Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan Chickenfoot » Iau 10 Ebr 2008 3:58 pm

Yn union. Es i ysgolion seciwlar ar y cyfan, and I turned out ok. Wel...
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan rooney » Iau 10 Ebr 2008 6:08 pm

S.W. a ddywedodd:Rooney ti wir yn dipyn o gacen ffrwytthau yn dwyt.


ad hominem, pam?

Ble ydw i wedi dweud yn fy negeseuon y dylsai anffyddwyr benderfynu dros rieni na ddylsai eu plant gael crefydd? Dydw i heb.
Mae croeso iddynt fagu eu plant mewn bywyd crefyddol, eu hanfon i'r Moasg bob dydd Gwener, eu hanfon i gapel neu eglwys bob dydd Sul neu i'r Synagog ar ddydd Sadwrn. Dyna ble dylid dysgu am eu crefydd a gwerthoedd eu crefydd nid yn yr ysgol maent yn ei fynychu o ddydd Llun i ddydd Gwener. Byddwn i'n fwy nag parod gweld ysgolion hyd yn oed yn rhoi stafeloedd arbennig i ddisgyblion fynd i addoli os dyna oedeynt eisiau eu gwneud, ond ni ddylsai hynny fod i un crefydd ar drul crefydd arall.


Nid oes shwd beth a niwtraliaeth. Yr wyt felly yn penderfynnu dros bawb fod ysgolion fod dilyn dy syniadau di am rol a lle crefydd, sef hybu pluralism ac amorality (gyda atheism fel default) a cadw crefydd o fewn gwersi RE a muriau'r addoldai a ddim yn y sffer gyhoeddus.

Wrth anfon eu plant i ysgolion crefyddol maent yn gwahanu eu plant o plant eraill sy'n dewis credu mewn ffydd arall. Mae effeithiau hyn iw gweld yn glir yng Ngorllewin yr Alban a Gogledd Iwerddon ble mae hyd yn oed pobl o'r un crefydd (Cristnogiion) yn casau eu gilydd ac yn cadw eu hunain ar wahan. Medduyliai'r llanast gellir ei greu pan mae gwlad yn caniatau arwahanrwydd crefyddol o gwahanol grefyddau ar gyfer y genhedlaeth nesaf.


Ti'n ail-adrodd yn flinedig o ddadleuon simplistaidd Dawkins. Darllena hanes 20ed ganrif i weld y difrod gan regimes anffyddiol. Dechreua gyda Stalin, Pot, Mao.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan rooney » Iau 10 Ebr 2008 6:10 pm

S.W. a ddywedodd:Digon gwir bod nifer yn anfon eu plant i ysgolion Catholig gan eu bod yn cael eu gweld yn dda, ond yn fy marn i gyd-ddigwyddiad yw'r ffaith bod yr ysgol arbennig hon yn un dda, gei di gymaint o ysgolion 'normal' llawn cystal hefyd. Ysgol dda di ysgol dda er gwaethaf bodoliaeth neu diffyg ethos crefyddol ynddo.


Beth am adael i rieni benderfynu, ie? Mae galw enfawr am ysgolion ffydd Gristnogol. Gad iddyn nhw fod.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan Muralitharan » Iau 10 Ebr 2008 9:24 pm

... ysgolion Mwslemaidd hefyd?
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan Chickenfoot » Iau 10 Ebr 2008 10:55 pm

Gwelais y rhan o "fideo merthyr" un o'r terfysgwyr o Lundain, a basa'r peth yn uffernol o ddoniol tasa fo'n ffuglen. Roedd y boi ymddwyn fel cymeriad stereoteip o True Lies ayyb - ond hefo sgript gwaeth. Mae sgets da ar y rhaglen Monkey Dust sydd yn trafod pobl fel hyn.

Ond eto, dydi Mwlsemiaeth byth yn mynd i fod yn fygythiad, gan taw pobl Cristion/seciwlar/Iddewig fydd y mwyafrif ym Mhrydain am byth. Efalla bod y cyfryngau'n chwarae'r peth i fyny braidd, ond fydd yr apathetic masses yn troi ar ddogma Islam cyn gynted a bod nhw'n ceisio gwahardd alcohol neu rywbeth. Leave it to the Chavs to save us.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan rooney » Iau 10 Ebr 2008 11:00 pm

Chickenfoot a ddywedodd:Gwelais y rhan o "fideo merthyr" un o'r terfysgwyr o Lundain, a basa'r peth yn uffernol o ddoniol tasa fo'n ffuglen. Roedd y boi ymddwyn fel cymeriad stereoteip o True Lies ayyb - ond hefo sgript gwaeth. Mae sgets da ar y rhaglen Monkey Dust sydd yn trafod pobl fel hyn.

Ond eto, dydi Mwlsemiaeth byth yn mynd i fod yn fygythiad, gan taw pobl Cristion/seciwlar/Iddewig fydd y mwyafrif ym Mhrydain am byth. Efalla bod y cyfryngau'n chwarae'r peth i fyny braidd, ond fydd yr apathetic masses yn troi ar ddogma Islam cyn gynted a bod nhw'n ceisio gwahardd alcohol neu rywbeth. Leave it to the Chavs to save us.


a beth os deith twrci yn ran o'r Undeb Ewropeaidd... tybed ble eith y mwslemiaid hynny
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan Muralitharan » Iau 10 Ebr 2008 11:22 pm

... a fy nghwestiwn i Rooney?
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan Muralitharan » Iau 10 Ebr 2008 11:29 pm

Pam nad wyt ti byth yn ateb fy nghwestiynau i Rooney? Dwi wedi anobeithio'n llwyr ynglyn a fy nghwestiwn ynglyn a dulliau lladd/dienyddio pobl.
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan S.W. » Gwe 11 Ebr 2008 8:27 am

rooney a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:Rooney ti wir yn dipyn o gacen ffrwytthau yn dwyt.


ad hominem, pam?

Ble ydw i wedi dweud yn fy negeseuon y dylsai anffyddwyr benderfynu dros rieni na ddylsai eu plant gael crefydd? Dydw i heb.
Mae croeso iddynt fagu eu plant mewn bywyd crefyddol, eu hanfon i'r Moasg bob dydd Gwener, eu hanfon i gapel neu eglwys bob dydd Sul neu i'r Synagog ar ddydd Sadwrn. Dyna ble dylid dysgu am eu crefydd a gwerthoedd eu crefydd nid yn yr ysgol maent yn ei fynychu o ddydd Llun i ddydd Gwener. Byddwn i'n fwy nag parod gweld ysgolion hyd yn oed yn rhoi stafeloedd arbennig i ddisgyblion fynd i addoli os dyna oedeynt eisiau eu gwneud, ond ni ddylsai hynny fod i un crefydd ar drul crefydd arall.


Nid oes shwd beth a niwtraliaeth. Yr wyt felly yn penderfynnu dros bawb fod ysgolion fod dilyn dy syniadau di am rol a lle crefydd, sef hybu pluralism ac amorality (gyda atheism fel default) a cadw crefydd o fewn gwersi RE a muriau'r addoldai a ddim yn y sffer gyhoeddus.

Wrth anfon eu plant i ysgolion crefyddol maent yn gwahanu eu plant o plant eraill sy'n dewis credu mewn ffydd arall. Mae effeithiau hyn iw gweld yn glir yng Ngorllewin yr Alban a Gogledd Iwerddon ble mae hyd yn oed pobl o'r un crefydd (Cristnogiion) yn casau eu gilydd ac yn cadw eu hunain ar wahan. Medduyliai'r llanast gellir ei greu pan mae gwlad yn caniatau arwahanrwydd crefyddol o gwahanol grefyddau ar gyfer y genhedlaeth nesaf.


Ti'n ail-adrodd yn flinedig o ddadleuon simplistaidd Dawkins. Darllena hanes 20ed ganrif i weld y difrod gan regimes anffyddiol. Dechreua gyda Stalin, Pot, Mao.


Rooney, mae ffasiwn beth a niwtralaeth. Ti sydd ddim isio cydnabod ei fodolaeth. Gelli di addysgu plant am pob prif grefydd yn y byd gan hefyd pwysleisio hawl yr unigolyn i benderfynu ba ffydd, neu os am gael ffydd bydd y person am ei ddewis. I bobl call Rooney di hynny ddim yn beth anodd iw wneud. Dim ond i ffwndamentalwyr crefyddol mae hyn yn amhosib, pobl fel ti fe ymddengys.

Dwi erioed di darllen gwaith Dawkins a sgenai'm isio chwaith. Dwi digon hen ac hyll i allu penderfynu dros fy hun be ydy fy marn i diolch yn fawr iawn i ti.

rooney a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:Digon gwir bod nifer yn anfon eu plant i ysgolion Catholig gan eu bod yn cael eu gweld yn dda, ond yn fy marn i gyd-ddigwyddiad yw'r ffaith bod yr ysgol arbennig hon yn un dda, gei di gymaint o ysgolion 'normal' llawn cystal hefyd. Ysgol dda di ysgol dda er gwaethaf bodoliaeth neu diffyg ethos crefyddol ynddo.


Beth am adael i rieni benderfynu, ie? Mae galw enfawr am ysgolion ffydd Gristnogol. Gad iddyn nhw fod.


I fod yn gwbwl plaen - Na. Mae yna alw mwy fyth am ysgolion ffydd Fwslemaidd mewn nifer fawr o gymunedau. Pam na wnei di ateb cwestiwn Murialathran?

Roedd rhieni gwyn yn Taleithiau Deheuol yr UDA am iw plant gael eu haddysgu ar wahan i blant du yn y 50au a'r 60au. Be fyddet ti'n dweud adeg yne? "Gad iddyn nhw fod"?
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Ydy Islam yn fygythiad i'n ffordd orllewinol o fyw?

Postiogan Duw » Gwe 11 Ebr 2008 8:50 am

Unwaith eto, mae edefyn wedi syrthio dan sawdl rooney a'r rheini ohonom sydd yn hoffi dadle gydag e. Sylwch, dydy Rooney byth y ateb cwestiynau "anodd", oherwydd rydym yn gwybod bydde'i ateb yn ei wneud i edrych yn fwy ffol. Beth am hwn Rooney - a wellte di weld Cymru anffyddiog neu Cymru mwslemaidd (mwyafrif o drigolion)? Yn sicr bydd Cymru ddim yn Gristnogol ymhen sawl degawd.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron