Tudalen 1 o 8

Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Maw 01 Ebr 2008 9:41 pm
gan Duw
Islam, yn ol y wasg yw'r crefydd sydd yn ennill eneidiau yn gynt nag unrhyw ffydd arall. Gyda Christnogaeth ar y ffordd allan yn Nghymru (ystadegau'r llywodraeth), a ydy hyn yn argoeli dyfodol Islamaidd? Os felly, ydy e'n rhywbeth i'w groesawu neu i'w ofni? *** Cwestiwn hypothetigol - dim byd i wneud a'm an/ffydd personol ***

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Mer 02 Ebr 2008 12:44 am
gan bartiddu
Darllena unrhywbeth gan Freke a Gandy a gei weld pa mor hurt yw'r grefydd hwn. ( Gan "dilynwr" Freke a Gandy :) )

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Mer 02 Ebr 2008 12:56 am
gan Chickenfoot
Different aspects of the same God. Who cares, yn fy marn i beth bynnag.

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Mer 02 Ebr 2008 7:53 am
gan Duw
Chickenfoot a ddywedodd:Different aspects of the same God. Who cares, yn fy marn i beth bynnag.
Hmm, efallai, ond a fyddet am fyw dan ddeddfau shariah? Bartiddu - a fydd bod yn Gnostig yn ddigon i'n hachub?!

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Mer 02 Ebr 2008 10:15 am
gan rooney
Chickenfoot a ddywedodd:Different aspects of the same God.


Anghywir.

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Mer 02 Ebr 2008 10:20 am
gan rooney
Duw a ddywedodd:Gyda Christnogaeth ar y ffordd allan yn Nghymru (ystadegau'r llywodraeth)


Pa ystadegau? Rho linc.
Mae 60% o bobl Cymru'n credu yn atgyfodiad Iesu:-
http://www.comres.co.uk/resources/7/Soc ... arch08.pdf

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Mer 02 Ebr 2008 10:36 am
gan Hogyn o Rachub
rooney a ddywedodd:
Chickenfoot a ddywedodd:Different aspects of the same God.


Anghywir.


Dydi hyn ddim yn anghywir - i bob pwrpas yr un Duw y mae Cristionogion a Moslemiaid (a'r Iddewon) yn credu ynddo, heb sôn am y ffaith bod nifer o'r credoau craidd yn debyg a sawl tebygrwydd rhwng y Beibl a'r Quoran.

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Mer 02 Ebr 2008 10:48 am
gan Rhys Llwyd
Hogyn o Rachub a ddywedodd:
rooney a ddywedodd:
Chickenfoot a ddywedodd:Different aspects of the same God.


Anghywir.


Dydi hyn ddim yn anghywir - i bob pwrpas yr un Duw y mae Cristionogion a Moslemiaid (a'r Iddewon) yn credu ynddo, heb sôn am y ffaith bod nifer o'r credoau craidd yn debyg a sawl tebygrwydd rhwng y Beibl a'r Quoran.


Dydy hyn ddim yn wir. Mae Hanes y grefydd Gristnogol yn gallu cael ei ddeillio yn ol i'r un olyniaeth ac Iddewiaeth, Abrham, Moses ayyb... ond mae dweud fod Duw y Cristion i bob pwrpas yr un Duw a Duw o Moslem a'r Iddewon yn gwbl gamarweiniol oherwydd crux y Duw Cristnogol oedd y Duw-ddyn yn Iesu Grist - mae'r Iddewon a'r Moslemiaid yn gwadu fod Iesu yn Dduw ac felly yn hynny o beth yn pellhau eu hunain gymaint a neb o'r Duw Cristnogol.

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Mer 02 Ebr 2008 10:57 am
gan Duw
rooney a ddywedodd:Duw a ddywedodd:
Gyda Christnogaeth ar y ffordd allan yn Nghymru (ystadegau'r llywodraeth)

Pa ystadegau? Rho linc.
Mae 60% o bobl Cymru'n credu yn atgyfodiad Iesu:-


Roedd 71.6% yn 2001 (National Statistics), nawr 60%. Beth bynnag nid dyma brif pwynt yr edefyn.

rooney a ddywedodd:Chickenfoot a ddywedodd:
Different aspects of the same God.


A oes ots? Nid ydy Mwslemiaid yn mynd i fecso am hynny os byddant mewn mwyafrif ymhen sawl degawd. Beth yw'ch barn? A ydy Islam (ei dylanwad ar ein ffordd o fyw) yn fygythiad neu'n peth i'w groesawu?

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

PostioPostiwyd: Mer 02 Ebr 2008 12:48 pm
gan rooney
Duw a ddywedodd:
Roedd 71.6% yn 2001 (National Statistics), nawr 60%. Beth bynnag nid dyma brif pwynt yr edefyn.


ti ddim yn cymharu polau cyfatebol. Ble mae dy ystadegau di i honni fod Cristnogaeth "ar y ffordd allan"?

A oes ots? Nid ydy Mwslemiaid yn mynd i fecso am hynny os byddant mewn mwyafrif ymhen sawl degawd. Beth yw'ch barn? A ydy Islam (ei dylanwad ar ein ffordd o fyw) yn fygythiad neu'n peth i'w groesawu?


Islam ddim i'w groesawu. Proffwydolodd Iesu y byddai proffwydi ffals yn dod, ac mae hanes yn ei brofi yn gywir.

petae dy atheism militant di yn llwyddo i droi pobl yn erbyn Cristnogaeth, paid twyllo dy hun y byddai y byd yn troi yn fyd atheist, mae'n mynd i ddod ac unai
1. diwygiad Cristnogol, neu 2. troi at Islam
i lenwi'r gwacdod ysbrydol sy'n deillio o atheism, gan fedr dyn ddim byw ar fara yn unig