Tudalen 8 o 8

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Llun 31 Maw 2008 10:14 pm
gan rooney
ceribethlem a ddywedodd:Ti wedi neud bwchad fan hyn rooney. Rwyt ti wedi dweud yn y gorffenol mai "micro-esblygu" wyt ti'n derbyn, nid "macro-esblygiad".


wps, spot dda ceri

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Maw 01 Ebr 2008 12:06 am
gan Muralitharan
rooney a ddywedodd:ceribethlem a ddywedodd:
Ti wedi neud bwchad fan hyn rooney. Rwyt ti wedi dweud yn y gorffenol mai "micro-esblygu" wyt ti'n derbyn, nid "macro-esblygiad".

wps, spot dda ceri


Felly, beth wyt ti'n ei gredu Rooney? Dim ond gofyn - er, wrth gwrs, tydi dim ond gofyn ddim wedi bod yn bolisis llwyddiannus i mi hyd yn hyn! Os oes gen ti eiliad i'w sbario, ella y byddet ti'n ddigon cwrtais, yn y traddodiad Cristnogol, i ateb fy nghwestiwn mewn edefyn arall. Go brin hefyd.

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Maw 01 Ebr 2008 12:12 am
gan rooney
Muralitharan a ddywedodd:Felly, beth wyt ti'n ei gredu Rooney? Dim ond gofyn - er, wrth gwrs, tydi dim ond gofyn ddim wedi bod yn bolisis llwyddiannus i mi hyd yn hyn! Os oes gen ti eiliad i'w sbario, ella y byddet ti'n ddigon cwrtais, yn y traddodiad Cristnogol, i ateb fy nghwestiwn mewn edefyn arall. Go brin hefyd.


rwy'n credu beth mae'r Beibl yn ei ddweud, gan mae beth ni'n ddisgwyl ei weld o'i ddarllen yn cael ei weld.

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Maw 01 Ebr 2008 8:40 am
gan Mr Gasyth
rooney a ddywedodd:
Muralitharan a ddywedodd:Felly, beth wyt ti'n ei gredu Rooney? Dim ond gofyn - er, wrth gwrs, tydi dim ond gofyn ddim wedi bod yn bolisis llwyddiannus i mi hyd yn hyn! Os oes gen ti eiliad i'w sbario, ella y byddet ti'n ddigon cwrtais, yn y traddodiad Cristnogol, i ateb fy nghwestiwn mewn edefyn arall. Go brin hefyd.


rwy'n credu beth mae'r Beibl yn ei ddweud, gan mae beth ni'n ddisgwyl ei weld o'i ddarllen yn cael ei weld.


alli di egluro ymhellach plis?

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Maw 01 Ebr 2008 10:26 am
gan Duw
rooney a ddywedodd:rwy'n credu beth mae'r Beibl yn ei ddweud, gan mae beth ni'n ddisgwyl ei weld o'i ddarllen yn cael ei weld.

Fel beth Rooney? Mae'r holl dystiolaeth yn erbyn yr hyn sydd yn y Beibl (wel os na'n erbyn, o blaid damcaniaethau eraill beth bynnag). Rwyt yn gwadu esblygiad (macro!), sydd a thoreth o dystiolaeth tu ol iddo, ond yn mynnu gwirionedd ysgrythur (heb UNRHYW dystiolaeth). Nid yw geiriau ar ddarn o bapur na rhywun yn gweiddi tan a brwmstan o'r pulpud yn dystiolaeth. Mae cymaint o'r Beibl wedi'i drefnu, er mwyn bod yn "gyfleus" mae'n anhygoel. Cymera'r T.N. - Y Rhufeiniaid a wnaeth benderfynu pa efengylau a oedd i'w cynnwys. Roedd llawer ohonynt yn gwrthddweud ei gilydd, a NHW wnaeth penderfynu'r "GWIR" (a plis, dim o'r nonsens yma o Duw yn eu harwain). Sori, doeddwn ddim am droi hwn i fod yn edefyn ar Gristnogaeth - mae gennyf broblem gyda phob ffydd. Os edrychwn ar ysgrythurau pob fydd, maent yn hollol hurt. Mae sawl crefydd wedi gwneud yn dda hyd at hyn i bara mor hir, ond yr un ffordd ag ewn nhw yn y diwedd fel crefyddau'r Groegwyr, Eifttiaid a'r Babiloniaid. Gallwn ddeall pam roedd pobl cyntefig yn glynu at eu duwiau oherwydd nad oedd gwybodaeth i law. Nawr bod gennym fodelau da, mae rhai dal yn edrych am yr ofergoelus i esbonio'u bodolaeth.

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

PostioPostiwyd: Maw 01 Ebr 2008 12:03 pm
gan Chickenfoot
Dw i'n teimlo fy mod i mewn peiriant golchi.