Tudalen 1 o 1

Pam na orffenwyd y bydysawd gyda marwolaeth Iesu?

PostioPostiwyd: Gwe 21 Maw 2008 10:39 pm
gan mabon-gwent
Fel cristion wi'n credu fod Duw wedi creu'r bydysawd fel tri - Tad, Mab ac Ysbryd Glân.

Felly pan lladdon ni Iesu, a doedd y Tad ddim yn gallu edrych ar ei fab yn cario'n pechaid, sut gallai'r byd para pan roedd ei awdur a chynhaliwr ym mor poen?

Roedd yr atgyfodiad yn wyrth, ond beth am farwolaeth Iesu. Roedd daeargrynfeydd a thywyllwch, ond dim gorffen i'r byd. Yn ei boen oedd Duw dal yn cynnal y byd.

Rhywbeth i feddwl amdano ar Wener y Groglith.

Re: Pam na orffenwyd y bydysawd gyda marwolaeth Iesu?

PostioPostiwyd: Sad 22 Maw 2008 8:55 am
gan Rhys Llwyd

Re: Pam na orffenwyd y bydysawd gyda marwolaeth Iesu?

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ebr 2008 9:45 am
gan gethin_aj
dwi'n meddwl mai dyna lle mae'n bwysig ystyried rol croeshoeliad Iesu yn hanes y byd.
pe bai marwolaeth Iesu yn rhywbeth nad oedd yn ran o gynllun Duw - rhyw ddamwain anffodus - am un peth, byddai Duw wedi gallu ei rwystro, ond pe na bai wedi cael ei rwystro, mae'n ddigon dealladwy sut y gallai lot mwy na deargryn a thywyllwch wedi digwydd.
ond gan mai y groes ydi canolbwynt hanes, yn wir gan mai'r groes oedd prif bwrpas creu'r byd, gallwn ddisgwyl i Dduw gynnal y byd drwy'r dyddiau hynny (yn union fel mae'n cynnal y byd bob dydd yn ei ras).