Cymedrolwr: Rhys Llwyd
sian a ddywedodd:Ydi hi'n bryd i'r edefyn yma ddod i ben?
ceribethlem a ddywedodd:Oes yna grwpiau atheist yn bodoli? Nid safbwynt o ffydd yw fod yn atheist os bosib, mater o ddiffyg ffydd ydyw nage fe? Mae'n ddigon posib fod y bobol yma yn cyfrannu'n helaeth mewn ffyrdd eraill. Wyt ti fel petaet yn meddwl am atheists fel rhyw grefydd sy'n cystadlu gyda dy grefydd di ydyw.
Ond nid dyna fy mhwynt ife rooneybach? Oes yna grwpiau atheist yn bodoli/ Mi wyt ti eisoes wedi fy nghyhuddo i o fod yn un, heb wybod dim am fy nghredoau crefyddol. Ydw i'n aelod o'r grwp atheist honedig yma felly?rooney a ddywedodd:ceribethlem a ddywedodd:Oes yna grwpiau atheist yn bodoli? Nid safbwynt o ffydd yw fod yn atheist os bosib, mater o ddiffyg ffydd ydyw nage fe? Mae'n ddigon posib fod y bobol yma yn cyfrannu'n helaeth mewn ffyrdd eraill. Wyt ti fel petaet yn meddwl am atheists fel rhyw grefydd sy'n cystadlu gyda dy grefydd di ydyw.
Mae cynnydd wedi bod yn ddiweddar mewn atheism ffwndamental, gyda awduron fel Dawkins, Hitchens ac eraill yn ymosod yn ffiaidd ar ffydd, yn enwedig Cristnogaeth. Honiadau yn cael eu gwneud fod gan ffydd ddim gwerth ac ei fod yn beth drwg, fod dysgu crefydd i blant yn eu camdrin ayyb. ac fod angen ei ddileu o gymdeithas. Mae llawer o'r agweddau anoddefgar yma wedi eu gweld ar maes-e.
Macsen a ddywedodd:Dyma edefyn gwirion. 'Mae fy ffydd i werth mwy i'r economi lleol na dy ddiffyg ffydd di, nyah nyah'.
Macsen a ddywedodd:Pwynt diddorol, ond un sydd a ddim byd i'w wneud efo'r edefyn yma (sydd ond yn gallu bod yn beth da), yw sut mae'r economi fyd eang yn ddibynol ar ffydd i'w gynnal. Er engraifft, petai gan bobol ddim fydd yn y farchnad stock, fydde fo'n crasho (fel sy'n digwydd rwan). Petai gan bobol ddim fydd bod y pres yn eu poced yn mynd i gael ei dderbyn gan y boi lawr y siop, fydde'r masnach yn mynd yn ffliwt!
Felly mae Rooney yn iawn mewn ffordd bod ffydd o les i'r eceonomi. Jesd ddim yn y ffordd mae'n meddwl ei fod o'n iawn.
Nanog a ddywedodd:Mae damweiniau ceir hefyd o bosib.....
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai