S.W. a ddywedodd:Daw'r bygythiad gan bobl hynny o unrhyw grefydd sy'n credu mewn gorfodi crefydd ar unigolion a gwrthod parchu hawl yr unigolyn i ddewis be mae'n ei gredu. Mae'r un peth a pobl twp sy'n beio crefydd am ryfel - dyn sy'n creu rhyfel, a dyn neith ddefnyddio crefydd fel esgus o bryd iw gilydd dros fynd i ryfel, nid crefydd ei hun sy'n gwneud hyn.
Dyma'r pwynt yn dyfe. Mae pawb yn gwybod fy safbwynt anffydd erbyn nawr, ac ni allaf gytuno mwy gyda'r mwyafrif o'r uchod. Mae oedolion yn defnyddio crefydd i siwtio'u hunain (boed nhw'n credu yn y ffydd neu'n ei ddefnyddio'n bwrpasol i dwyllo a goresgyn eraill). Yn anffodus, mae'r pobl hyn pob amser yn rhoi sbin arbennig ar eu hysgrythur er mwyn taclo'r crisis nesaf ar y gorwel. Fel bydd Islam yn codi a Christnogaeth yn colli tir, bydd y cryfder a'r "hawl" sy'n dod gyda bod mewn mwyafrif am y tro cyntaf, yn beth anodd i reoli. Rwyn siwr y welwn "brofion" yn digwydd dros y ffin mewn sawl degawd, er rho ganrif, a fydd y sefyllfa'n debyg yma?