Tudalen 1 o 3

Ffydd: £100m (net) i Gymru

PostioPostiwyd: Sad 22 Maw 2008 4:51 pm
gan rooney
ymddiheuriadau am beidio cael gafael ar stori yn y Gymraeg
dyma dystiolaeth am werth economaidd ffydd i Gymru

http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/7289508.stm

"Religious and faith organisations contribute more than £100m in economic benefits to Wales, a report says. "

Re: Ffydd: £100m (net) i Gymru

PostioPostiwyd: Sul 23 Maw 2008 2:32 pm
gan huwwaters
Sori i swnio'n reit morbid ond ma damweinie ceir yn codi GDP gwlad hefyd, yn ogsytal a marwolaethau yn eu sgil.

Re: Ffydd: £100m (net) i Gymru

PostioPostiwyd: Sul 23 Maw 2008 2:47 pm
gan rooney
beth am i ti rannu'r dystiolaeth gyda ni i gefnogi'r honiad yna

wyt ti'n honni fod ffydd yr un mor ddinistrol i deuluoedd a chymdeithas a damweiniau car?

Proverbs 8:35-6
35 For whoever finds me finds life
and receives favor from the LORD.

36 But whoever fails to find me harms himself;
all who hate me love death."

Re: Ffydd: £100m (net) i Gymru

PostioPostiwyd: Sul 23 Maw 2008 6:40 pm
gan huwwaters
rooney a ddywedodd:beth am i ti rannu'r dystiolaeth gyda ni i gefnogi'r honiad yna

wyt ti'n honni fod ffydd yr un mor ddinistrol i deuluoedd a chymdeithas a damweiniau car?


Dim ond nodi rhywbeth arall sy'n helpu economi. Nai edrych am y dystiolaeth, ond tydio ddim yn cymyd genius i weld - crashio car ---> car newydd ---> cwmni yswiriant ---> premium uwch ---> fan AA yn dod allan ---> cytundebwyr i'r cyngor yn sgubor ffordd ---> funeral directors etc.

Re: Ffydd: £100m (net) i Gymru

PostioPostiwyd: Sul 23 Maw 2008 7:04 pm
gan Macsen
Mae'r diwydiant pornograffi yn gwneud biliynau. Bydd ymchwil stem-cell yn gwneud ffortiwn. Mae'r diwydiant arfau a rhyfel o fudd mawr i economi ein gwlad.

Dyw hynny ddim yn eu gwneud yn bethau da.

Re: Ffydd: £100m (net) i Gymru

PostioPostiwyd: Sul 23 Maw 2008 7:10 pm
gan Nanog
huwwaters a ddywedodd:Sori i swnio'n reit morbid ond ma damweinie ceir yn codi GDP gwlad hefyd, yn ogsytal a marwolaethau yn eu sgil.


Felly, mae damweinie ceir yn beth i'w croesawu? Beth am ryfel?

Macsen a ddywedodd:
rooney a ddywedodd:dyma dystiolaeth am werth economaidd ffydd i Gymru

So? Beth mae hyn yn ei brofi?


Fod ffydd o werth economaidd i Gymru. Darllena!

Re: Ffydd: £100m (net) i Gymru

PostioPostiwyd: Sul 23 Maw 2008 7:22 pm
gan huwwaters
Nanog a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:Sori i swnio'n reit morbid ond ma damweinie ceir yn codi GDP gwlad hefyd, yn ogsytal a marwolaethau yn eu sgil.


Felly, mae damweinie ceir yn beth i'w croesawu? Beth am ryfel?


Nes i fyth deud hwne. Achos ti ar y trywydd a'r unig beth sydd o ots yw neud pres, be am i ni gychwyn rhyfel arall?

Sdim on angen edrych ar Iraq ac Afghanistan i weld cymaint o bres sydd yn yr arms trade. Saudi Arabia yn arwyddo cytundeb o £28 biliwn am fighter jets. Ma'r brenin ddim am gadw nhw mewn garej, nadi?

Re: Ffydd: £100m (net) i Gymru

PostioPostiwyd: Sul 23 Maw 2008 7:28 pm
gan ceribethlem
Nanog a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:Sori i swnio'n reit morbid ond ma damweinie ceir yn codi GDP gwlad hefyd, yn ogsytal a marwolaethau yn eu sgil.


Felly, mae damweinie ceir yn beth i'w croesawu? Beth am ryfel?

Macsen a ddywedodd:
rooney a ddywedodd:dyma dystiolaeth am werth economaidd ffydd i Gymru

So? Beth mae hyn yn ei brofi?


Fod ffydd o werth economaidd i Gymru. Darllena!

Gwrthddweud braidd yn ddau bwynt fan hyn?

Re: Ffydd: £100m (net) i Gymru

PostioPostiwyd: Sul 23 Maw 2008 8:16 pm
gan rooney
£100m net gan y grwpiau ffydd.

Faint mae'r grwpiau atheist yn gyfrannu i'r economi?

Re: Ffydd: £100m (net) i Gymru

PostioPostiwyd: Sul 23 Maw 2008 8:20 pm
gan ceribethlem
rooney a ddywedodd:£100m net gan y grwpiau ffydd.

Faint mae'r grwpiau atheist yn gyfrannu i'r economi?

Oes yna grwpiau atheist yn bodoli? Nid safbwynt o ffydd yw fod yn atheist os bosib, mater o ddiffyg ffydd ydyw nage fe? Mae'n ddigon posib fod y bobol yma yn cyfrannu'n helaeth mewn ffyrdd eraill. Wyt ti fel petaet yn meddwl am atheists fel rhyw grefydd sy'n cystadlu gyda dy grefydd di ydyw.