm na phwrpas, ac fod gen ti epa ac nid Adda yn dy orffenol. Wedi'r cyfan mae cred ffals fel hynny yn gyfleus iawn, mae'n golygu gallu bod yn gwbl hunan-gyfiawn gan wedi'r cyfan mewn byd anffyddiol yr unigolyn sydd yn penderfynnu'r rheolau a dim atebolrwydd i neb ond ti dy hun. Dim gorfod meddwl am eraill o gwbl, ddim anghenraid o roi amser na cheiniog tuag at addoldy nac elusen. Ysgubo materion moesol anodd dan y mat.

Iesgyrn Dafydd, rywt wedi colli'r plot yn llwyr nawr Rooney. Ble affar gest ti'r syniade hyn? Wyt ti ar gyffurie? Mae gen i epa yn f'orffennol oherwydd bod TYSTIOLAETH ynglyn a'r peth. Nid yw'r ddamcaniaeth yn berffaith, ond mae'n gweithio. Yn sicr bydd mwy o ddarganfyddiadau cyn bo hir yn dangos sawl cyswllt rhyngol. "Hunan-gyfiawn", fi? Falle bo ti'n reit fanna - jyst fi yw hwnna, big-headed b******, dim byd i wneud gyda'r ffaith fy mod yn anffyddiwr, ond beth am tithe, siarad gydag awdurdod Efe Ei Hun. Ers pryd wnest di edrych dros f'ysgwydd i weld faint o arian rhoddes i i Gancr y Fron, Joshua Foundation, Clefyd y Galon a sawl un arall dros y flwyddyn ddiwethaf. Rhag dy gywilydd Rooney, mae hwnna'n ddadl hurt. Dwi'n ddynol yn gyntaf, anffyddiwr (eithafol efallai) yn ail. Nid yw materion moesol yn rhywbeth rwyt ti Rooney ag unrhyw hawl i bregethu arnynt. Rwyf wedi dadlau gyda ti ar sawl edefyn ac mae dy barodrwydd i ladd pobl yna i bawb cael gweld, fel mae fy sylwadau i.
rooney a ddywedodd:Mae'r syniad o wahardd dylanwad Crist ar ein ieuenctid yn y gymdeithas sydd ohoni yn un gwbl anghyfrifol a hurt.
Reli? Efallai hurt ond nid anghyfrifol, ac yna dim ond hurt oherwydd y realiti o ba mor anodd bydde hi i geisio ag atal pobl (fel ti?) i godi plant mewn crefydd.

P.S. Efalle bo hyn yn bersonol Rooney, ond beth fyddet yn gwneud os, ar ol dy holl addysgu a gweddio, bod dy blentyn yn troi mas i fod yn hoyw? Reli, hoffwn wybod. A fydde'n cael ei g/ch-ondemio gennyt ti a dy Dduw? Ac oes nac oedd yn hoyw, byddet yn ei g/ch-odi i gondemio pobl hoyw yn ol dy gred?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan rooney » Iau 20 Maw 2008 6:13 pm

Duw a ddywedodd:Cnoc ar y pen? Mae sawl oedolyn dwi'n a'bod yn credu mewn lot o bethe hurt, er pan fyddant yn dweud hyn, cant eu cloi lan.


ble mae dy dystiolaeth? wyt ti'n awgrymu dylid cloi lan oedolion sydd yn credu yn Iesu?

The absence of evidence is not proof of absence. Wel sori, tan bo tystiolaeth does dim sail i dy grefydd.


Wrth gwrs fod yna dystiolaeth, dyna pam fod pobl yn credu OHERWYDD y dystiolaeth. Yr wyt yn dweud celwydd fod ddim tystiolaeth- pam?

Enw Duw yw Gocen, mae'n byw mewn coeden enfawr yn y 5ed dimensiwn ac mae'n cachu Brains Dark chunky. Alla i wneud unrhyw beth lan, galw e'n grefydd a gwnaiff pobl fy nilyn. Ddim yn fy nhredu? Rho shwffti cyflym ar google a gei di weld yr holl nyters.


cer amdani, rho'r peth i'r prawf


rooney a ddywedodd:Mae gen i epa yn f'orffennol oherwydd bod TYSTIOLAETH ynglyn a'r peth.


fel beth? fedri di ddim profi o gwbl fod epaod yn dy orffenol. Mae gen ti lot o ffydd.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan Duw » Iau 20 Maw 2008 7:16 pm

rooney a ddywedodd:wyt ti'n awgrymu dylid cloi lan oedolion sydd yn credu yn Iesu?

Nid cloi lan ond efalle bod angen help anyn nhw!

rooney a ddywedodd:The absence of evidence is not proof of absence. Wel sori, tan bo tystiolaeth does dim sail i dy grefydd.

Wrth gwrs fod yna dystiolaeth, dyna pam fod pobl yn credu OHERWYDD y dystiolaeth. Yr wyt yn dweud celwydd fod ddim tystiolaeth- pam?


Sori Rooney, pa dystiolaeth? Ble? Mae tystiolaeth yn wybodaeth sydd ar gael i bawb i'w dadansoddi. Nid yw tystiolaeth yn rhywbeth "personol". Dylai dadansoddiad pawb o'r dystiolaeth fod yn gyson a dim ond y "dehongliad" sy'n bersonol. Nid celwydd - fy nhehongliad o'r dystiolaeth sydd (quite frankly) ddim yn bodoli. Mae llawer yn credu OHERWYDD bod rhyw berson mewn awdurdod yn dweud wrthynt taw dyna sut mae. Defaid (neu wyn) yn dilyn. Sef fy mhwynt unwaith eto am blant (neu bobl gullible).

rooney a ddywedodd:Enw Duw yw Gocen, mae'n byw mewn coeden enfawr yn y 5ed dimensiwn ac mae'n cachu Brains Dark chunky. Alla i wneud unrhyw beth lan, galw e'n grefydd a gwnaiff pobl fy nilyn. Ddim yn fy nhredu? Rho shwffti cyflym ar google a gei di weld yr holl nyters.

cer amdani, rho'r peth i'r prawf

Stim yn rhaid i mi, mae'r tystiolaeth mas na i bawb cael gweld - David Koresh, Jim Jones, Rev. Moon, Abdul Hanza ...

rooney a ddywedodd:rooney a ddywedodd:
Mae gen i epa yn f'orffennol oherwydd bod TYSTIOLAETH ynglyn a'r peth.

fel beth? fedri di ddim profi o gwbl fod epaod yn dy orffenol. Mae gen ti lot o ffydd.

Wyt ti'n dweud bod yr holl dystiolaeth o esblygiad yn ffuglen llwyr? Wyt ti wedi astudio'r maes neu dyna dy ffydd "ddall" yn gwadu'r peth? A fydde ti wedi condemio Copernicus a Galileo hefyd?

Gwna ffafr i mi Rooney, dwi pob amser yn ateb cwestiynau sy'n dod ger bron, cystal a bod modd, ateba'r cwestiwn a roddaist i ti:

Duw a ddywedodd:Efalle bo hyn yn bersonol Rooney, ond beth fyddet yn gwneud os, ar ol dy holl addysgu a gweddio, bod dy blentyn yn troi mas i fod yn hoyw? Reli, hoffwn wybod. A fydde'n cael ei g/ch-ondemio gennyt ti a dy Dduw? Ac oes nac oedd yn hoyw, byddet yn ei g/ch-odi i gondemio pobl hoyw yn ol dy gred?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan rooney » Iau 20 Maw 2008 11:43 pm

Duw a ddywedodd:Sori Rooney, pa dystiolaeth? Ble? Mae tystiolaeth yn wybodaeth sydd ar gael i bawb i'w dadansoddi. Nid yw tystiolaeth yn rhywbeth "personol". Dylai dadansoddiad pawb o'r dystiolaeth fod yn gyson a dim ond y "dehongliad" sy'n bersonol. Nid celwydd - fy nhehongliad o'r dystiolaeth sydd (quite frankly) ddim yn bodoli. Mae llawer yn credu OHERWYDD bod rhyw berson mewn awdurdod yn dweud wrthynt taw dyna sut mae. Defaid (neu wyn) yn dilyn. Sef fy mhwynt unwaith eto am blant (neu bobl gullible).


wyt ti'n dal i wadu fod tystiolaeth? Mae yna dystiolaeth. Mae'r testament newydd yn rhoi i ni tystiolaeth llygad-dystion fod Crist wedi atgyfodi. Mae tystiolaeth llygad-dystion i'w gymryd o ddifri ac yn hynod o bwerus, yn ddigon i roi pobl mewn carchar.
Rwyf wrthi'n darllen llyfr "the case for Christ" gan Lee Strobel. Yr oedd ef yn anffyddiwr, yn newyddiadurwr, ac wedi penderfynnu archwilio mewn i'r dystiolaeth dros yr honiadau ynglyn a bywyd ac atgyfodiad Iesu. Efallai llyfr bydde o ddiddordeb i ti.

Gwna ffafr i mi Rooney, dwi pob amser yn ateb cwestiynau sy'n dod ger bron, cystal a bod modd, ateba'r cwestiwn a roddaist i ti:


mae'r pwnc yna werth edefyn ei hunan
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan Chickenfoot » Iau 20 Maw 2008 11:47 pm

Y Roonster wedi achub achub y dydd unwaith eto. Gall pawb fynd i gysgu rwan yn gwybod bod "King of The Improvable" wedi dychwelyd. :D :!:
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai

cron