Cymedrolwr: Rhys Llwyd
S.W. a ddywedodd:Rooney ti wir yn dipyn o gacen ffrwytthau yn dwyt.
Ble ydw i wedi dweud yn fy negeseuon y dylsai anffyddwyr benderfynu dros rieni na ddylsai eu plant gael crefydd? Dydw i heb.
Mae croeso iddynt fagu eu plant mewn bywyd crefyddol, eu hanfon i'r Moasg bob dydd Gwener, eu hanfon i gapel neu eglwys bob dydd Sul neu i'r Synagog ar ddydd Sadwrn. Dyna ble dylid dysgu am eu crefydd a gwerthoedd eu crefydd nid yn yr ysgol maent yn ei fynychu o ddydd Llun i ddydd Gwener. Byddwn i'n fwy nag parod gweld ysgolion hyd yn oed yn rhoi stafeloedd arbennig i ddisgyblion fynd i addoli os dyna oedeynt eisiau eu gwneud, ond ni ddylsai hynny fod i un crefydd ar drul crefydd arall.
Wrth anfon eu plant i ysgolion crefyddol maent yn gwahanu eu plant o plant eraill sy'n dewis credu mewn ffydd arall. Mae effeithiau hyn iw gweld yn glir yng Ngorllewin yr Alban a Gogledd Iwerddon ble mae hyd yn oed pobl o'r un crefydd (Cristnogiion) yn casau eu gilydd ac yn cadw eu hunain ar wahan. Medduyliai'r llanast gellir ei greu pan mae gwlad yn caniatau arwahanrwydd crefyddol o gwahanol grefyddau ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
S.W. a ddywedodd:Digon gwir bod nifer yn anfon eu plant i ysgolion Catholig gan eu bod yn cael eu gweld yn dda, ond yn fy marn i gyd-ddigwyddiad yw'r ffaith bod yr ysgol arbennig hon yn un dda, gei di gymaint o ysgolion 'normal' llawn cystal hefyd. Ysgol dda di ysgol dda er gwaethaf bodoliaeth neu diffyg ethos crefyddol ynddo.
Chickenfoot a ddywedodd:Gwelais y rhan o "fideo merthyr" un o'r terfysgwyr o Lundain, a basa'r peth yn uffernol o ddoniol tasa fo'n ffuglen. Roedd y boi ymddwyn fel cymeriad stereoteip o True Lies ayyb - ond hefo sgript gwaeth. Mae sgets da ar y rhaglen Monkey Dust sydd yn trafod pobl fel hyn.
Ond eto, dydi Mwlsemiaeth byth yn mynd i fod yn fygythiad, gan taw pobl Cristion/seciwlar/Iddewig fydd y mwyafrif ym Mhrydain am byth. Efalla bod y cyfryngau'n chwarae'r peth i fyny braidd, ond fydd yr apathetic masses yn troi ar ddogma Islam cyn gynted a bod nhw'n ceisio gwahardd alcohol neu rywbeth. Leave it to the Chavs to save us.
rooney a ddywedodd:S.W. a ddywedodd:Rooney ti wir yn dipyn o gacen ffrwytthau yn dwyt.
ad hominem, pam?Ble ydw i wedi dweud yn fy negeseuon y dylsai anffyddwyr benderfynu dros rieni na ddylsai eu plant gael crefydd? Dydw i heb.
Mae croeso iddynt fagu eu plant mewn bywyd crefyddol, eu hanfon i'r Moasg bob dydd Gwener, eu hanfon i gapel neu eglwys bob dydd Sul neu i'r Synagog ar ddydd Sadwrn. Dyna ble dylid dysgu am eu crefydd a gwerthoedd eu crefydd nid yn yr ysgol maent yn ei fynychu o ddydd Llun i ddydd Gwener. Byddwn i'n fwy nag parod gweld ysgolion hyd yn oed yn rhoi stafeloedd arbennig i ddisgyblion fynd i addoli os dyna oedeynt eisiau eu gwneud, ond ni ddylsai hynny fod i un crefydd ar drul crefydd arall.
Nid oes shwd beth a niwtraliaeth. Yr wyt felly yn penderfynnu dros bawb fod ysgolion fod dilyn dy syniadau di am rol a lle crefydd, sef hybu pluralism ac amorality (gyda atheism fel default) a cadw crefydd o fewn gwersi RE a muriau'r addoldai a ddim yn y sffer gyhoeddus.Wrth anfon eu plant i ysgolion crefyddol maent yn gwahanu eu plant o plant eraill sy'n dewis credu mewn ffydd arall. Mae effeithiau hyn iw gweld yn glir yng Ngorllewin yr Alban a Gogledd Iwerddon ble mae hyd yn oed pobl o'r un crefydd (Cristnogiion) yn casau eu gilydd ac yn cadw eu hunain ar wahan. Medduyliai'r llanast gellir ei greu pan mae gwlad yn caniatau arwahanrwydd crefyddol o gwahanol grefyddau ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Ti'n ail-adrodd yn flinedig o ddadleuon simplistaidd Dawkins. Darllena hanes 20ed ganrif i weld y difrod gan regimes anffyddiol. Dechreua gyda Stalin, Pot, Mao.
rooney a ddywedodd:S.W. a ddywedodd:Digon gwir bod nifer yn anfon eu plant i ysgolion Catholig gan eu bod yn cael eu gweld yn dda, ond yn fy marn i gyd-ddigwyddiad yw'r ffaith bod yr ysgol arbennig hon yn un dda, gei di gymaint o ysgolion 'normal' llawn cystal hefyd. Ysgol dda di ysgol dda er gwaethaf bodoliaeth neu diffyg ethos crefyddol ynddo.
Beth am adael i rieni benderfynu, ie? Mae galw enfawr am ysgolion ffydd Gristnogol. Gad iddyn nhw fod.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai