Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan rooney » Mer 02 Ebr 2008 12:54 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dydi hyn ddim yn anghywir - i bob pwrpas yr un Duw y mae Cristionogion a Moslemiaid (a'r Iddewon) yn credu ynddo, heb sôn am y ffaith bod nifer o'r credoau craidd yn debyg a sawl tebygrwydd rhwng y Beibl a'r Quoran.


Qu'ran yn llygriad (corruption) o'r Beibl a grewyd ganoedd o flynyddoedd ar ol Crist, sy'n gwadu Iesu fel Oen Duw, Mab Duw a fu farw ar y groes ac wedyn ei atgyfodi gan Dduw
Mae gwaredigaeth dyn yn ol y ddau yn gwbl wahanol, crefydd works-based yw Islam- arwydd cryf mae crefydd ffals wedi ei greu gan ddyn yw felly...
Mae llwythi o wahaniaethau o natur Duw yn ol y Beibl a'r Qu'ran.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan ceribethlem » Mer 02 Ebr 2008 1:12 pm

Chickenfoot a ddywedodd:Who cares, yn fy marn i beth bynnag.

:rolio: Pam ffwdanu cyfranu i'r edefyn felly?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 02 Ebr 2008 1:25 pm

rooney a ddywedodd:Qu'ran yn llygriad (corruption) o'r Beibl a grewyd ganoedd o flynyddoedd ar ol Crist, sy'n gwadu Iesu fel Oen Duw, Mab Duw a fu farw ar y groes ac wedyn ei atgyfodi gan Dduw
....
Mae llwythi o wahaniaethau o natur Duw yn ol y Beibl a'r Qu'ran.


Derbyn dy bwynt ar hyn, a phwyntiau Rhys Llwyd - ond mae sail pob crefydd yn eithaf tebyg yn y bôn, ac mae'r tebygolrwydd rhwng y Duwiau hyn (os credir eu bod yn rhai gwahanol) yn fwy na'u gwahaniaethau.

A dw i'n gwybod beth ydi llygriad, diolch yn fawr :rolio:

O ran y pwynt gwreiddiol, a ydi Moslemiaeth yn fygythiad i'r ffordd orllewiniol o fyw, mi ellir dadlau ei fod yn yr un modd ag yw lot o Saeson yn symud i ardaloedd Cymraeg yn fygythiad i'r ffordd Gymreig o fyw. Dydi'r niferoedd o Foslemiaid yn y gorllewin ddim yn ddigon i wneud hyn ar hyn o bryd, ac mi fyddwn i'n dadlau bod rhan fwyaf o Foslemiaid y Gorllewin yn cydymffurfio â'r ffordd orllewiniol o fyw, fel petai. Ond os byddai'r mewnlifiad o Foslemiaid yn cyrraedd 'critical mass', yna efallai y byddai pethau yn dechrau newid.

Ond ar hyn o bryd, na, dydi o ddim.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan Macsen » Mer 02 Ebr 2008 1:26 pm

Mae diwylliant gorllewinol wedi ei seilio i raddau helaeth ar Gristnogaeth felly fe fydd Islam yn sicr yn newid y 'ffordd o fyw' orllewinol - mae'r gair 'bygwth' braidd yn awgrymog.

Mae yna agweddau o'r diwylliant Mwslimaidd dw i'n ei hoffi, fel yr pensaerniaeth er engraifft. Y cwestiwn yw, ar pa bwynt mae diwylliant lleafrifol yn croesi'r ffin rhwng cyfoethogi diwylliant arall a dechrau ei gymryd o drosodd? Dyn ni heb gyraedd y pwynt yna eto beth bynnag.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan Chickenfoot » Mer 02 Ebr 2008 1:42 pm

ceribethlem a ddywedodd:
Chickenfoot a ddywedodd:Who cares, yn fy marn i beth bynnag.

:rolio: Pam ffwdanu cyfranu i'r edefyn felly?


Dw i'm yn gwybod. Diflasdod, mwy na ddim byd arall. Roeddwn i newydd wedi gorffen "darllen" rhifyn Playboy Maria Kanellis, a teimlas sudden rush of boredom ar ol darllen. Eniwe...wna i adael i'r oedolion trafod rwan.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan Duw » Mer 02 Ebr 2008 3:40 pm

Dwi ddim yn gwybod beth yw e Rooney, ond rwyt yn mynnu fy sylw trwy'r amser fel plentyn yn mynnu ar ei Dad.
rooney a ddywedodd:Duw a ddywedodd:

Roedd 71.6% yn 2001 (National Statistics), nawr 60%. Beth bynnag nid dyma brif pwynt yr edefyn.


ti ddim yn cymharu polau cyfatebol. Ble mae dy ystadegau di i honni fod Cristnogaeth "ar y ffordd allan"?


Ti'n gywir o ran polau cyfatebol. Ni ellir ymddiried mewn ystadegau noeth fel a roddais. Er, gan feddwl bod canran llai o fwslemiaid (a phobl o grefyddau eraill) yng Nghymru na Phrydain yn ei chyfanrwydd, dylai Cymru fod yn uwch na 71.6% nid llai. Y ffaith eich bod yn rhifo o gwmpas 60% (nid fy mhol i, ond d'un di), yn awgrymu cwymp sylweddol i mi. Os wyt yn amau'r ystadegau, paid a'u dyfynnu.

Mae gan Islam llawer yn gyffredin i Gristnogaeth o ran y ffydd a'r Beibl (Adda, Moses, Noa, Ibrahim, Ieshwa ben Ioseff o Nasareth). Y peth dwi'n ei weld fel y brif wahaniaeth yw'r diwylliant. Hwn fydd y prawf - a oes modd amsugno diwylliant sy'n cynnwys crefydd fel ei asgwrn cefn? Fel cafodd ei grybwyll, beth yw'r gwahaniaeth rhwng hwn a'r Saeson? Gallwn weld effaith y Sais (rhonc) ar gefn gwlad, ond wedyn, mae nifer wedi'u hamsugno. Mae llawer o ddisgyblion ysgolion cyfrwng Cymraeg yn dod o gartrefi gyda Saeson am rieni. A fyddai'r un canran yn "cydymffurfio" o ddiwylliant Islamaidd (dwi gwybod bod rhai eisoes - sylwch y gair "canran")?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan rooney » Mer 02 Ebr 2008 3:54 pm

Mae'r gwahaniaethau rhwng Cymru a Saeson yn ddibwys o'i gymharu a gwlad Judeo-Cristion a Moslem.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan Duw » Mer 02 Ebr 2008 4:14 pm

We believe in God and that which was revealed unto us
and that which was revealed unto Abraham, and Ismail, and Isaac, and Jacob,
and the tribes, and that which Moses and Jesus received,
and that which the Prophets received from their Lord.
We make no distinction between any of them and unto Him we surrender
Qur'an 2:136

Swnio fel llawer yn gyffredin a heb enw Iesu, fel rhywbeth byddwn wedi clywed yn ysgol sul. Jolly good boys te.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan S.W. » Sul 06 Ebr 2008 8:59 am

Dio mond yn fygythiad fel pob cred arall pan mae pobl yn trio ei osod 'yn erbyn' rhyhwbeth arall. Dwi ddim yn meddwl bod Islam yn ei hanfon yn fy erbyn i fel person sydd ddim yn dilyn y ffydd arbennig hwnw. Daw'r bygythiad gan bobl hynny o unrhyw grefydd sy'n credu mewn gorfodi crefydd ar unigolion a gwrthod parchu hawl yr unigolyn i ddewis be mae'n ei gredu. Mae'r un peth a pobl twp sy'n beio crefydd am ryfel - dyn sy'n creu rhyfel, a dyn neith ddefnyddio crefydd fel esgus o bryd iw gilydd dros fynd i ryfel, nid crefydd ei hun sy'n gwneud hyn.

Does dim gwadu bod y cysylltiadau rhwng Islam, Cristnogaeth ac Iddewiaeth yn rhai hynod gref. Mae Mwslemiaid yn cydnabod bodolaeth Iesu Grist ac yn ei weld fel proffwyd i Allah, sydd yn debyg iawn i be mae'r Beibl yn dweud oedd o'n ei wneud, tra wrth gwrs oedd Iesu yn Iddew ei hun. Ffordd gwahanol o gredu rhywbeth sy'n elfenol debyg ydy'r 3 crefydd yma yn fy marn i.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan mabon-gwent » Sul 06 Ebr 2008 3:03 pm

S.W. a ddywedodd:Ffordd gwahanol o gredu rhywbeth sy'n elfenol debyg ydy'r 3 crefydd yma yn fy marn i.


Dyma'r Nicene Creed - mae'r pethau cristnogion yn credu

Tad
We believe in one God,
the Father, the Almighty,
maker of heaven and earth,
of all that is, seen and unseen.


Gallai Islam, Cristnogaeth ac Iddewiaeth yn cytuno gyda hwn, achos maen nhw i gyd yn undduwiaethau. Ond y Duw y mae'r cristnogion yn credu ynddo yn Drindod. Er engraifft, sdim Mab 'da Allah, ond:

Mab
We believe in one Lord, Jesus Christ,
the only Son of God,
eternally begotten of the Father,
God from God, Light from Light,
true God from true God,
begotten, not made,
of one Being with the Father.
Through him all things were made.
For us and for our salvation
he came down from heaven:
by the power of the Holy Spirit
he became incarnate from the Virgin Mary,
and was made man.
For our sake he was crucified under Pontius Pilate;
he suffered death and was buried.
On the third day he rose again
in accordance with the Scriptures;
he ascended into heaven
and is seated at the right hand of the Father.
He will come again in glory to judge the living and the dead,
and his kingdom will have no end.


Yn y Koran dyw Iesu ddim yn marw, ond mae'n cael ei achub. Mae'r pwyslais yn gwahanol rhwng y dau ffydd, mae cristnogaeth yn dweud drwy gras yn ni'n mynd i'r nef, ond mae Islam yn dweud mae'n drwy ein gweithredoedd.

Ysbryd Glân
We believe in the Holy Spirit, the Lord, the giver of life,
who proceeds from the Father and the Son.
With the Father and the Son he is worshiped and glorified.
He has spoken through the Prophets.
We believe in one holy catholic and apostolic Church.
We acknowledge one baptism for the forgiveness of sins.
We look for the resurrection of the dead,
and the life of the world to come.


Yn y series cynta Blackadder, mae'r Brenin yn dweud mae wedi bod yn siarad â Duw, ei Fab Iesu Grist, a'i ffrind yr Ysbryd Glân. Yn wir maen nhw i gyd yn un, ond dyw Islam neu Iddewiaeth yn credu yn y Drindod sy'n holl bwysig yn Cristnogaeth.

Hefyd i split hairs mae Duw Cristnogaeth yn sanctaidd yn gynta, ac wedyn holl nerthol, pan mae Allah yn holl nerthol yn gynta, ac wedyn sanctaidd.
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron