Tudalen 5 o 8

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Gwe 21 Maw 2008 2:57 pm
gan rooney
ceribethlem a ddywedodd:Os wyt ti ishe neud pethe lan, yna croeso. Os wyt ti am ddarllen beth dwi wedi ei ddweud, yna dweud nad yw llygad dyst yn cael ei gydnabod fel tystiolaeth hollol ddibynadwy ydw i. Wrth gwrs fod llygad dyst yn dystiolaeth, ond nid dyna fy mhwynt ife?


mae'r llygad dyst yn cael ei gwestiynu a'i groes-gwestiynu
mae'r llygad dyst yn gwybod os yw'n dweud celwydd fod hynny'n drosedd ddifrifol
mae'r llygad dyst yn tyngu llw ac yn gaddo dweud y gwir
mae'r dystiolaeth ond yn ddi-werth os yw'r llygad dyst yn dweud celwydd
mae'n dystiolaeth bwerus iawn

ddim yn deall dy bwynt o gwbl

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Gwe 21 Maw 2008 2:58 pm
gan ceribethlem
rooney a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Os wyt ti ishe neud pethe lan, yna croeso. Os wyt ti am ddarllen beth dwi wedi ei ddweud, yna dweud nad yw llygad dyst yn cael ei gydnabod fel tystiolaeth hollol ddibynadwy ydw i. Wrth gwrs fod llygad dyst yn dystiolaeth, ond nid dyna fy mhwynt ife?


mae'r llygad dyst yn cael ei gwestiynu a'i groes-gwestiynu
mae'r llygad dyst yn gwybod os yw'n dweud celwydd fod hynny'n drosedd ddifrifol
mae'r llygad dyst yn tyngu llw ac yn gaddo dweud y gwir
mae'r dystiolaeth ond yn ddi-werth os yw'r llygad dyst yn dweud celwydd
mae'n dystiolaeth bwerus iawn

Sy'n bwyntiau hollol wahanol i'r un nes i.

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Gwe 21 Maw 2008 3:01 pm
gan rooney
ceribethlem a ddywedodd:
Sy'n bwyntiau hollol wahanol i'r un nes i.


just gwna dy bwynt, paid bod yn shy

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Gwe 21 Maw 2008 3:03 pm
gan ceribethlem
rooney a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
Sy'n bwyntiau hollol wahanol i'r un nes i.


just gwna dy bwynt, paid bod yn shy

:rolio:
fi a ddywedodd:nad yw llygad dyst yn cael ei gydnabod fel tystiolaeth hollol ddibynadwy

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Gwe 21 Maw 2008 3:16 pm
gan sian
Dw i'n deall pwynt ceribach :lol: Roeddwn i'n dyst mewn achos llys un tro ac ro'n i'n argyhoeddedig mod i wedi gweld rhywbeth ond fe brofwyd wedyn nad oeddwn i wedi gweld beth oe'n i'n feddwl mod i wedi'i weld. Ond fe ddaeth y boi off â hi wedyn run fath, diolch byth.

A faint o weithie wyt ti wedi dweud - "Swn i'n taeru mod i wedi rhoi hwnna'n fan'na' etc.

Dw i ddim yn cofio beth oedd dechrau'r drafodaeth yma am dystiolaeth ond os mai sôn am dystiolaeth o'r atgyfodiad ydyn ni, mae llyfr o'r enw Who Moved the Stone gan Frank Morison yn un da. Roedd wedi dechrau sgrifennu llyfr i wrthbrofi'r atgyfodiad ond wedi newid ei safbwynt yn llwyr wrth ei sgrifennu.

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Gwe 21 Maw 2008 3:18 pm
gan rooney
"nid yn hollol ddibynadwy" a "gwan iawn" :- rhain ddim yn gyfystyr
mae cryfder y dystiolaeth llygad-dyst yn dibynnu ar lawer o bethau e.e. integriti y llygad-dyst
mae'n dystiolaeth bwerus iawn, tystiolaeth allweddol i yrru pobl i garchar

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Gwe 21 Maw 2008 3:20 pm
gan ceribethlem
sian a ddywedodd: Dw i'n deall pwynt ceribach :lol: Roeddwn i'n dyst mewn achos llys un tro ac ro'n i'n argyhoeddedig mod i wedi gweld rhywbeth ond fe brofwyd wedyn nad oeddwn i wedi gweld beth oe'n i'n feddwl mod i wedi'i weld. Ond fe ddaeth y boi off â hi wedyn run fath, diolch byth.

A faint o weithie wyt ti wedi dweud - "Swn i'n taeru mod i wedi rhoi hwnna'n fan'na' etc.
Haleliwia. Diolch.

sian a ddywedodd:Dw i ddim yn cofio beth oedd dechrau'r drafodaeth yma am dystiolaeth ond os mai sôn am dystiolaeth o'r atgyfodiad ydyn ni, mae llyfr o'r enw Who Moved the Stone gan Frank Morison yn un da. Roedd wedi dechrau sgrifennu llyfr i wrthbrofi'r atgyfodiad ond wedi newid ei safbwynt yn llwyr wrth ei sgrifennu.

Digon teg, ond mae hynny'n ddadl gwahanol.

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Gwe 21 Maw 2008 3:22 pm
gan ceribethlem
rooney a ddywedodd:"nid yn hollol ddibynadwy" a "gwan iawn" :- rhain ddim yn gyfystyr
mae cryfder y dystiolaeth llygad-dyst yn dibynnu ar lawer o bethau e.e. integriti y llygad-dyst
mae'n dystiolaeth bwerus iawn, tystiolaeth allweddol i yrru pobl i garchar

Dyw e' ddim yn ddigonol ar ei hunan, mae angen mwy na llygad dyst yn unig.

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Gwe 21 Maw 2008 3:34 pm
gan rooney
ceribethlem a ddywedodd:Dyw e' ddim yn ddigonol ar ei hunan, mae angen mwy na llygad dyst yn unig.


yn wir, ac yn ol y safon Beiblaidd mae angen dau i dri tyst

2 Cor 13:1
1 Hwn fydd y trydydd tro i mi ymweld â chi.
"Rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir." (Deuteronium 19:15)

hefyd:-

Deuteronium 19:15-21
Witnesses
15 One witness is not enough to convict a man accused of any crime or offense he may have committed. A matter must be established by the testimony of two or three witnesses.
16 If a malicious witness takes the stand to accuse a man of a crime, 17 the two men involved in the dispute must stand in the presence of the LORD before the priests and the judges who are in office at the time. 18 The judges must make a thorough investigation, and if the witness proves to be a liar, giving false testimony against his brother, 19 then do to him as he intended to do to his brother. You must purge the evil from among you. 20 The rest of the people will hear of this and be afraid, and never again will such an evil thing be done among you. 21 Show no pity: life for life, eye for eye, tooth for tooth, hand for hand, foot for foot.

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Gwe 21 Maw 2008 4:07 pm
gan ceribethlem
rooney a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Dyw e' ddim yn ddigonol ar ei hunan, mae angen mwy na llygad dyst yn unig.


yn wir, ac yn ol y safon Beiblaidd mae angen dau i dri tyst

Efallai yn ol safon Beiblaidd dwy fil amwy o flynyddoedd yn ol. Dwi ddim yn credu byddai llys barn yn yr unfed ganrif ar hugain yn cyytuno a thi, er y byddai'n ddibynol ar y drosedd wrth gwrs.